David Davies (Tremlyn): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Bardd a hynafiaethydd oedd David Davies, a fabwysiadodd yr enw barddol "Tremlyn". Roedd yn fab i Dafydd a Jane Davies o Gae'r Ffridd, Y Groeslon. Symudodd...'
 
B Symudodd Heulfryn y dudalen David Davies - Tremlyn i David Davies, Tremlyn
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 18:27, 25 Mehefin 2021

Bardd a hynafiaethydd oedd David Davies, a fabwysiadodd yr enw barddol "Tremlyn". Roedd yn fab i Dafydd a Jane Davies o Gae'r Ffridd, Y Groeslon. Symudodd y teulu'n fuan i Dal-y-sarn, ger chwarel Dorothea, lle bu David a'i frodyr yn chwarelwyr. Fodd bynnag, yn dilyn damwain pan oedd yn ifanc, bu'n rhaid iddo roi'r gorau i'w waith fel chwarelwr a bu am gyfnod yn ysgol Eben Fardd yng Nghlynnog. Wedi hynny cafodd swydd yn gyfrifydd yn Chwarel Pen-yr-orsedd, ac yna yn swyddfa'r chwarel yng Nghaernarfon, lle bu tan iddo ymddeol. Dywed Myrddin Fardd iddo gyfansoddi nifer dda o englynion, toddeidiau a chywyddau ac iddo ymddiddori'n helaeth mewn achau a hynafiaethau. Bu farw fis Hydref 1901 a'i gladdu yn Llanwnda ar y 24ain o'r mis hwnnw.[1]

Cyfeiriadau

1. John Jones (Myrddin Fardd), Enwogion Sir Gaernarfon, t.24.