Huw Lloyd Edwards: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 6: | Llinell 6: | ||
== Dramâu == | == Dramâu == | ||
*''Cyfyng-Gyngor'', Gwasg Aberystwyth, 1957 | *''Cyfyng-Gyngor'', Gwasg Aberystwyth, 1957 | ||
*''Y Gŵr o Gath Heffer'' ac ''Y Gŵr o Wlad Us'', Gwasg Gee | |||
*''Ar Ddu a Gwyn'', Gwasg Gee, Rhagfyr 1963 | *''Ar Ddu a Gwyn'', Gwasg Gee, Rhagfyr 1963 | ||
*''Pros Kairon: Drama mewn tair act'',Gwasg Gee, Rhagfyr 1967 | *''Pros Kairon: Drama mewn tair act'',Gwasg Gee, Rhagfyr 1967 |
Fersiwn yn ôl 12:10, 19 Awst 2021
Dramodydd Cymreig oedd Huw Lloyd Edwards (1916-1975), a anwyd yn Siop Gron, Llanrug. Bu'n athro Saesneg yn Ysgol Uwchradd Pen-y-groes, lle dylanwadodd ar nifer o ddisgyblion a aeth yn eu blaen i wneud gyrfa ym myd y ddrama a'r cyfryngau. Wedyn, bu'n ddarlithydd dylanwadol yng Ngholeg y Normal, Bangor.
Nododd J. Ellis Williams yn ei lyfr Tri Dramaydd Cyfoes (sef Saunders Lewis, John Gwilym Jones a Huw Lloyd Edwards) 'fod gan Huw Lloyd Edwards y ddawn gynhenid i greu difyrrwch, a adlonai gynulleidfa, ac fe sylweddolodd y gellid defnyddio'r ddawn hon, nid yn unig i gyffroi cynulleidfa i chwerthin, ond hefyd i'w chyffroi i feddwl drosti ei hun.' Dyna a wnaeth yn ei gomediau ysgafn a'i ddramau radio a llwyfan.[1]
Dramâu
- Cyfyng-Gyngor, Gwasg Aberystwyth, 1957
- Y Gŵr o Gath Heffer ac Y Gŵr o Wlad Us, Gwasg Gee
- Ar Ddu a Gwyn, Gwasg Gee, Rhagfyr 1963
- Pros Kairon: Drama mewn tair act,Gwasg Gee, Rhagfyr 1967
- Y llyffantod: Drama mewn pedair golygfa, Gwasg Gee, Rhagfyr 1973
Cyfeiriadau
- ↑ Wicipedia,Huw Lloyd Edwards [1], a Gwefan Cymru Fyw, Medi 2007, Cydnabod y dramodydd Huw Lloyd Edwards, cyrchwyd 20.8.2021;