Arfon (etholaeth): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
'''Arfon''' yw enw'r etholaeth ar gyfer etholiadau Senedd Cymru a Senedd San Steffan ar gyfer rhan o [[Uwchgwyrfai]].
'''Arfon''' yw enw'r etholaeth ar gyfer etholiadau Senedd Cymru a Senedd San Steffan ar gyfer rhan o [[Uwchgwyrfai]].


Yn wreiddiol pan roddwyd yr hawl i Gymru gael aelodau seneddol ym 1536, roedd dwy etholaeth yn y sir, sef sedd y sir ([[Sir Gaernarfon (etholaeth)|Sir Gaernarfon]]) oedd yn cynnwys pob man o Lysfaen yn y dwyrain hyd Aberdaron yn y gorllewin, heblaw am rai bwrdeistrefi. Yr ail sedd oedd Bwrdeistrefi Sir Caernarfon (sedd a gynrychiolid gan [[David Lloyd George]] ymhen amser); bwrdeisiaid Bangor, Caernarfon, Conwy, Cricieth, Nefyn a Phwllheli oedd yn cael pleidleisio yn yr etholaeth honno.
Yn wreiddiol pan roddwyd yr hawl i Gymru gael aelodau seneddol ym 1536, roedd dwy etholaeth yn y sir, sef sedd y sir ( [[Sir Gaernarfon (etholaeth)|Sir Gaernarfon]] ) oedd yn cynnwys pob man o Lysfaen yn y dwyrain hyd Aberdaron yn y gorllewin, heblaw am rai bwrdeistrefi. Yr ail sedd oedd Bwrdeistrefi Sir Caernarfon (sedd a gynrychiolid gan [[David Lloyd George]] ymhen amser); bwrdeisiaid Bangor, Caernarfon, Conwy, Cricieth, Nefyn a Phwllheli oedd yn cael pleidleisio yn yr etholaeth honno.


Ym 1885, gyda phoblogaeth y sir yn tyfu, rhannwyd etholaeth y sir yn ddwy, sef etholaethau Arfon ac [[Eifion (etholaeth)]]. Roedd yr hen etholaeth Arfon honno'n cynnwys y rhan o'r sir sydd yn ymestyn o Lanberis a Bangor hyd at ffin ddwyreiniol y sir, ac nid oedd dim o'r etholaeth honno yn Uwchgwyrfai.
Ym 1885, gyda phoblogaeth y sir yn tyfu, rhannwyd etholaeth y sir yn ddwy, sef etholaethau Arfon ac [[Eifion (etholaeth)]]. Roedd yr hen etholaeth Arfon honno'n cynnwys y rhan o'r sir sydd yn ymestyn o Lanberis a Bangor hyd at ffin ddwyreiniol y sir, ac nid oedd dim o'r etholaeth honno yn Uwchgwyrfai.

Fersiwn yn ôl 19:13, 23 Mawrth 2021

Arfon yw enw'r etholaeth ar gyfer etholiadau Senedd Cymru a Senedd San Steffan ar gyfer rhan o Uwchgwyrfai.

Yn wreiddiol pan roddwyd yr hawl i Gymru gael aelodau seneddol ym 1536, roedd dwy etholaeth yn y sir, sef sedd y sir ( Sir Gaernarfon ) oedd yn cynnwys pob man o Lysfaen yn y dwyrain hyd Aberdaron yn y gorllewin, heblaw am rai bwrdeistrefi. Yr ail sedd oedd Bwrdeistrefi Sir Caernarfon (sedd a gynrychiolid gan David Lloyd George ymhen amser); bwrdeisiaid Bangor, Caernarfon, Conwy, Cricieth, Nefyn a Phwllheli oedd yn cael pleidleisio yn yr etholaeth honno.

Ym 1885, gyda phoblogaeth y sir yn tyfu, rhannwyd etholaeth y sir yn ddwy, sef etholaethau Arfon ac Eifion (etholaeth). Roedd yr hen etholaeth Arfon honno'n cynnwys y rhan o'r sir sydd yn ymestyn o Lanberis a Bangor hyd at ffin ddwyreiniol y sir, ac nid oedd dim o'r etholaeth honno yn Uwchgwyrfai.

Unwaith eto, ail-ffurfiwyd dwy etholaeth y sir yn un ym 1918, gan eu rhannu eto ym 1950, gan ffurfio etholaethau Caernarfon a Chonwy.

Arfon bellach yw'r enw ar etholaeth ar gyfer ethodiadau Senedd Cymru a Senedd San Steffan. Fe'i ffurfiwyd mewn pryd ar gyfer etholiadau i'r Cynulliad yn 2007 a San Steffan yn 2010. Ffiniau etholaeth yr Arfon newydd yw Dyffryn Ogwen, Bangor, Caernarfon, a Dyffrynnoedd Peris, Gwyrfai a Nantlle, yn cynnwys y tri phlwyf mwyaf gogleddol yn Uwchgwyrfai, sef Llandwrog, Llanllyfni a Llanwnda.[1] Heblaw am ddwy etholaeth yn yr Alban, dyma yw etholaeth leiaf o ran poblogaeth trwy wledydd Prydain. O'r dechrau, Hywel Williams oedd, ac yw, yr aelod Seneddol. Sian Gwenllian yw'r aelod yn Senedd Cymru. Ei rhagflaenydd oedd Alun Ffred Jones.

Mae sôn (2020) bod ffiniau etholaethau yn mynd i newid eto yn fuan, ac y tebygrwydd yw y bydd Bangor hefyd o fewn yr etholaeth gan y bydd y ddeddfwriaeth yn gofyn am etholaethau sydd yr un faint o ran nifer yr etholwyr (ar wahan i Ynys Môn a fydd, fel ynys, yn cael ei eithrio).


Cyfeiriadau

  1. Erthygl Wicipedia ar Etholaeth Arfon, [1], cyrchwyd 6.5.2020