David Thomas Williams (Dafydd Tom): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Bardd a llenor a aned yn [[Trefor|Nhrefor]] ar 17 Mawrth 1914 oedd '''David Thomas Williams''' (neu Dafydd Tom fel yr adwaenid ef yn lleol). Yn ddyn ifanc cyn y rhyfel bu'n aelod blaengar o'r dosbarthiadau W.E.A. a gynhelid yn Nhrefor gan Cynan, [[R. Williams | Bardd a llenor a aned yn [[Trefor|Nhrefor]] ar 17 Mawrth 1914 oedd '''David Thomas Williams''' (neu Dafydd Tom fel yr adwaenid ef yn lleol). Yn ddyn ifanc cyn y rhyfel bu'n aelod blaengar o'r dosbarthiadau W.E.A. a gynhelid yn Nhrefor gan Cynan, [[R. Williams Parry]], [[John Gwilym Jones]] a Wallis Evans, athro Cymraeg Coleg Harlech. Dylanwad pwysig arall arno oedd y seiadau barddol a llenyddol a gai yng nghwmni beirdd eraill o'r pentref, fel William Roberts a [[Tom Bowen Jones]]. Ym 1947 aeth i weithio i Wasg y Brython yn Lerpwl, gan ymgartrefu yn Wallasey, gan symud yn ddiweddarach at y Liverpool Daily Post and Echo. Ar ôl ymddeol, ac yntau'n ŵr gweddw erbyn hynny, dychwelodd i fyw i Drefor lle bu hyd ei farw. | ||
Ysgrifennodd nifer helaeth o delynegion, sonedau, englynion, ysgrifau a straeon byrion ac roedd yn gystadleuydd cyson mewn eisteddfodau. Yn Eisteddfod Genedlaethol Ystradgynlais ym 1954 bu'n gyd-fuddugol ar ysgrif "Tanio Cetyn". Hefyd ym 1954 enillodd gadair Eisteddfod Meirion am ei bryddest ar y testun "Y Bont" a phum mlynedd ynghynt, ym 1949, enillodd ei bryddest "Y Chwarel" gadair Eisteddfod Arfon iddo. | Ysgrifennodd nifer helaeth o delynegion, sonedau, englynion, ysgrifau a straeon byrion ac roedd yn gystadleuydd cyson mewn eisteddfodau. Yn Eisteddfod Genedlaethol Ystradgynlais ym 1954 bu'n gyd-fuddugol ar ysgrif "Tanio Cetyn". Hefyd ym 1954 enillodd gadair Eisteddfod Meirion am ei bryddest ar y testun "Y Bont" a phum mlynedd ynghynt, ym 1949, enillodd ei bryddest "Y Chwarel" gadair Eisteddfod Arfon iddo. |
Fersiwn yn ôl 13:59, 7 Gorffennaf 2021
Bardd a llenor a aned yn Nhrefor ar 17 Mawrth 1914 oedd David Thomas Williams (neu Dafydd Tom fel yr adwaenid ef yn lleol). Yn ddyn ifanc cyn y rhyfel bu'n aelod blaengar o'r dosbarthiadau W.E.A. a gynhelid yn Nhrefor gan Cynan, R. Williams Parry, John Gwilym Jones a Wallis Evans, athro Cymraeg Coleg Harlech. Dylanwad pwysig arall arno oedd y seiadau barddol a llenyddol a gai yng nghwmni beirdd eraill o'r pentref, fel William Roberts a Tom Bowen Jones. Ym 1947 aeth i weithio i Wasg y Brython yn Lerpwl, gan ymgartrefu yn Wallasey, gan symud yn ddiweddarach at y Liverpool Daily Post and Echo. Ar ôl ymddeol, ac yntau'n ŵr gweddw erbyn hynny, dychwelodd i fyw i Drefor lle bu hyd ei farw.
Ysgrifennodd nifer helaeth o delynegion, sonedau, englynion, ysgrifau a straeon byrion ac roedd yn gystadleuydd cyson mewn eisteddfodau. Yn Eisteddfod Genedlaethol Ystradgynlais ym 1954 bu'n gyd-fuddugol ar ysgrif "Tanio Cetyn". Hefyd ym 1954 enillodd gadair Eisteddfod Meirion am ei bryddest ar y testun "Y Bont" a phum mlynedd ynghynt, ym 1949, enillodd ei bryddest "Y Chwarel" gadair Eisteddfod Arfon iddo.
Dyma delyneg o'i waith ar y testun "Y Cynhaeaf" a detholiad byr o'i bryddest "Y Chwarel".
"Y Cynhaeaf"
Pan oedd yr ŷd yn bendrwm A'r haul yn euro'i liw, Aeth Wil y gwas â'i bladur I feysydd Troed y Rhiw. Roedd sisial sych y gyllell Yn fiwsig ar ei glust, A chyn bo hir roedd cnydau Y fferm dan chwip y ffust.
Bu'r grawn ar lawr y felin Bu'r drol yn nôl y blawd, A daeth y blawd yn fara I fyrddau'r werin dlawd.
A phan af weithiau heibio I dwr o blantos mân Yn prancio ac yn chwerthin, A'u cnawd yn fwythus lân, Mi gofiaf am gae gwenith A'r haul yn euro'i liw, A Wil yn gweithio'r bladur Drwy'r ŷd yn Nhroed y Rhiw.
"Y Chwarel"
Ei grefft oedd crefft ei dadau, Celfyddyd gordd a chŷn, A'r gamp o droi yn fara Hen greigiau glaslwyd Llŷn, A lle bu'r grug yn gwario Ei wrid ddiwedydd haf, Heddiw mae wyneb creithiog Y graig yn llwyd a chlaf.
Bu'r gwynt drwy'r maith ganrifoedd A'i fawr ddihysbydd nerth Yn rhoddi pwys ei hergwd Ar war y creigiau serth; Bu'n hysio'r môr cynddeiriog I larpio'r graig yn ddwy, A'r mynydd o'i gadernid Yn chwerthin dros y plwy.
Ond heddiw mae awelon Tyneraf yn eu tro Yn chwalu llwch ei esgyrn A'i fawr gadernid o. A phan fo storm ddidostur Yn sgrialu am y lan, Bydd llwch y tipiau'n gwmwl Uwchben y creigiau ban.
Gwageni llawn yn gwegian Ar ffordd y bryn i'r traeth, Ac wrth y cei y llongau Yn corddi'r môr yn llaeth. A bydd y graig sy'n aros Ar ôl uwchben y lli Yn llai bob tro'r â "costar" Rhwng Môn a'i throedfainc hi. [1]
Cyfeiriadau
1. Gwilym Owen, Pentref Trefor a Chwarel yr Eifl, (Penrhyndeudraeth, 1972), tt.91-3.