Arthur Wyn Parry: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Brodor o fro Llandwrog oedd '''Arthur Wyn Parry''' a fu farw fis Rhagfyr 2017. Yn adeiladwr ac yn ddarlithydd adeiladu yng Ngoleg Menai, bu'n arweinydd ar [[Côr Meibion Dyffryn Nantlle|Gôr Meibion Dyffryn Nantlle]] am flynyddoedd wedi i C.H. Leonard roi heibio'r gwaith. Llwyddodd Arthur Wyn Parry i ennill a chyrraedd y llwyfan sawl tro dros y blynyddoedd yng nghystadleuaeth Canu Emyn dros 60 yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Ei fab yw'r milfeddyg, y canwr ac enillydd y Rhuban Glas, Iwan Wyn Parry. | Brodor o fro Llandwrog oedd '''Arthur Wyn Parry''' a fu farw fis Rhagfyr 2017. Yn adeiladwr ac yn ddarlithydd adeiladu yng Ngoleg Menai, bu'n arweinydd ar [[Côr Meibion Dyffryn Nantlle|Gôr Meibion Dyffryn Nantlle]] am flynyddoedd wedi i C.H. Leonard roi heibio'r gwaith. Llwyddodd Arthur Wyn Parry i ennill a chyrraedd y llwyfan sawl tro dros y blynyddoedd yng nghystadleuaeth Canu Emyn dros 60 yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Ei fab yw'r milfeddyg, y canwr ac enillydd y Rhuban Glas, [[Iwan Wyn Parry]]. | ||
Bu'n weithgar gydol ei oes yn ei gapel, sef [[Capel Bwlan (MC), Llandwrog]], yn flaenor am bron i hanner can mlynedd ac yn ysgrifennydd ac arolygwr yr Ysgol Sul yno. Yn 2015, derbyniodd Medal Gee am ei ffyddlondeb i'r ysgol Sul. Yn y rhaglen ar gyfer y seremoni cyflkwyno yng Nghapel Mawr, Dinbych, dywedwyd fel a ganlyn: | |||
"Bu'n aelod yn Bwlan ers 65 mlynedd ac mae wedi mynychu'r ysgol Sul ers pan oedd yn 5 mlwydd oed. Cafodd ei ordeinio'n flaenor yn 1974. Gweithiodd yn ddiflino gyda'r plant, yn eu dysgu i ganu gan ddefnyddio'r tonic solffa. Mae'r oedfa Nadolig yn Bwlan i'w ryfeddod ato, a llwydda i ddenu pobl y pentra gan annog rhai sydd ddim yn aelodau i gymryd rhan. Y mae'n denor nodedig a bu ei ddawn fel canwr yn gaffaeliad iddo yng ngwaith yr eglwys. Bu'n ysgrifennydd yr ysgol Sul, a deil o hyd i fod yn Arolygwr."<ref>Gwefan Henaduriaeth Arfon, [http://www.henaduriaetharfon.org/images/300915-newyddion-bwlan-a.jpg], cyrchwyd 21.3.2021</ref> | |||
Rhywbeth llai hysbys amdano oedd ei fod wedi treulio llawer o'i amser wedi ymddeol yn goruchwylio adeiladau'r capel, gan arddel ei sgil fel adeiladydd.<ref>Gwybodaeth bersonol</ref> | |||
{{eginyn}} | {{eginyn}} | ||
Llinell 5: | Llinell 10: | ||
[[Categori:Cerddorion]] | [[Categori:Cerddorion]] | ||
[[Categori:Pobl]] | [[Categori:Pobl]] | ||
[[Categori:Cantorion]] | |||
[[Categori:Cerddorion]] |
Fersiwn yn ôl 18:39, 21 Mawrth 2021
Brodor o fro Llandwrog oedd Arthur Wyn Parry a fu farw fis Rhagfyr 2017. Yn adeiladwr ac yn ddarlithydd adeiladu yng Ngoleg Menai, bu'n arweinydd ar Gôr Meibion Dyffryn Nantlle am flynyddoedd wedi i C.H. Leonard roi heibio'r gwaith. Llwyddodd Arthur Wyn Parry i ennill a chyrraedd y llwyfan sawl tro dros y blynyddoedd yng nghystadleuaeth Canu Emyn dros 60 yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Ei fab yw'r milfeddyg, y canwr ac enillydd y Rhuban Glas, Iwan Wyn Parry.
Bu'n weithgar gydol ei oes yn ei gapel, sef Capel Bwlan (MC), Llandwrog, yn flaenor am bron i hanner can mlynedd ac yn ysgrifennydd ac arolygwr yr Ysgol Sul yno. Yn 2015, derbyniodd Medal Gee am ei ffyddlondeb i'r ysgol Sul. Yn y rhaglen ar gyfer y seremoni cyflkwyno yng Nghapel Mawr, Dinbych, dywedwyd fel a ganlyn:
"Bu'n aelod yn Bwlan ers 65 mlynedd ac mae wedi mynychu'r ysgol Sul ers pan oedd yn 5 mlwydd oed. Cafodd ei ordeinio'n flaenor yn 1974. Gweithiodd yn ddiflino gyda'r plant, yn eu dysgu i ganu gan ddefnyddio'r tonic solffa. Mae'r oedfa Nadolig yn Bwlan i'w ryfeddod ato, a llwydda i ddenu pobl y pentra gan annog rhai sydd ddim yn aelodau i gymryd rhan. Y mae'n denor nodedig a bu ei ddawn fel canwr yn gaffaeliad iddo yng ngwaith yr eglwys. Bu'n ysgrifennydd yr ysgol Sul, a deil o hyd i fod yn Arolygwr."[1]
Rhywbeth llai hysbys amdano oedd ei fod wedi treulio llawer o'i amser wedi ymddeol yn goruchwylio adeiladau'r capel, gan arddel ei sgil fel adeiladydd.[2]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma