Mynwent y Bedyddwyr Albanaidd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Mynwent y Bedyddwyr Albanaidd'', neu "Mynwent Bara Chaws" yn hen fynwent yn perthyn i enwad bach y Bedyddwyr Albanaidd oedd yn hynod uniongred a oedd â chapel yn [[Llanllyfni]], sef [[Capel Tŷ'n Lôn (BA), Llanllyfni|Capel Tŷ'n Lôn]]. Daw'r llysenw ar y fynwent o lysenw dilornus yr enwad, sef "Bedyddwyr Bara a Chaws", oherwydd iddynt deithio o bell i fynychu gwasanaethau ac felly yn dod â bwyd gyda nhw i'w bwyta mewn ystafell yn y capel.
Mae '''Mynwent y Bedyddwyr Albanaidd''', neu "Mynwent Bara Chaws", yn hen fynwent yn perthyn i enwad bach y Bedyddwyr Albanaidd oedd yn hynod uniongred ac a oedd â chapel yn [[Llanllyfni]], sef [[Capel Tŷ'n Lôn (BA), Llanllyfni|Capel Tŷ'n Lôn]]. Daw'r llysenw ar y fynwent o lysenw dilornus yr enwad, sef "Bedyddwyr Bara a Chaws", oherwydd iddynt deithio o bell i fynychu gwasanaethau ac felly yn dod â bwyd gyda nhw i'w bwyta mewn ystafell yn y capel.


Mae'n bosibl mai hen fynwent y Crynwyr oedd y tir i gychwyn, ac mae ambell i garreg fedd yno sy'n dyddio'n ol i 1700, bron i ganrif cyn cychwyn o'r achos y Bedyddwyr ar y safle. Ymysg y rhai sydd wedi eu claddu yno'n ddiweddarach y mae'r Hen Ddoctor Mynydd, sef [[David Thomas Jones]], a hynny wedi i'r achos ei hun ddirwyn i ben. Yn ei ewyllys gadawodd dŷ, sef Brynsisyllt, Llanllyfni, i'w osod a'r rhent o £3.10.0c at gynnal ei fedd o a beddau'r teulu, ac at gynnal y fynwent yn gyffredinol. Bu ymgyrch wedyn tua 19o5 i gasglu arian at gynnal y fynwent. Nid yw'n amlwg pwy yw perchnogion y fynwent bellach, ond mae ymdrechion cymunedol wedi llwyddo i'w cynnal yn ddiweddar.
Mae'n bosibl mai hen fynwent y Crynwyr oedd y tir i gychwyn, ac mae ambell i garreg fedd yno sy'n dyddio'n ôl i 1700, bron i ganrif cyn cychwyn achos y Bedyddwyr ar y safle. Ymysg y rhai sydd wedi eu claddu yno'n ddiweddarach y mae'r Hen Ddoctor Mynydd, sef [[David Thomas Jones]], a hynny wedi i'r achos ei hun ddirwyn i ben. Yn ei ewyllys gadawodd dŷ, sef Brynsisyllt, Llanllyfni, i'w osod, gyda'r rhent o £3.10.0c yn mynd at gynnal ei fedd o a beddau'r teulu, ac at gynnal y fynwent yn gyffredinol. Bu ymgyrch wedyn tua 1905 i gasglu arian at gynnal y fynwent. Nid yw'n amlwg pwy yw perchnogion y fynwent bellach, ond mae ymdrechion cymunedol wedi llwyddo i'w cynnal yn ddiweddar.<ref>Sylwadau O.P. Huws ar wefan Dyffryn Nantlle, [http://www.nantlle.com/hanes-llanllyfni-bedyddwyr.htm], cyrchwyd 22.4.2021</ref>
 
{{eginyn}}
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Mynwentydd]]

Fersiwn yn ôl 20:19, 22 Ebrill 2021

Mae Mynwent y Bedyddwyr Albanaidd, neu "Mynwent Bara Chaws", yn hen fynwent yn perthyn i enwad bach y Bedyddwyr Albanaidd oedd yn hynod uniongred ac a oedd â chapel yn Llanllyfni, sef Capel Tŷ'n Lôn. Daw'r llysenw ar y fynwent o lysenw dilornus yr enwad, sef "Bedyddwyr Bara a Chaws", oherwydd iddynt deithio o bell i fynychu gwasanaethau ac felly yn dod â bwyd gyda nhw i'w bwyta mewn ystafell yn y capel.

Mae'n bosibl mai hen fynwent y Crynwyr oedd y tir i gychwyn, ac mae ambell i garreg fedd yno sy'n dyddio'n ôl i 1700, bron i ganrif cyn cychwyn achos y Bedyddwyr ar y safle. Ymysg y rhai sydd wedi eu claddu yno'n ddiweddarach y mae'r Hen Ddoctor Mynydd, sef David Thomas Jones, a hynny wedi i'r achos ei hun ddirwyn i ben. Yn ei ewyllys gadawodd dŷ, sef Brynsisyllt, Llanllyfni, i'w osod, gyda'r rhent o £3.10.0c yn mynd at gynnal ei fedd o a beddau'r teulu, ac at gynnal y fynwent yn gyffredinol. Bu ymgyrch wedyn tua 1905 i gasglu arian at gynnal y fynwent. Nid yw'n amlwg pwy yw perchnogion y fynwent bellach, ond mae ymdrechion cymunedol wedi llwyddo i'w cynnal yn ddiweddar.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Sylwadau O.P. Huws ar wefan Dyffryn Nantlle, [1], cyrchwyd 22.4.2021