Mynwent y Bedyddwyr Albanaidd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae '''mynwent y Bedyddwyr Albanaidd'', neu "Mynwent Bara Chaws" yn hen fynwent yn perthyn i enwad bach o Fedyddwyr hynod uniongred a oedd â chapel yn ...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''mynwent y Bedyddwyr Albanaidd'', neu "Mynwent Bara Chaws" yn hen fynwent yn perthyn i enwad bach o Fedyddwyr hynod uniongred a oedd â chapel yn [[Llanllyfni]], ac yn gysylltiedig â'u capel, sef [[Capel Tŷn Lôn (BA), Llanllyfni|Capel Tŷ'n Lôn]].
Mae '''Mynwent y Bedyddwyr Albanaidd'', neu "Mynwent Bara Chaws" yn hen fynwent yn perthyn i enwad bach y Bedyddwyr Albanaidd oedd yn hynod uniongred a oedd â chapel yn [[Llanllyfni]], sef [[Capel Tŷ'n Lôn (BA), Llanllyfni|Capel Tŷ'n Lôn]]. Daw'r llysenw ar y fynwent o lysenw dilornus yr enwad, sef "Bedyddwyr Bara a Chaws", oherwydd iddynt deithio o bell i fynychu gwasanaethau ac felly yn dod â bwyd gyda nhw i'w bwyta mewn ystafell yn y capel.
 
Mae'n bosibl mai hen fynwent y Crynwyr oedd y tir i gychwyn, ac mae ambell i garreg fedd yno sy'n dyddio'n ol i 1700, bron i ganrif cyn cychwyn o'r achos y Bedyddwyr ar y safle. Ymysg y rhai sydd wedi eu claddu yno'n ddiweddarach y mae'r Hen Ddoctor Mynydd, sef [[David Thomas Jones]], a hynny wedi i'r achos ei hun ddirwyn i ben. Yn ei ewyllys gadawodd dŷ, sef Brynsisyllt, Llanllyfni, i'w osod a'r rhent o £3.10.0c at gynnal ei fedd o a beddau'r teulu, ac at gynnal y fynwent yn gyffredinol. Bu ymgyrch wedyn tua 19o5 i gasglu arian at gynnal y fynwent. Nid yw'n amlwg pwy yw perchnogion y fynwent bellach, ond mae ymdrechion cymunedol wedi llwyddo i'w cynnal yn ddiweddar.

Fersiwn yn ôl 20:15, 22 Ebrill 2021

Mae 'Mynwent y Bedyddwyr Albanaidd, neu "Mynwent Bara Chaws" yn hen fynwent yn perthyn i enwad bach y Bedyddwyr Albanaidd oedd yn hynod uniongred a oedd â chapel yn Llanllyfni, sef Capel Tŷ'n Lôn. Daw'r llysenw ar y fynwent o lysenw dilornus yr enwad, sef "Bedyddwyr Bara a Chaws", oherwydd iddynt deithio o bell i fynychu gwasanaethau ac felly yn dod â bwyd gyda nhw i'w bwyta mewn ystafell yn y capel.

Mae'n bosibl mai hen fynwent y Crynwyr oedd y tir i gychwyn, ac mae ambell i garreg fedd yno sy'n dyddio'n ol i 1700, bron i ganrif cyn cychwyn o'r achos y Bedyddwyr ar y safle. Ymysg y rhai sydd wedi eu claddu yno'n ddiweddarach y mae'r Hen Ddoctor Mynydd, sef David Thomas Jones, a hynny wedi i'r achos ei hun ddirwyn i ben. Yn ei ewyllys gadawodd dŷ, sef Brynsisyllt, Llanllyfni, i'w osod a'r rhent o £3.10.0c at gynnal ei fedd o a beddau'r teulu, ac at gynnal y fynwent yn gyffredinol. Bu ymgyrch wedyn tua 19o5 i gasglu arian at gynnal y fynwent. Nid yw'n amlwg pwy yw perchnogion y fynwent bellach, ond mae ymdrechion cymunedol wedi llwyddo i'w cynnal yn ddiweddar.