Huw Lloyd Edwards: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 4: | Llinell 4: | ||
Cyhoeddodd nifer o ddramâu, gweddol ysgafn a phoblogaidd eu naws yn y dechrau ond yn waith o sylwedd cynyddol fel y datblygodd ei grefft, gan ennill edmygedd y beirniaid. Roedd ei ddrama ''Cynfyng-Gyngor'' yn llwyddiannus yng nghystadleuaeth drama tair act Eisteddfod Genedlaethol Glynebwy, 1958. | Cyhoeddodd nifer o ddramâu, gweddol ysgafn a phoblogaidd eu naws yn y dechrau ond yn waith o sylwedd cynyddol fel y datblygodd ei grefft, gan ennill edmygedd y beirniaid. Roedd ei ddrama ''Cynfyng-Gyngor'' yn llwyddiannus yng nghystadleuaeth drama tair act Eisteddfod Genedlaethol Glynebwy, 1958. | ||
Nododd John Ellis Williams yn ei lyfr ''Tri Dramaydd Cyfoes'' (sef Saunders Lewis, [[John Gwilym Jones]] a Huw Lloyd Edwards) 'fod gan Huw Lloyd Edwards y ddawn gynhenid i greu difyrrwch, a adlonai gynulleidfa, ac fe sylweddolodd y gellid defnyddio'r ddawn hon, nid yn unig i gyffroi cynulleidfa i chwerthin, ond hefyd i'w chyffroi i feddwl drosti ei hun.' Dyna a wnaeth yn ei gomedïau ysgafn a'i | Nododd John Ellis Williams yn ei lyfr ''Tri Dramaydd Cyfoes'' (sef Saunders Lewis, [[John Gwilym Jones]] a Huw Lloyd Edwards) 'fod gan Huw Lloyd Edwards y ddawn gynhenid i greu difyrrwch, a adlonai gynulleidfa, ac fe sylweddolodd y gellid defnyddio'r ddawn hon, nid yn unig i gyffroi cynulleidfa i chwerthin, ond hefyd i'w chyffroi i feddwl drosti ei hun.' Dyna a wnaeth yn ei gomedïau ysgafn a'i ddramâu radio a llwyfan.<ref>Wicipedia,''Huw Lloyd Edwards'' [https://cy.wikipedia.org/wiki/Huw_Lloyd_Edwards], a Gwefan BBC Cymru Lleol Gogledd-Orllewin, Medi 2007, [http://www.bbc.co.uk/cymru/gogleddorllewin/papurau_bro/ecor_wyddfa/newyddion/medi07.shtml], cyrchwyd 20.8.2021; </ref> | ||
== Dramâu == | == Dramâu == |
Fersiwn yn ôl 14:23, 19 Awst 2021
Dramodydd Cymreig oedd Huw Lloyd Edwards (1916-1975), a anwyd yn Siop Gron, Penisa'rwaun. Gyda'i bryd ar fod yn offeiriad Anglicanaidd, fe fynychodd Goleg Llanbedr Pont Steffan a Choleg Mihangel, Llandaf. Yn y pen draw, ni aeth yn offeiriad ac ar ôl cyfnod fel cyfrifydd, hyfforddodd fel athro. Cafodd swydd fel athro Saesneg yn Ysgol Uwchradd Pen-y-groes, lle y dylanwadodd ar nifer o ddisgyblion a aeth yn eu blaen i wneud gyrfa ym myd y ddrama a'r cyfryngau. Ar ôl 15 mlynedd ym Mhen-y-groes, fe'i benodwyd i swydd yn y Coleg Normal, Bangor, lle bu'n ddarlithydd dylanwadol nes iddo farw.[1]
Cyhoeddodd nifer o ddramâu, gweddol ysgafn a phoblogaidd eu naws yn y dechrau ond yn waith o sylwedd cynyddol fel y datblygodd ei grefft, gan ennill edmygedd y beirniaid. Roedd ei ddrama Cynfyng-Gyngor yn llwyddiannus yng nghystadleuaeth drama tair act Eisteddfod Genedlaethol Glynebwy, 1958.
Nododd John Ellis Williams yn ei lyfr Tri Dramaydd Cyfoes (sef Saunders Lewis, John Gwilym Jones a Huw Lloyd Edwards) 'fod gan Huw Lloyd Edwards y ddawn gynhenid i greu difyrrwch, a adlonai gynulleidfa, ac fe sylweddolodd y gellid defnyddio'r ddawn hon, nid yn unig i gyffroi cynulleidfa i chwerthin, ond hefyd i'w chyffroi i feddwl drosti ei hun.' Dyna a wnaeth yn ei gomedïau ysgafn a'i ddramâu radio a llwyfan.[2]
Dramâu
- Noson o Lety (drama fer), 1954
- Y Felin Wynt
- Llwyn Brain : comedi ysgafn, tair act, Gwasg Aberystwyth, 1956
- Yr Orffiws : comedi mewn tair act, Gwasg Aberystwyth, 1956
- Y Gŵr Drwg: comedi, Gwasg Aberystwyth, 1957
- Cyfyng-Gyngor, Gwasg Aberystwyth, 1958
- Y Gŵr o Gath-Heffer ac Y Gŵr o Wlad Us, Gwasg Gee, 1961
- Ar Ddu a Gwyn, Gwasg Gee, Rhagfyr 1963
- Pros Kairon: Drama mewn tair act,Gwasg Gee, Rhagfyr, 1967
- Y Llyffantod: Drama mewn pedair golygfa, Gwasg Gee, Rhagfyr, 1973
- Y Lefiathan : ffantasi mewn pum golygfa, Gwasg Gee, 1977