Ysgol Ynys-yr-arch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Ysgol 'Genedlaethol', sef ysgol a berthynai i'r Eglwys Sefydledig oedd '''Ysgol Ynys-yr-arch''', a elwid yn ddiweddarach weithiau'n Ysgol [[Pant-glas]], er iddi sefyll tua milltir o'r pentref hwnnw, ac ynghanol y wlad, ym mhen uchaf plwyf [[Clynnog Fawr]]. | Ysgol 'Genedlaethol', sef ysgol a berthynai i'r Eglwys Sefydledig oedd '''Ysgol Ynys-yr-arch''', a elwid yn ddiweddarach weithiau'n Ysgol [[Pant-glas]], er iddi sefyll tua milltir o'r pentref hwnnw, ac ynghanol y wlad, ym mhen uchaf plwyf [[Clynnog Fawr]]. | ||
Mae llythyr ymysg papurau [[Arglwydd Newborough]] yn rhoi peth o hanes cychwyniad yr ysgol.<ref>Archifdy Gwynedd, XD2/26163.</ref> | Mae llythyr ymysg papurau [[Arglwydd Newborough]] yn rhoi peth o hanes cychwyniad yr ysgol.<ref>Archifdy Gwynedd, XD2/26163.</ref> Fe'i chodwyd ym 1858, gyda ficer Clynnog Fawr, y Parch.Robert Williams MA yn brif symbylydd. Roedd wedi mynd ati dair blynedd ynghynt (tua Gorffennaf 1855) i godi arian i adeiladu ysgol ym mhen uchaf ei blwyf gan nad oedd plant ardal Pant-glas a [[Bwlchderwin]] yn gallu cyrraedd [[Ysgol Genedlaethol Clynnog Fawr]], sef yr ysgol a oedd gan yr Eglwys eisoes yn y plwyf. Yn yr un modd, nid oedd modd i drigolion rhan ucha'r plwyf gyrraedd gwasanaethau yn eglwys y plwyf yn hawdd, a'i fwriad oedd cynnal gwasanaethau ar y Sul yn yr adeilad newydd hefyd. Cafwyd safle ar gyfer yr ysgol newydd gan Bucknall Lloyd ar ran o dir fferm Ynys-yr-arch ar y ffin â fferm Gyfelog. Y ficer ei hun dalodd am y defnyddiau i godi'r ysgol, tra oedd y bobl leol yn helpu trwy gario'r defynyddiau adeiladu i'r safle yn rhad ac am ddim. | ||
Roedd gan y ficer broblem efo'r | Roedd gan y ficer broblem efo'r pren oedd ei angen ar gyfer yr ysgol gan fod angen ei lifio, a'i gais i Arglwydd Newborough - a gytunodd iddo<ref>Archifdy Gwynedd, XD2/26170.</ref> - oedd cael llifio'r coed ym melin llifio Glynllifon. Byddai hyn yn arbed tua £10-12 ar y costau, ac, yn ogystal, yn cyfrif tuag at y grant oddi wrth y llywodraeth. Roedd yn disgwyl grantiau gan y Cyngor Cyfrin (sef y llywodraeth) a'r Gymdeithas Genedlaethol ond roedd angen tua £600 ar ben hynny i gwblhau'r gwaith. | ||
Rhaid | Rhaid holi pam nad oedd Newborough wedi talu am beth o'r costau eisoes, fel y gwnaeth mewn achosion eraill, ond esboniodd y ficer fod Newborough wedi ymateb yn gadarnhaol i nifer o geisiadau eraill am nawdd ganddo, ac y byddai cyfraniad at y costau cynnal yr ysgol wedyn yn fwy addas. | ||
Er iddi gau ers blynyddoedd, mae'r adeilad yn dal i sefyll, ac yn ddiweddar bu'n darparu llety i ymwelwyr i'r ardal. | Er iddi gau ers blynyddoedd, mae'r adeilad yn dal i sefyll, ac yn ddiweddar bu'n darparu llety i ymwelwyr i'r ardal. |
Fersiwn yn ôl 08:59, 5 Mai 2021
Ysgol 'Genedlaethol', sef ysgol a berthynai i'r Eglwys Sefydledig oedd Ysgol Ynys-yr-arch, a elwid yn ddiweddarach weithiau'n Ysgol Pant-glas, er iddi sefyll tua milltir o'r pentref hwnnw, ac ynghanol y wlad, ym mhen uchaf plwyf Clynnog Fawr.
Mae llythyr ymysg papurau Arglwydd Newborough yn rhoi peth o hanes cychwyniad yr ysgol.[1] Fe'i chodwyd ym 1858, gyda ficer Clynnog Fawr, y Parch.Robert Williams MA yn brif symbylydd. Roedd wedi mynd ati dair blynedd ynghynt (tua Gorffennaf 1855) i godi arian i adeiladu ysgol ym mhen uchaf ei blwyf gan nad oedd plant ardal Pant-glas a Bwlchderwin yn gallu cyrraedd Ysgol Genedlaethol Clynnog Fawr, sef yr ysgol a oedd gan yr Eglwys eisoes yn y plwyf. Yn yr un modd, nid oedd modd i drigolion rhan ucha'r plwyf gyrraedd gwasanaethau yn eglwys y plwyf yn hawdd, a'i fwriad oedd cynnal gwasanaethau ar y Sul yn yr adeilad newydd hefyd. Cafwyd safle ar gyfer yr ysgol newydd gan Bucknall Lloyd ar ran o dir fferm Ynys-yr-arch ar y ffin â fferm Gyfelog. Y ficer ei hun dalodd am y defnyddiau i godi'r ysgol, tra oedd y bobl leol yn helpu trwy gario'r defynyddiau adeiladu i'r safle yn rhad ac am ddim.
Roedd gan y ficer broblem efo'r pren oedd ei angen ar gyfer yr ysgol gan fod angen ei lifio, a'i gais i Arglwydd Newborough - a gytunodd iddo[2] - oedd cael llifio'r coed ym melin llifio Glynllifon. Byddai hyn yn arbed tua £10-12 ar y costau, ac, yn ogystal, yn cyfrif tuag at y grant oddi wrth y llywodraeth. Roedd yn disgwyl grantiau gan y Cyngor Cyfrin (sef y llywodraeth) a'r Gymdeithas Genedlaethol ond roedd angen tua £600 ar ben hynny i gwblhau'r gwaith.
Rhaid holi pam nad oedd Newborough wedi talu am beth o'r costau eisoes, fel y gwnaeth mewn achosion eraill, ond esboniodd y ficer fod Newborough wedi ymateb yn gadarnhaol i nifer o geisiadau eraill am nawdd ganddo, ac y byddai cyfraniad at y costau cynnal yr ysgol wedyn yn fwy addas.
Er iddi gau ers blynyddoedd, mae'r adeilad yn dal i sefyll, ac yn ddiweddar bu'n darparu llety i ymwelwyr i'r ardal.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma