Ffridd Baladeulyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Mae gwreiddiau fferm [[Ffridd Baladeulyn]], ar gyrion pentref [[Nantlle]], ac a elwir heddiw fel arfer yn "Ffridd", yn mynd yn ôl ymhell ac ar un adeg roedd yn perthyn i hen | Mae gwreiddiau fferm [[Ffridd Baladeulyn]], ar gyrion pentref [[Nantlle]], ac a elwir heddiw fel arfer yn "Ffridd", yn mynd yn ôl ymhell ac ar un adeg roedd yn perthyn i hen [[Ystad y Faenol]] cyn i'r chwareli llechi gael eu sefydlu yn [[Dyffryn Nantlle|Nyffryn Nantlle]]. Mae'r enw [[Baladeulyn]] yn disgrifio darn gwastad o dir rhwng dau lyn, ac roedd yno ddau lyn ar un adeg cyn i'r llyn isaf o'r ddau gael ei sychu a newid cwrs yr [[Afon Llyfni]] o ganlyniad i ddatblygu [[Chwarel Dorothea]] a chwareli eraill cyfagos. Erbyn hyn, fel y dywed [[R. Williams Parry]] yn ei gerdd "Dyffryn Nantlle Ddoe a Heddiw", "Does ond un llyn ym Maladeulyn mwy". | ||
Mae'r fferm yn ymestyn hyd at waelod [[Craig Cwm Silyn]] a llawere o'r tir yn ffridd agored hyd heddiw. Yn draddodiadol, rhannwyd Ffridd Baladeulyn yn bedair rhan gan Ystad y faenol: un darn yn hanner, un yn chwarter a'r ddwy ran arall yn chwarter yr un, wedi'u gosod i denantiaid gwahanol. Yn fwy na hynny, arferid rhoi prydlesi ar y pedwar darn, a'r prydleseion wedyn yn gosod y tir i denantiaid eraill. Felly yr oedd hi yng nghanol y ddeunawfed ganrif, pan osodwyd un o'r gwahanol brydleseion ddarn wythfed ran i Robert Thomas.<ref>Archifdy Caernarfon, X/Vaynol/4057, argraffwyd yn R.O. Roberts, "Farming in Caernarvonshire around 1800'', (Caernarfon, 1973), tt.52-32</ref> | |||
Roedd Robert Roberts, a aned 12 Medi 1762, bron i ddegawd yn iau na John, ac fel ei frawd bu yntau'n gweithio am gyfnod yn fachgen yn Chwarel Cilgwyn. Yn ddiweddarach aeth i weini ar ffermydd yn Eifionydd, a thra oedd yn was yn Coed-cae-du, dioddefodd o glefyd grydcymalau enbyd a danseiliodd ei iechyd a'i adael yn ddyn llesg a chrwca am weddill ei oes. Ni allai barhau'n was fferm ac wedi cael cyfnod byr o ysgol ym Mrynengan, dan [[Evan Richardson]] mae'n fwy na thebyg, dechreuodd bregethu. Datblygodd i fod yn un o bregethwyr mwyaf tanbaid a nerthol ei gyfnod, er gwaethaf ei anableddau, ac fe'i gelwid gan amryw "y seraff tanllyd". Derbyniodd alwad i fod yn weinidog ar yr achos yng [[Capel Uchaf (MC), Clynnog Fawr|Nhapel Ucha, Clynnog]], gan fyw yn y tŷ capel a oedd yn gysylltiedig â'r capel am weddill ei oes fer. Bu farw 28 Tachwedd 1802. (Gweler yr erthygl helaethach ar Robert Roberts yn '''Cof y Cwmwd'''.) <ref>Gweler ''Y Bywgraffiadur Cymreig'' ar-lein am fywgraffiadau ar John, Robert a Michael Roberts; hefyd ''Robert Roberts - Yr Angel o Glynnog'', Emyr Roberts ac E. Wyn James (Llyfrgell Efengylaidd Cymru 1976).</ref> | ==Y Brodyr Roberts= | ||
Yng nghanol y ddeunawfed ganrif bu'r Ffridd yn fagwrfa i ddau a ddaeth yn weinidogion amlwg iawn gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, sef [[John Roberts, Llangwm|John Roberts]] (1753-1834) a [[Robert Roberts, gweinidog Capel Uchaf|Robert Roberts]] (1762-1802), meibion i'r Robert Thomas uchod a'i wraig Catherine Jones. Dywedir mai ym Mlaenygarth, Dyffryn Nantlle, y ganed John ar 8 Awst 1753, ond â fferm Y Ffridd y caiff ei gysylltu. Wedi cyfnod o weithio yn [[Chwarel Cilgwyn]], llwyddodd i gael tipyn o addysg ac yna aeth ati i gadw ysgolion ei hun mewn gwahanol fannau, yn arbennig [[Llanllyfni]], ac am gyfnod adwaenid ef fel John Roberts, Llanllyfni. Dechreuodd bregethu yn 27 oed a phriododd â gwraig weddw, Mrs. Lloyd, Cefn Nannau, Llangwm, Meirionnydd. Ac yn Llangwm y bu'n byw o 1809 tan ei farwolaeth ar 3 Tachwedd 1834, yn 82 oed, ac fel John Roberts Llangwm y mae'n fwyaf adnabyddus. Roedd ymhlith y garfan gyntaf o ddynion a gafodd eu hordeinio'n weinidogion gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ym 1811, pan ymwahanodd y mudiad yn swyddogol oddi wrth yr Eglwys Wladol a dod yn enwad annibynnol. Yn wahanol iawn i'w frawd iau, Robert, roedd yn ddyn byr a chadarn o gorffolaeth a chyfansoddiad. Er nad ystyrid ef yn bregethwr mor danbaid â Robert, roedd galw mawr am ei wasanaeth a bu'n bregethwr cyson yng nghymdeithasfaoedd ei gyfundeb yn Ne a Gogledd Cymru am flynyddoedd. Mab iddo oedd Michael Roberts, a ddaeth hefyd yn weinidog amlwg gyda'r Methodistiaid Calfinaidd gan ymsefydlu yn eglwys Penmount, Pwllheli. Fodd bynnag, daeth diwedd trist i hanes Michael Roberts, gan iddo ddioddef o salwch meddwl a dryswch difrifol yn ddiweddarach yn ei oes. | |||
Roedd Robert Roberts, a aned 12 Medi 1762, bron i ddegawd yn iau na John, ac fel ei frawd bu yntau'n gweithio am gyfnod yn fachgen yn Chwarel Cilgwyn. Yn ddiweddarach aeth i weini ar ffermydd yn Eifionydd, a thra oedd yn was yn Coed-cae-du, dioddefodd o glefyd grydcymalau enbyd a danseiliodd ei iechyd a'i adael yn ddyn llesg a chrwca am weddill ei oes. Ni allai barhau'n was fferm ac wedi cael cyfnod byr o ysgol ym Mrynengan, dan [[Evan Richardson]] mae'n fwy na thebyg, dechreuodd bregethu. Datblygodd i fod yn un o bregethwyr mwyaf tanbaid a nerthol ei gyfnod, er gwaethaf ei anableddau, ac fe'i gelwid gan amryw "y seraff tanllyd". Derbyniodd alwad i fod yn weinidog ar yr achos yng [[Capel Uchaf (MC), Clynnog Fawr|Nhapel Ucha, Clynnog]], gan fyw yn y tŷ capel a oedd yn gysylltiedig â'r capel am weddill ei oes fer. Bu farw 28 Tachwedd 1802. (Gweler yr erthygl helaethach ar Robert Roberts yn '''Cof y Cwmwd'''.) <ref>Gweler ''Y Bywgraffiadur Cymreig'' ar-lein am fywgraffiadau ar John, Robert a Michael Roberts; hefyd ''Robert Roberts - Yr Angel o Glynnog'', Emyr Roberts ac E. Wyn James (Llyfrgell Efengylaidd Cymru 1976).</ref> | |||
==Pedair rhan Y Ffridd== | |||
Fel y dywedwyd uchod, rhennid yr eiddo'n bedwar darn anghyfartal, er i'r ystâd ystyried yr eiddo'n un. Yn yr arolwg a wnaed tua 1800, nodwyd bod tri darn wedi newid dwylo ar ôl y rhannu rhywbryd efallai yn y 1760au: y rhai gwreiddiol oedd wedi derbyn prydles oedd | |||
*William Williams (hanner yr eiddo) oedd wedi aseinio'r brydles gyda chydsyniad asiant yr ystâd i Alice Prees o [[Drws-ycoed|Ddrws-y-coed]] ac yr oedd honno wedi ei osod i Edward Jones; | |||
*William Edward (chwarter yr eiddo), a oedd eto wedi gwerthu'r brydles i rywun arall, sef John Griffith, a hynny am £20, oedd yn ffarmio ei ddarn o; | |||
*Evan Griffith, a oedd wedi gosod ei ran o i David Prichard; | |||
*Robert Thomas (y sonnir amdano uchod), oedd wedi marw erbyn 1800, ond roedd ei weddw Catherine Jones yn dal i ffarmio'r darn gydag un o'i meibion. | |||
Mae'n amlwg o'r ffordd y mae beudai a hyd yn oed tai'r pedwar tenant ar, neu yn ffinio ar, rannau o'r darnau eraill. Hyd yn oed mor ddiweddar â chyfnod y Map Degwm ryw ddeugain mlynedd yn ddiweddarach, tua 1840, ystyrid yr eiddo'n un mewn egwyddor: rhestrir holl diroedd y pedwar darn efo'i gilydd, a nodir y tenantiaid fel tenantiaid ar y cyd: Owen Davies, William Ellis, Michael Owen a Richard Jones. 759 erw oedd yr eiddo i gyd:dolkydd a thir pori oedd y cwbl heblaw am ran o Gae'r llain yr oedd rhan ohono'n cael ei aredig - a dim ond 3 erw oedd Cae'r llain i gyd. Roedd y ffridd agored, a elwid yn Ffridd Arw, yn ymestyn dros 443 erw. Cyfrifid rhannau o [[Llyn nantlle Isaf|Lyn Nantlle Isaf]], [[Llyn Nantlle Uchaf]] a[[Llynnoedd Cwm Silyn]] yn rhan o'r eiddo - tua 36 erw i gyd. Erbyn 1840, fodd bynnag, er mai un tŷ yn unig a'r buarthau sydd yn cael eu rhestru, a hynny ar safle bresennol y ffermdy, rhaid amau fod y tenantiaid yn ffermio ar wahân mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. | |||
{{eginyn}} | {{eginyn}} |
Fersiwn yn ôl 12:32, 29 Ionawr 2021
Mae gwreiddiau fferm Ffridd Baladeulyn, ar gyrion pentref Nantlle, ac a elwir heddiw fel arfer yn "Ffridd", yn mynd yn ôl ymhell ac ar un adeg roedd yn perthyn i hen Ystad y Faenol cyn i'r chwareli llechi gael eu sefydlu yn Nyffryn Nantlle. Mae'r enw Baladeulyn yn disgrifio darn gwastad o dir rhwng dau lyn, ac roedd yno ddau lyn ar un adeg cyn i'r llyn isaf o'r ddau gael ei sychu a newid cwrs yr Afon Llyfni o ganlyniad i ddatblygu Chwarel Dorothea a chwareli eraill cyfagos. Erbyn hyn, fel y dywed R. Williams Parry yn ei gerdd "Dyffryn Nantlle Ddoe a Heddiw", "Does ond un llyn ym Maladeulyn mwy".
Mae'r fferm yn ymestyn hyd at waelod Craig Cwm Silyn a llawere o'r tir yn ffridd agored hyd heddiw. Yn draddodiadol, rhannwyd Ffridd Baladeulyn yn bedair rhan gan Ystad y faenol: un darn yn hanner, un yn chwarter a'r ddwy ran arall yn chwarter yr un, wedi'u gosod i denantiaid gwahanol. Yn fwy na hynny, arferid rhoi prydlesi ar y pedwar darn, a'r prydleseion wedyn yn gosod y tir i denantiaid eraill. Felly yr oedd hi yng nghanol y ddeunawfed ganrif, pan osodwyd un o'r gwahanol brydleseion ddarn wythfed ran i Robert Thomas.[1]
=Y Brodyr Roberts
Yng nghanol y ddeunawfed ganrif bu'r Ffridd yn fagwrfa i ddau a ddaeth yn weinidogion amlwg iawn gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, sef John Roberts (1753-1834) a Robert Roberts (1762-1802), meibion i'r Robert Thomas uchod a'i wraig Catherine Jones. Dywedir mai ym Mlaenygarth, Dyffryn Nantlle, y ganed John ar 8 Awst 1753, ond â fferm Y Ffridd y caiff ei gysylltu. Wedi cyfnod o weithio yn Chwarel Cilgwyn, llwyddodd i gael tipyn o addysg ac yna aeth ati i gadw ysgolion ei hun mewn gwahanol fannau, yn arbennig Llanllyfni, ac am gyfnod adwaenid ef fel John Roberts, Llanllyfni. Dechreuodd bregethu yn 27 oed a phriododd â gwraig weddw, Mrs. Lloyd, Cefn Nannau, Llangwm, Meirionnydd. Ac yn Llangwm y bu'n byw o 1809 tan ei farwolaeth ar 3 Tachwedd 1834, yn 82 oed, ac fel John Roberts Llangwm y mae'n fwyaf adnabyddus. Roedd ymhlith y garfan gyntaf o ddynion a gafodd eu hordeinio'n weinidogion gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ym 1811, pan ymwahanodd y mudiad yn swyddogol oddi wrth yr Eglwys Wladol a dod yn enwad annibynnol. Yn wahanol iawn i'w frawd iau, Robert, roedd yn ddyn byr a chadarn o gorffolaeth a chyfansoddiad. Er nad ystyrid ef yn bregethwr mor danbaid â Robert, roedd galw mawr am ei wasanaeth a bu'n bregethwr cyson yng nghymdeithasfaoedd ei gyfundeb yn Ne a Gogledd Cymru am flynyddoedd. Mab iddo oedd Michael Roberts, a ddaeth hefyd yn weinidog amlwg gyda'r Methodistiaid Calfinaidd gan ymsefydlu yn eglwys Penmount, Pwllheli. Fodd bynnag, daeth diwedd trist i hanes Michael Roberts, gan iddo ddioddef o salwch meddwl a dryswch difrifol yn ddiweddarach yn ei oes.
Roedd Robert Roberts, a aned 12 Medi 1762, bron i ddegawd yn iau na John, ac fel ei frawd bu yntau'n gweithio am gyfnod yn fachgen yn Chwarel Cilgwyn. Yn ddiweddarach aeth i weini ar ffermydd yn Eifionydd, a thra oedd yn was yn Coed-cae-du, dioddefodd o glefyd grydcymalau enbyd a danseiliodd ei iechyd a'i adael yn ddyn llesg a chrwca am weddill ei oes. Ni allai barhau'n was fferm ac wedi cael cyfnod byr o ysgol ym Mrynengan, dan Evan Richardson mae'n fwy na thebyg, dechreuodd bregethu. Datblygodd i fod yn un o bregethwyr mwyaf tanbaid a nerthol ei gyfnod, er gwaethaf ei anableddau, ac fe'i gelwid gan amryw "y seraff tanllyd". Derbyniodd alwad i fod yn weinidog ar yr achos yng Nhapel Ucha, Clynnog, gan fyw yn y tŷ capel a oedd yn gysylltiedig â'r capel am weddill ei oes fer. Bu farw 28 Tachwedd 1802. (Gweler yr erthygl helaethach ar Robert Roberts yn Cof y Cwmwd.) [2]
Pedair rhan Y Ffridd
Fel y dywedwyd uchod, rhennid yr eiddo'n bedwar darn anghyfartal, er i'r ystâd ystyried yr eiddo'n un. Yn yr arolwg a wnaed tua 1800, nodwyd bod tri darn wedi newid dwylo ar ôl y rhannu rhywbryd efallai yn y 1760au: y rhai gwreiddiol oedd wedi derbyn prydles oedd
- William Williams (hanner yr eiddo) oedd wedi aseinio'r brydles gyda chydsyniad asiant yr ystâd i Alice Prees o Ddrws-y-coed ac yr oedd honno wedi ei osod i Edward Jones;
- William Edward (chwarter yr eiddo), a oedd eto wedi gwerthu'r brydles i rywun arall, sef John Griffith, a hynny am £20, oedd yn ffarmio ei ddarn o;
- Evan Griffith, a oedd wedi gosod ei ran o i David Prichard;
- Robert Thomas (y sonnir amdano uchod), oedd wedi marw erbyn 1800, ond roedd ei weddw Catherine Jones yn dal i ffarmio'r darn gydag un o'i meibion.
Mae'n amlwg o'r ffordd y mae beudai a hyd yn oed tai'r pedwar tenant ar, neu yn ffinio ar, rannau o'r darnau eraill. Hyd yn oed mor ddiweddar â chyfnod y Map Degwm ryw ddeugain mlynedd yn ddiweddarach, tua 1840, ystyrid yr eiddo'n un mewn egwyddor: rhestrir holl diroedd y pedwar darn efo'i gilydd, a nodir y tenantiaid fel tenantiaid ar y cyd: Owen Davies, William Ellis, Michael Owen a Richard Jones. 759 erw oedd yr eiddo i gyd:dolkydd a thir pori oedd y cwbl heblaw am ran o Gae'r llain yr oedd rhan ohono'n cael ei aredig - a dim ond 3 erw oedd Cae'r llain i gyd. Roedd y ffridd agored, a elwid yn Ffridd Arw, yn ymestyn dros 443 erw. Cyfrifid rhannau o Lyn Nantlle Isaf, Llyn Nantlle Uchaf aLlynnoedd Cwm Silyn yn rhan o'r eiddo - tua 36 erw i gyd. Erbyn 1840, fodd bynnag, er mai un tŷ yn unig a'r buarthau sydd yn cael eu rhestru, a hynny ar safle bresennol y ffermdy, rhaid amau fod y tenantiaid yn ffermio ar wahân mewn rhyw ffordd neu'i gilydd.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Archifdy Caernarfon, X/Vaynol/4057, argraffwyd yn R.O. Roberts, "Farming in Caernarvonshire around 1800, (Caernarfon, 1973), tt.52-32
- ↑ Gweler Y Bywgraffiadur Cymreig ar-lein am fywgraffiadau ar John, Robert a Michael Roberts; hefyd Robert Roberts - Yr Angel o Glynnog, Emyr Roberts ac E. Wyn James (Llyfrgell Efengylaidd Cymru 1976).