John Hutton: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
'''John Hutton''' oedd Prif Oruchwyliwr a pherchennog [[Chwarel yr Eifl]], [[Trefor]], o 1850 hyd 1868. Penderfynodd Samuel Holland werthu Chwarel y Gwylwyr yn Nefyn (a agorwyd ym 1844) tua 1846-47, ac fe'i prynwyd gan ŵr busnes ifanc iawn o'r enw John Hutton. Yn stiward i Holland yn y Gwylwyr bryd hynny roedd [[Trefor Jones]], ac ym 1850 daeth Hutton a Jones dros yr Eifl a chanfod fod y garreg a gloddid yn Hen Ffolt [[Y Gorllwyn|y Gorllwyn]] yn rhagori ar garreg y Gwylwyr a charreg Penmaenmawr. Prynodd Hutton y mân gwmnïau a weithiai yn yr Hen Ffolt, ynghyd â'r brydles oedd gan John Heyden, a'u llyncu i'w gwmni ei hun, John Hutton & Co., ddaeth bellach i arddel enw newydd sef y [[Cwmni Ithfaen Cymreig]] (''Welsh Granite Company'') oedd gynt yn cynnwys Chwarel y Gwylwyr, Nefyn. Partneriaid Hutton yn y fenter oedd chwaer ei wraig, Emily Sophia Roscoe (''nee'' Malin), a'i gŵr, William Caldwell Roscoe. Partneriaid 'cwsg' oedd y ddau.   
'''John Hutton''' oedd Prif Oruchwyliwr a pherchennog [[Chwarel yr Eifl]], [[Trefor]], o 1850 hyd 1868. Penderfynodd Samuel Holland werthu Chwarel y Gwylwyr yn Nefyn (a agorwyd ym 1844) tua 1846-47, ac fe'i prynwyd gan ŵr busnes ifanc iawn o'r enw John Hutton. Yn stiward i Holland yn y Gwylwyr bryd hynny roedd [[Trefor Jones]], ac ym 1850 daeth Hutton a Jones dros yr Eifl a chanfod fod y garreg a gloddid yn Hen Ffolt [[Y Gorllwyn|y Gorllwyn]] yn rhagori ar garreg y Gwylwyr a charreg Penmaenmawr. Prynodd Hutton y mân gwmnïau a weithiai yn yr Hen Ffolt, ynghyd â'r brydles oedd gan [[John Heyden]], a'u llyncu i'w gwmni ei hun, John Hutton & Co., ddaeth bellach i arddel enw newydd sef y [[Cwmni Ithfaen Cymreig]] (''Welsh Granite Company'') oedd gynt yn cynnwys Chwarel y Gwylwyr, Nefyn. Partneriaid Hutton yn y fenter oedd chwaer ei wraig, Emily Sophia Roscoe (''née'' Malin), a'i gŵr, William Caldwell Roscoe. Partneriaid 'cwsg' oedd y ddau.   


Ym 1863 agorwyd chwarel newydd yn Pistyll ger Nefyn, Chwarel Tŷ Mawr, a ddaeth yn rhan o'r un cwmni â Chwarel Pistyll ei hun - dwy chwarel fechan un bonc yr un. Hwn oedd Cwmni Tŷ Mawr, a'i berchnogion oedd [[William Arthur Darbishire]], Hedworth Lee a Richard Morris Griffith. Rhyw flwyddyn go dda yn ddiweddarach (yn Tachwedd 1864) fe'i unwyd â'r Cwmni Ithfaen Cymreig, oedd erbyn hyn yn fethdalwr, mwy neu lai, a rŵan ffurfiwyd cwmni newydd sbon, Cwmni Ithfaen Cymreig Cyf.(''Welsh Granite Company Ltd.'').
Ym 1863 agorwyd chwarel newydd yn Pistyll ger Nefyn, Chwarel Tŷ Mawr, a ddaeth yn rhan o'r un cwmni â Chwarel Pistyll ei hun - dwy chwarel fechan un bonc yr un. Hwn oedd Cwmni Tŷ Mawr, a'i berchnogion oedd [[William Arthur Darbishire]], Hedworth Lee a Richard Morris Griffith. Rhyw flwyddyn go dda yn ddiweddarach (yn Tachwedd 1864) fe'i unwyd â'r Cwmni Ithfaen Cymreig, oedd erbyn hyn yn fethdalwr, mwy neu lai, a rŵan ffurfiwyd cwmni newydd sbon, Cwmni Ithfaen Cymreig Cyf.(''Welsh Granite Company Ltd.'').

Fersiwn yn ôl 19:38, 6 Chwefror 2021

John Hutton oedd Prif Oruchwyliwr a pherchennog Chwarel yr Eifl, Trefor, o 1850 hyd 1868. Penderfynodd Samuel Holland werthu Chwarel y Gwylwyr yn Nefyn (a agorwyd ym 1844) tua 1846-47, ac fe'i prynwyd gan ŵr busnes ifanc iawn o'r enw John Hutton. Yn stiward i Holland yn y Gwylwyr bryd hynny roedd Trefor Jones, ac ym 1850 daeth Hutton a Jones dros yr Eifl a chanfod fod y garreg a gloddid yn Hen Ffolt y Gorllwyn yn rhagori ar garreg y Gwylwyr a charreg Penmaenmawr. Prynodd Hutton y mân gwmnïau a weithiai yn yr Hen Ffolt, ynghyd â'r brydles oedd gan John Heyden, a'u llyncu i'w gwmni ei hun, John Hutton & Co., ddaeth bellach i arddel enw newydd sef y Cwmni Ithfaen Cymreig (Welsh Granite Company) oedd gynt yn cynnwys Chwarel y Gwylwyr, Nefyn. Partneriaid Hutton yn y fenter oedd chwaer ei wraig, Emily Sophia Roscoe (née Malin), a'i gŵr, William Caldwell Roscoe. Partneriaid 'cwsg' oedd y ddau.

Ym 1863 agorwyd chwarel newydd yn Pistyll ger Nefyn, Chwarel Tŷ Mawr, a ddaeth yn rhan o'r un cwmni â Chwarel Pistyll ei hun - dwy chwarel fechan un bonc yr un. Hwn oedd Cwmni Tŷ Mawr, a'i berchnogion oedd William Arthur Darbishire, Hedworth Lee a Richard Morris Griffith. Rhyw flwyddyn go dda yn ddiweddarach (yn Tachwedd 1864) fe'i unwyd â'r Cwmni Ithfaen Cymreig, oedd erbyn hyn yn fethdalwr, mwy neu lai, a rŵan ffurfiwyd cwmni newydd sbon, Cwmni Ithfaen Cymreig Cyf.(Welsh Granite Company Ltd.).

Brodor o Leeds, Swydd Efrog, oedd Hutton, ac fe'i ganwyd ym 1824. Felly, doedd o ond yn chwech ar hugain oed pan ddaeth dros y mynydd i'r Gorllwyn. Roedd yn briod â merch William Malin, masnachwr llwyddiannus o Marley, Swydd Derby. Cawsant bump o blant, dwy ferch a thri mab, ond bu farw'r fam ar enedigaeth y pumed plentyn ym 1858 yn Brynrhedyn, Llanwnda, lle'r oeddent yn byw ar y pryd. Cyn hynny, bu'r teulu'n trigo yn Nefyn, ym Mhlas Eifl, Clynnog Fawr (Pas Cae'r Pwsan ein dyddiau ni) o 1851, yna yn Llanwnda ac wedyn ym Menai Place, Biwmares, Môn.

Ymddiswyddodd Hutton, mewn amgylchiadau pur chwerw, ddiwedd mis Mai 1868. Penodwyd Rheolwr Cyffredinol newydd yn ei le - George Farren, fu yn y swydd hyd ei farwolaeth ym 1901.


Cyfeiriadau