Llwyn Impia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Fferm yn ardal [[Pontlyfni]] yw '''Llwyn Impia'''. Ar ôl croesi dros [[Pont y Cim|Bont y Cim]] o gyfeiriad Pontllyfni a mynd yn syth ymlaen, mae'r lôn i Llwyn Impia ar y chwith ymhen ychydig gannoedd o lathenni, a bron dros y ffordd â lôn fferm [[Eithinog Wen]].  
Fferm yn ardal [[Pontlyfni]] yw '''Llwyn Impia'''. Ar ôl croesi dros [[Pont y Cim|Bont y Cim]] o gyfeiriad Pontllyfni a mynd yn syth ymlaen, mae'r lôn i Llwyn Impia ar y chwith ymhen ychydig gannoedd o lathenni, a bron dros y ffordd â lôn fferm [[Eithinog Wen]].  


Am gyfnod byr o oddeutu 1816 tan 1820 bu Llwyn Impia yn gartref i un o bregethwyr ac awduron crefyddol amlwg y cyfnod, sef Richard Jones o'r Wern (1772? - 1833). Magwyd Richard Jones yn Coed-cae-du, plwyf Llanystumdwy ond cafodd gyfnodau o addysg yn [[Uwchgwyrfai]], sef dan Robert Jones, Rhos-lan, ym Mrynengan a chyda [[John Roberts, LLangwm|John Roberts]] yn [[Llanllyfni]]. Symudodd ef a'i deulu o Goed-cae-du i Lwyn Impia tua 1816 - y flwyddyn y cafodd ei ordeinio'n weinidog - ac fe wnaethant aros yno am rhyw dair i bedair blynedd cyn symud i'r Wern, Llanfrothen. Yno y treuliodd weddill ei oes a daeth i gael ei adnabod fel Richard Jones o'r Wern. Daeth Y Wern yn ganolbwynt i grefydd Fethodistaidd yr ardal ac yn ogystal â theithio'n helaeth i bregethu, anfonai Richard Jones gynhyrchion o'i waith yn rheolaidd i bapurau a chylchgronau fel ''Seren Gomer'', ''Goleuad Cymru'' ac ''Y Drysorfa''. Roedd yn emynydd gweddol gynhyrchiol hefyd ac ym 1835, ddwy flynedd wedi ei farw, cyhoeddwyd casgliad o'i emynau dan y teitl ''Hymnau a Chaneuon Ysbrydol a Duwiol'', dan olygyddiaeth ei gyfaill John Elias. <ref>Gweler ysgrif ar Richard Jones yn ''Y Bywgraffiadur Cymreig'' ar-lein.</ref>
Am gyfnod byr o oddeutu 1816 tan 1820 bu Llwyn Impia yn gartref i un o bregethwyr ac awduron crefyddol amlwg y cyfnod, sef Richard Jones o'r Wern (1772? - 1833). Magwyd Richard Jones yn Coed-cae-du, plwyf Llanystumdwy ond cafodd gyfnodau o addysg yn [[Uwchgwyrfai]], sef dan Robert Jones, Rhos-lan, ym Mrynengan a chyda [[John Roberts, Llangwm|John Roberts]] yn [[Llanllyfni]]. Symudodd ef a'i deulu o Goed-cae-du i Lwyn Impia tua 1816 - y flwyddyn y cafodd ei ordeinio'n weinidog - ac fe wnaethant aros yno am rhyw dair i bedair blynedd cyn symud i'r Wern, Llanfrothen. Yno y treuliodd weddill ei oes a daeth i gael ei adnabod fel Richard Jones o'r Wern. Daeth Y Wern yn ganolbwynt i grefydd Fethodistaidd yr ardal ac yn ogystal â theithio'n helaeth i bregethu, anfonai Richard Jones gynhyrchion o'i waith yn rheolaidd i bapurau a chylchgronau fel ''Seren Gomer'', ''Goleuad Cymru'' ac ''Y Drysorfa''. Roedd yn emynydd gweddol gynhyrchiol hefyd ac ym 1835, ddwy flynedd wedi ei farw, cyhoeddwyd casgliad o'i emynau dan y teitl ''Hymnau a Chaneuon Ysbrydol a Duwiol'', dan olygyddiaeth ei gyfaill John Elias. <ref>Gweler ysgrif ar Richard Jones yn ''Y Bywgraffiadur Cymreig'' ar-lein.</ref>


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Golygiad diweddaraf yn ôl 11:42, 14 Chwefror 2021

Fferm yn ardal Pontlyfni yw Llwyn Impia. Ar ôl croesi dros Bont y Cim o gyfeiriad Pontllyfni a mynd yn syth ymlaen, mae'r lôn i Llwyn Impia ar y chwith ymhen ychydig gannoedd o lathenni, a bron dros y ffordd â lôn fferm Eithinog Wen.

Am gyfnod byr o oddeutu 1816 tan 1820 bu Llwyn Impia yn gartref i un o bregethwyr ac awduron crefyddol amlwg y cyfnod, sef Richard Jones o'r Wern (1772? - 1833). Magwyd Richard Jones yn Coed-cae-du, plwyf Llanystumdwy ond cafodd gyfnodau o addysg yn Uwchgwyrfai, sef dan Robert Jones, Rhos-lan, ym Mrynengan a chyda John Roberts yn Llanllyfni. Symudodd ef a'i deulu o Goed-cae-du i Lwyn Impia tua 1816 - y flwyddyn y cafodd ei ordeinio'n weinidog - ac fe wnaethant aros yno am rhyw dair i bedair blynedd cyn symud i'r Wern, Llanfrothen. Yno y treuliodd weddill ei oes a daeth i gael ei adnabod fel Richard Jones o'r Wern. Daeth Y Wern yn ganolbwynt i grefydd Fethodistaidd yr ardal ac yn ogystal â theithio'n helaeth i bregethu, anfonai Richard Jones gynhyrchion o'i waith yn rheolaidd i bapurau a chylchgronau fel Seren Gomer, Goleuad Cymru ac Y Drysorfa. Roedd yn emynydd gweddol gynhyrchiol hefyd ac ym 1835, ddwy flynedd wedi ei farw, cyhoeddwyd casgliad o'i emynau dan y teitl Hymnau a Chaneuon Ysbrydol a Duwiol, dan olygyddiaeth ei gyfaill John Elias. [1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Gweler ysgrif ar Richard Jones yn Y Bywgraffiadur Cymreig ar-lein.