Cyff Beuno: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Mae '''Cyff Beuno''' yn enw ar hen gist 3 troedfedd 9 modfedd o hyd wedi ei cherfio o un darn soled o bren onnensydd i'w gweld mewn cas gwydr yn [[Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr]]. Mae hollt bach yn nhop y gist lle gellid rhoi arian at yr eglwys. Tan ganol y 19g roedd hi'n arfer gan ffermwyr y plwyf rhoi gwartheg gyda marc arbennig ar eu clustiau a elwid yn "[[ | Mae '''Cyff Beuno''' yn enw ar hen gist 3 troedfedd 9 modfedd o hyd wedi ei cherfio o un darn soled o bren onnensydd i'w gweld mewn cas gwydr yn [[Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr]]. Mae hollt bach yn nhop y gist lle gellid rhoi arian at yr eglwys. Tan ganol y 19g roedd hi'n arfer gan ffermwyr y plwyf rhoi gwartheg gyda marc arbennig ar eu clustiau a elwid yn "[[Nod Beuno|nod Beuno]]" i wardeiniaid yr eglwys a byddai'r swyddogion hynny wedyn yn eu gwerthu, a rhoi'r arian a gafwyd amdanynt yn y gist. Hefyd, fe wnaed cyfraniadau gan y rhai a oedd yn awyddus i brynu maddeuant am eu pechodau.<ref>R.D. Roberts, ''Clynnog, its Saint and its Church'', sef tywyslyfr i'r eglwys, c.1954</ref> | ||
Mae'r cloeon ar y gist yn dyddio o'r 16-17g., ond mae'r gist ei hun a'r strapiau haearn arni'n dyddio o'r canol oesoedd yn ôl pob tebyg.<ref>Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’, Cyf.2: Central (Llundain, 1960), t.39</ref> | Mae'r cloeon ar y gist yn dyddio o'r 16-17g., ond mae'r gist ei hun a'r strapiau haearn arni'n dyddio o'r canol oesoedd yn ôl pob tebyg.<ref>Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’, Cyf.2: Central (Llundain, 1960), t.39</ref> |
Fersiwn yn ôl 08:21, 11 Ebrill 2021
Mae Cyff Beuno yn enw ar hen gist 3 troedfedd 9 modfedd o hyd wedi ei cherfio o un darn soled o bren onnensydd i'w gweld mewn cas gwydr yn Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr. Mae hollt bach yn nhop y gist lle gellid rhoi arian at yr eglwys. Tan ganol y 19g roedd hi'n arfer gan ffermwyr y plwyf rhoi gwartheg gyda marc arbennig ar eu clustiau a elwid yn "nod Beuno" i wardeiniaid yr eglwys a byddai'r swyddogion hynny wedyn yn eu gwerthu, a rhoi'r arian a gafwyd amdanynt yn y gist. Hefyd, fe wnaed cyfraniadau gan y rhai a oedd yn awyddus i brynu maddeuant am eu pechodau.[1]
Mae'r cloeon ar y gist yn dyddio o'r 16-17g., ond mae'r gist ei hun a'r strapiau haearn arni'n dyddio o'r canol oesoedd yn ôl pob tebyg.[2]
"Cyff Beuno" hefyd yw'r enw a roddodd Eben Fardd ar awdl o'i waith i nodi atgyweiriad Eglwys Clynnog Fawr ac hefyd yn deitl ar ei lyfr sydd yn ymwneud â hanes y fro - gan gynnwys yr awdl, ac a gyhoeddwyd yn Nhremadog wedi ei farwolaeth ym 1863. Mae'r awdl yn dal yn ddigon difyr a darllenadwy ac yn rhoi cip ar hanes Beuno Sant, yr eglwys a'r sefydliadau a oedd yn gysylltiedig â hi fel y canfyddid yr hanes mewn oes pan nad oedd ffynonellau dibynadwy ar gael i haneswyr yn gyffredinol. Mae gweddill y llyfr yn cynnwys nodiadau ffeithiol eu naws (yn ôl dealltwriaeth yr oes) ar bethau yr ymdrinnir â hwy yn yr awdl. Hefyd ceir manylion am enwogion y plwyf a'u hachau a nodweddion hanesyddol eglwys a phlwyf Clynnog Fawr. Mae'r gyfrol hefyd yn cynnwys nodiadau gan Ioan ab Hu Feddyg am y bardd a'i "hynodion", sef cofiant a gwerthfawrogiad o Eben Fardd. Er rhaid cofio mai dros 150 oed yw'r llyfr a llawer o ymchwil hanesyddol wedi ei wneud ers hynny, gellid honni mai dyma un o weithiau cynnar pwysicaf ar hanes Uwchgwyrfai os nad hanes lleol yng Nghymru oherwydd ei flaengaredd a'r ymdrech i gofnodi hanes ffeithiol yr ardal. Mae'n barhau'n ffynhonell ddefnyddio hyd heddiw ar gyfer astudio hanes yr ardal.