Ysgol Ynys-yr-arch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Ysgol 'Genedlaethol', sef ysgol a  berthynai i'r Eglwys Sefydledig oedd '''Ysgol Ynys-yr-arch''', a elwid yn ddiweddarach weithiau'n Ysgol [[Pant-glas]], er iddi sefyll tua milltir o'r pentref hwnnw, ac ynghanol y wlad, ym mhen uchaf plwyf [[Clynnog Fawr]].
Ysgol 'Genedlaethol', sef ysgol a  berthynai i'r Eglwys Sefydledig oedd '''Ysgol Ynys-yr-arch''', a elwid yn ddiweddarach weithiau'n Ysgol [[Pant-glas]], er iddi sefyll tua milltir o'r pentref hwnnw, ac ynghanol y wlad, ym mhen uchaf plwyf [[Clynnog Fawr]].


Mae llythyr ymysg papurau [[Arglwydd Newborough]] yn rhoi peth o hanes cychwyniad yr ysgol.<ref>Archifdy Gwynedd, XD2/26163.</ref> Fe'i chodwyd ym 1858, gyda ficer Clynnog Fawr, y Parch.Robert Williams MA yn brif symbylydd. Roedd wedi mynd ati dair blynedd ynghynt (tua Gorffennaf 1855) i godi arian i adeiladu ysgol ym mhen uchaf ei blwyf gan nad oedd plant ardal Pant-glas a [[Bwlchderwin]] yn gallu cyrraedd [[Ysgol Genedlaethol Clynnog Fawr]], sef yr ysgol a oedd gan yr Eglwys eisoes yn y plwyf. Yn yr un modd, nid oedd modd i drigolion rhan ucha'r plwyf gyrraedd gwasanaethau yn eglwys y plwyf yn hawdd, a'i fwriad oedd cynnal gwasanaethau ar y Sul yn yr adeilad newydd hefyd. Cafwyd safle ar gyfer yr ysgol newydd gan Bucknall Lloyd ar ran o dir fferm Ynys-yr-arch ar y ffin â fferm Gyfelog. Y ficer ei hun dalodd am y defnyddiau i godi'r ysgol, tra oedd y bobl leol yn helpu trwy gario'r defynyddiau adeiladu i'r safle yn rhad ac am ddim.
Mae llythyr ymysg papurau [[Arglwydd Newborough]] yn rhoi peth o hanes cychwyniad yr ysgol.<ref>Archifdy Gwynedd, XD2/26163.</ref> Fe'i codwyd ym 1858, gyda ficer Clynnog Fawr, y Parch. Robert Williams MA yn brif symbylydd. Roedd wedi mynd ati dair blynedd ynghynt (tua Gorffennaf 1855) i godi arian i adeiladu ysgol ym mhen uchaf ei blwyf gan nad oedd plant ardal Pant-glas a [[Bwlchderwin]] yn gallu cyrraedd [[Ysgol Genedlaethol Clynnog Fawr]], sef yr ysgol a oedd gan yr Eglwys eisoes yn y plwyf. Yr un modd, nid oedd modd i drigolion rhan ucha'r plwyf gyrraedd gwasanaethau yn eglwys y plwyf yn hawdd, a'i fwriad oedd cynnal gwasanaethau ar y Sul yn yr adeilad newydd hefyd. Cafwyd safle ar gyfer yr ysgol newydd gan Bucknall Lloyd ar ran o dir fferm Ynys-yr-arch ar y ffin â fferm Gyfelog. Y ficer ei hun dalodd am y defnyddiau i godi'r ysgol, tra oedd y bobl leol yn helpu trwy gario'r defynyddiau adeiladu i'r safle yn rhad ac am ddim.


Roedd gan y ficer broblem efo'r pren oedd ei angen ar gyfer yr ysgol gan fod angen ei lifio, a'i gais i Arglwydd Newborough - a gytunodd iddo<ref>Archifdy Gwynedd, XD2/26170.</ref> - oedd cael llifio'r coed ym melin llifio Glynllifon. Byddai hyn yn arbed tua £10-12 ar y costau, ac, yn ogystal, yn cyfrif tuag at y grant oddi wrth y llywodraeth. Roedd yn disgwyl grantiau gan y Cyngor Cyfrin (sef y llywodraeth) a'r Gymdeithas Genedlaethol ond roedd angen tua £600 ar ben hynny i gwblhau'r gwaith.
Roedd gan y ficer broblem efo'r coed oedd eu hangen ar gyfer yr ysgol gan fod angen eu llifio, a'i gais i Arglwydd Newborough - a gytunodd iddo<ref>Archifdy Gwynedd, XD2/26170.</ref> - oedd cael llifio'r coed ym melin lifio Glynllifon. Byddai hyn yn arbed tua £10-12 ar y costau, ac, yn ogystal, yn cyfrif tuag at y grant oddi wrth y llywodraeth. Roedd yn disgwyl grantiau gan y Cyfrin Gyngor (sef y llywodraeth) a'r Gymdeithas Genedlaethol ond roedd angen tua £600 ar ben hynny i gwblhau'r gwaith.


Rhaid holi pam nad oedd Newborough wedi talu am beth o'r costau eisoes, fel y gwnaeth mewn achosion eraill, ond esboniodd y ficer fod Newborough wedi ymateb yn gadarnhaol i nifer o geisiadau eraill am nawdd ganddo, ac y byddai cyfraniad at y costau cynnal yr ysgol wedyn yn fwy addas.
Rhaid holi pam nad oedd Newborough wedi talu am beth o'r costau eisoes, fel y gwnaeth mewn achosion eraill, ond esboniodd y ficer fod Newborough wedi ymateb yn gadarnhaol i nifer o geisiadau eraill am nawdd ganddo, ac y byddai cyfraniad at gostau cynnal yr ysgol wedyn yn fwy addas.


Er iddi gau ers blynyddoedd, mae'r adeilad yn dal i sefyll, ac yn ddiweddar bu'n darparu llety i ymwelwyr i'r ardal.
Er iddi gau ers blynyddoedd, mae'r adeilad yn dal i sefyll, ac yn ddiweddar bu'n darparu llety i ymwelwyr i'r ardal.

Fersiwn yn ôl 10:44, 6 Mai 2021

Ysgol 'Genedlaethol', sef ysgol a berthynai i'r Eglwys Sefydledig oedd Ysgol Ynys-yr-arch, a elwid yn ddiweddarach weithiau'n Ysgol Pant-glas, er iddi sefyll tua milltir o'r pentref hwnnw, ac ynghanol y wlad, ym mhen uchaf plwyf Clynnog Fawr.

Mae llythyr ymysg papurau Arglwydd Newborough yn rhoi peth o hanes cychwyniad yr ysgol.[1] Fe'i codwyd ym 1858, gyda ficer Clynnog Fawr, y Parch. Robert Williams MA yn brif symbylydd. Roedd wedi mynd ati dair blynedd ynghynt (tua Gorffennaf 1855) i godi arian i adeiladu ysgol ym mhen uchaf ei blwyf gan nad oedd plant ardal Pant-glas a Bwlchderwin yn gallu cyrraedd Ysgol Genedlaethol Clynnog Fawr, sef yr ysgol a oedd gan yr Eglwys eisoes yn y plwyf. Yr un modd, nid oedd modd i drigolion rhan ucha'r plwyf gyrraedd gwasanaethau yn eglwys y plwyf yn hawdd, a'i fwriad oedd cynnal gwasanaethau ar y Sul yn yr adeilad newydd hefyd. Cafwyd safle ar gyfer yr ysgol newydd gan Bucknall Lloyd ar ran o dir fferm Ynys-yr-arch ar y ffin â fferm Gyfelog. Y ficer ei hun dalodd am y defnyddiau i godi'r ysgol, tra oedd y bobl leol yn helpu trwy gario'r defynyddiau adeiladu i'r safle yn rhad ac am ddim.

Roedd gan y ficer broblem efo'r coed oedd eu hangen ar gyfer yr ysgol gan fod angen eu llifio, a'i gais i Arglwydd Newborough - a gytunodd iddo[2] - oedd cael llifio'r coed ym melin lifio Glynllifon. Byddai hyn yn arbed tua £10-12 ar y costau, ac, yn ogystal, yn cyfrif tuag at y grant oddi wrth y llywodraeth. Roedd yn disgwyl grantiau gan y Cyfrin Gyngor (sef y llywodraeth) a'r Gymdeithas Genedlaethol ond roedd angen tua £600 ar ben hynny i gwblhau'r gwaith.

Rhaid holi pam nad oedd Newborough wedi talu am beth o'r costau eisoes, fel y gwnaeth mewn achosion eraill, ond esboniodd y ficer fod Newborough wedi ymateb yn gadarnhaol i nifer o geisiadau eraill am nawdd ganddo, ac y byddai cyfraniad at gostau cynnal yr ysgol wedyn yn fwy addas.

Er iddi gau ers blynyddoedd, mae'r adeilad yn dal i sefyll, ac yn ddiweddar bu'n darparu llety i ymwelwyr i'r ardal.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Gwynedd, XD2/26163.
  2. Archifdy Gwynedd, XD2/26170.