Y Curnau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 3: Llinell 3:
'''Y Curnau''' yw'r rhes fer o fynyddoedd sydd yn ffurfio math o ragfur sydd yn gwarchod cwmwd Eifionydd rhag ystormydd [[Bae Caernarfon]]. Yn y gogledd-ddwyrain, ceir [[Mynydd Bwlch Mawr]], ac wedyn [[Y Gurn Goch]] (uwchben [[Clynnog Fawr]]), wedyn [[Y Gurn Ddu]] ac wedyn, uwchben [[Trefor]] a [[Llanaelhaearn]], [[Moel Penllechog]] neu Mynydd Tan-y-graig. Mae'r tri cyntaf hyn oddeutu 500 metr uwchben lefel y môr. Ar y llethrau deheuol ceir dau fynydd llai eu maint, sef [[Moel Bronmiod]] (416 metr) a mynydd [[Pen-y-gaer]] (389 metr).

Mae tir y Curnau'n weddol anial at ei gilydd, yn gorsiog mewn mannau, a chyda nifer o safleoedd cynhanesyddol ar ei draws. Mae'r llethrau gorllewinol y Gurn Ddu wedi bod yn safle chwarelu am ithfaen, ac mae sawl gwaith manganîs bach ar hyd y llethrau. Er bod un fraich o [[Llwybr Arfordir Cymru|Lwybr yr Arfordir]] yn croesi'r mynyddoedd hyn, prin yw'r cerdded ar yr anialdir hwn fel arall.<ref>Mapiau Ordnans; Gwybodaeth bersonol</ref>
At ei gilydd, y mae tir y Curnau'n weddol anial, yn gorsiog mewn mannau, a chyda nifer o safleoedd cynhanesyddol ar ei draws. Mae llethrau gorllewinol y Gurn Ddu wedi bod yn safle chwarelu am ithfaen, ac mae sawl gwaith manganîs bach ar hyd llethrau'r mynyddoedd hyn i gyd. Er bod un fraich o [[Llwybr Arfordir Cymru|Lwybr yr Arfordir]] yn croesi'r mynyddoedd hyn, prin yw'r cerdded ar yr anialdir hwn fel arall.<ref>Mapiau Ordnans; Gwybodaeth bersonol</ref>

{{eginyn}}
{{eginyn}}

Golygiad diweddaraf yn ôl 13:05, 29 Mawrth 2021

Pentref Trefor a mynyddoedd y Curnau - o'r chwith, Y Gurn Goch, Y Gurn Ddu a Moel Penllechog.

Y Curnau yw'r rhes fer o fynyddoedd sydd yn ffurfio math o ragfur sydd yn gwarchod cwmwd Eifionydd rhag ystormydd Bae Caernarfon. Yn y gogledd-ddwyrain, ceir Mynydd Bwlch Mawr, ac wedyn Y Gurn Goch (uwchben Clynnog Fawr), wedyn Y Gurn Ddu ac wedyn, uwchben Trefor a Llanaelhaearn, Moel Penllechog neu Mynydd Tan-y-graig. Mae'r tri cyntaf hyn oddeutu 500 metr uwchben lefel y môr. Ar y llethrau deheuol ceir dau fynydd llai eu maint, sef Moel Bronmiod (416 metr) a mynydd Pen-y-gaer (389 metr).

At ei gilydd, y mae tir y Curnau'n weddol anial, yn gorsiog mewn mannau, a chyda nifer o safleoedd cynhanesyddol ar ei draws. Mae llethrau gorllewinol y Gurn Ddu wedi bod yn safle chwarelu am ithfaen, ac mae sawl gwaith manganîs bach ar hyd llethrau'r mynyddoedd hyn i gyd. Er bod un fraich o Lwybr yr Arfordir yn croesi'r mynyddoedd hyn, prin yw'r cerdded ar yr anialdir hwn fel arall.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Mapiau Ordnans; Gwybodaeth bersonol