Idwal Jones (peilot): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cudyll (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Cudyll (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 9: | Llinell 9: | ||
Bu farw pan oedd awyren yn cario pum o bobl eraill daro'r ddaear ar gyrion Maes Awyr Doncaster, Swydd Efrog, 29 Mai 1937. Roedd yn awyren fwy na'r un arferai Idwal Jones ei hedfan i wneud campau a dichon nad oedd yn gwneud mwy na rhoi tripiau byr i'r cyhoedd mewn diwrnod agored gan y Llu Awyr yno. Roedd yr awyren Airspeed Courier G-ACSZ yn eiddo i'r ''North Eastern Airways''. fe'i defnyddid fel arfer i hedfan teithiau masnachol rhwng Maes Awyr Croydon, ac o Gaeredin i Lundain.<ref>Gwefan Yorkshire Aircraft [http://www.yorkshire-aircraft.co.uk/aircraft/yorkshire/yorksother/acsz.html], cyrchwyd 18.03.2021</ref> | Bu farw pan oedd awyren yn cario pum o bobl eraill daro'r ddaear ar gyrion Maes Awyr Doncaster, Swydd Efrog, 29 Mai 1937. Roedd yn awyren fwy na'r un arferai Idwal Jones ei hedfan i wneud campau a dichon nad oedd yn gwneud mwy na rhoi tripiau byr i'r cyhoedd mewn diwrnod agored gan y Llu Awyr yno. Roedd yr awyren Airspeed Courier G-ACSZ yn eiddo i'r ''North Eastern Airways''. fe'i defnyddid fel arfer i hedfan teithiau masnachol rhwng Maes Awyr Croydon, ac o Gaeredin i Lundain.<ref>Gwefan Yorkshire Aircraft [http://www.yorkshire-aircraft.co.uk/aircraft/yorkshire/yorksother/acsz.html], cyrchwyd 18.03.2021</ref> | ||
Nid ddylid ei gymysgu gyda'i gyfoeswr, y P{arch. [[Idwal Jones (gweinidog)|Idwal Jones]]. | Nid ddylid ei gymysgu gyda'i gyfoeswr, y P{arch. [[Idwal Jones (gweinidog ac awdur)|Idwal Jones]]. | ||
Fersiwn yn ôl 14:09, 18 Mawrth 2021
Roedd Idwal Jones, (1906-1937), neu Idwal ap Ieuan Jones i roi ei enw llawn iddo, yn hanu o Dal-y-sarn. Daeth yn enwog fel peilot yn nyddiau cynnar hedfan masnachol.
Ganed Idwal mewn tŷ chwarelwr cyffredin yng Nghoetmor, sef rhesiad o dai hanner ffordd rhwng Pen-y-groes a Thal-y-sarn. Chwarelwr oedd ei dad, "Ifan Garn". Yr oedd hwnnw'n awdur llyfr sylweddol ar hanes chwareli Dyffryn Nantlle. Bu farw ei wraig ym 1906 yn fuan ar ôl geni Idwal ac ymhen rhai blynyddoedd fe ail-briododd gan gael tair hanner chwaer i Idwal. Aeth i Ysgol Tal-y-sarn ac wdyn i Ysgol Ramadeg Pen-y-groes.[1]
Yn y man cymhwysodd fel peilot, gan arbenigo mewn hedfan erobatig er mwyn adloniant i dyrfaoedd i ddaeth i weld hedfan mentrus gan aelodau Syrcas Hedfan Syr Alan Cobham, yr oedd Idwal Jones yn brif beilot erobatig ynddo. Un o'i gampau oedd codi hances boced o'r ddaear gyda blaen un o adenydd ei awyren.[2]
Yn y 1930au cynnar, ac Idwal Jones yn dal adref am gyfnodau, roedd ganddo car a "dillad Lloegr" chwedl Cledwyn Jones, awdur erthygl amdano, ar ôl iddo wneud pres da yn y Syrcas Awyr, ond byddai'n dal i gymdeithasu ar nos Sadwrn gyda hogiau'r dyffryn.[3]
Bu farw pan oedd awyren yn cario pum o bobl eraill daro'r ddaear ar gyrion Maes Awyr Doncaster, Swydd Efrog, 29 Mai 1937. Roedd yn awyren fwy na'r un arferai Idwal Jones ei hedfan i wneud campau a dichon nad oedd yn gwneud mwy na rhoi tripiau byr i'r cyhoedd mewn diwrnod agored gan y Llu Awyr yno. Roedd yr awyren Airspeed Courier G-ACSZ yn eiddo i'r North Eastern Airways. fe'i defnyddid fel arfer i hedfan teithiau masnachol rhwng Maes Awyr Croydon, ac o Gaeredin i Lundain.[4]
Nid ddylid ei gymysgu gyda'i gyfoeswr, y P{arch. Idwal Jones.