Denisa, Arglwyddes Newborough: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Ail wraig Thomas John, 5ed Arglwydd Newborough oedd '''Denisa Josephine Malpuech''' (cyn-wraig Jean Malpuech, Rheolwr Laos),a merch Lazar Braun, Subot...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Ail wraig [[Thomas John, 5ed Arglwydd Newborough]] oedd '''Denisa Josephine Malpuech''' (cyn-wraig Jean Malpuech, Rheolwr Laos),a merch Lazar Braun, Subotica, Iwgoslafia. Priodasodd y ddau ym 1938. Yr oedd hi wedi teithio Ewrop am flynyddoedd. Cafodd Arglwydd Newborough a hithau un ferch cyn iddynt ysgaru ym 1947, sef yr Anrh. (Blanche-Neige) Juno Palma Odette Denisa Wynn (g. 1940), a fu'n ''debutante'' a briododd Philip Wolfe-Parry, Wimbledon Park, Llundain ym 1963.
Ail wraig [[Thomas John, 5ed Arglwydd Newborough]] oedd '''Denisa Josephine Malpuech''' (cyn-wraig Jean Malpuech, Rheolwr Laos), a merch Lazar Braun, Subotica, Iwgoslafia. Priododd y ddau ym 1938. Roedd hi wedi teithio Ewrop am flynyddoedd. Cafodd Arglwydd Newborough a hithau un ferch cyn iddynt ysgaru ym 1947, sef yr Anrh. (Blanche-Neige) Juno Palma Odette Denisa Wynn (g. 1940), a fu'n ''debutante'' ac a briododd â Philip Wolfe-Parry, Wimbledon Park, Llundain ym 1963.


Roedd Denisa, Arglwyddes Newborough, yn gymeriad allblyg, heb fawr o hualau ymddygiad y dosbarth bonedda fyddai wedi ei rhwystro rhag byw bywyd a ddenodd sylw'r wasg a chymdeithas barchus. Bu hon yn achosi cryn sgandal yn y teulu wedi iddi hithau gael ei hysgaru gan ei gŵr. Ysgrifennodd hi hunangofiant dadlennol, "Fire in my Blood". Cyhoeddwyd y llyfr hwnnw ym 1958, ac am unwaith prin yr oedd rhaid i arlunydd clawr yr olygyddiad meddal ymestyn ei ddychymyg wrth greu llun addas! Mae un adolygydd ar wefan Amazon yn canmol y llyfr er yn amau faint o'r cynnwys allai fod yn wir. Honnai yn y llyfr ei bod hi wedi rhedeg i ffwrdd o'i chartref i ymuno asyrcas, ac yr oedd hi wedi bod yn ddawswraig noeth, wedi arfer cerdded gwifrau uchel, wedi gweithio mewn clybiau nos, gan dynnu ei dillad ac yn hedfan awyrennau. Ar ben y cwbl, roedd hi'n enwog am sôn am yr holl bobl fawr a phwysig a oedd wedi bod yn rhan o'i bywyd - yn cynnwys Brenin Sbaen, Mussolini a Hitler. Honnai hefyd ei bod yn siarad 14 o iethoedd - er nad oedd sôn am y Gymraeg.
Roedd Denisa, Arglwyddes Newborough, yn gymeriad allblyg, heb fawr o hualau ymddygiad y dosbarth bonheddig a fyddai wedi ei rhwystro rhag byw bywyd a ddenodd sylw'r wasg a chymdeithas barchus. Bu hon yn achosi cryn sgandal yn y teulu wedi iddi hithau gael ei hysgaru gan ei gŵr. Ysgrifennodd hunangofiant dadlennol, "Fire in my Blood". Cyhoeddwyd y llyfr hwnnw ym 1958, ac am unwaith prin yr oedd rhaid i arlunydd clawr argraffiad clawr meddal y gyfrol ymestyn ei ddychymyg wrth greu llun addas! Mae un adolygydd ar wefan Amazon yn canmol y llyfr, er yn amau faint o'r cynnwys allai fod yn wir. Honna Denisa yn y llyfr ei bod wedi rhedeg i ffwrdd o'i chartref i ymuno â syrcas, a dywed iddi fod yn ddawswraig noeth, wedi arfer cerdded gwifrau uchel, wedi gweithio mewn clybiau nos, gan dynnu ei dillad, ac wedi hedfan awyrennau. I goroni'r cyfan, roedd hi'n enwog am sôn am yr holl bobl fawr a phwysig a oedd wedi bod yn rhan o'i bywyd - yn cynnwys Brenin Sbaen, Mussolini a Hitler. Honnai hefyd ei bod yn siarad 14 o ieithoedd - er nad oedd sôn am y Gymraeg.


Ymatebodd adolygydd arall (sef "Ampers", newyddiadurwr wedi ymddeol) fodd bynnag, sy'n honni yr oedd yn ei hadnabod yn dda, a bopd y llyfr yn wir i raddau helaeth iawn.  
Fodd bynnag, ymatebodd adolygydd arall (sef "Ampers", newyddiadurwr wedi ymddeol), sy'n honni iddo ei hadnabod yn dda, gan ddweud bod y llyfr yn wir i raddau helaeth iawn.  


Bu farw yn 79 oed, wedi ei hen ddiarddel o unrhyw gysylltiad â theulu Newborough. Prin iawn oedd ei hymwneud ag ardal [[Uwchgwyrfai]], ond eto cododd ei gweithredoedd bur chwilfrydedd ymysg ei thrigolion.
Bu farw yn 79 oed, wedi ei hen ddiarddel o unrhyw gysylltiad â theulu Newborough. Prin iawn oedd ei hymwneud ag ardal [[Uwchgwyrfai]], ond eto cododd ei gweithredoedd anghonfensiynol gryn chwilfrydedd ymysg ei thrigolion.

Fersiwn yn ôl 15:21, 19 Chwefror 2021

Ail wraig Thomas John, 5ed Arglwydd Newborough oedd Denisa Josephine Malpuech (cyn-wraig Jean Malpuech, Rheolwr Laos), a merch Lazar Braun, Subotica, Iwgoslafia. Priododd y ddau ym 1938. Roedd hi wedi teithio Ewrop am flynyddoedd. Cafodd Arglwydd Newborough a hithau un ferch cyn iddynt ysgaru ym 1947, sef yr Anrh. (Blanche-Neige) Juno Palma Odette Denisa Wynn (g. 1940), a fu'n debutante ac a briododd â Philip Wolfe-Parry, Wimbledon Park, Llundain ym 1963.

Roedd Denisa, Arglwyddes Newborough, yn gymeriad allblyg, heb fawr o hualau ymddygiad y dosbarth bonheddig a fyddai wedi ei rhwystro rhag byw bywyd a ddenodd sylw'r wasg a chymdeithas barchus. Bu hon yn achosi cryn sgandal yn y teulu wedi iddi hithau gael ei hysgaru gan ei gŵr. Ysgrifennodd hunangofiant dadlennol, "Fire in my Blood". Cyhoeddwyd y llyfr hwnnw ym 1958, ac am unwaith prin yr oedd rhaid i arlunydd clawr argraffiad clawr meddal y gyfrol ymestyn ei ddychymyg wrth greu llun addas! Mae un adolygydd ar wefan Amazon yn canmol y llyfr, er yn amau faint o'r cynnwys allai fod yn wir. Honna Denisa yn y llyfr ei bod wedi rhedeg i ffwrdd o'i chartref i ymuno â syrcas, a dywed iddi fod yn ddawswraig noeth, wedi arfer cerdded gwifrau uchel, wedi gweithio mewn clybiau nos, gan dynnu ei dillad, ac wedi hedfan awyrennau. I goroni'r cyfan, roedd hi'n enwog am sôn am yr holl bobl fawr a phwysig a oedd wedi bod yn rhan o'i bywyd - yn cynnwys Brenin Sbaen, Mussolini a Hitler. Honnai hefyd ei bod yn siarad 14 o ieithoedd - er nad oedd sôn am y Gymraeg.

Fodd bynnag, ymatebodd adolygydd arall (sef "Ampers", newyddiadurwr wedi ymddeol), sy'n honni iddo ei hadnabod yn dda, gan ddweud bod y llyfr yn wir i raddau helaeth iawn.

Bu farw yn 79 oed, wedi ei hen ddiarddel o unrhyw gysylltiad â theulu Newborough. Prin iawn oedd ei hymwneud ag ardal Uwchgwyrfai, ond eto cododd ei gweithredoedd anghonfensiynol gryn chwilfrydedd ymysg ei thrigolion.