Plas Dinas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Plasty sy’n dyddio o’r unfed ganrif ar bymtheg yw Plas Dinas, sydd yn hen blwyf Llanwnda. Credir i diroedd Dinas fod yn gysylltiedig a hen drefg...' |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 16: | Llinell 16: | ||
[http://www.coflein.gov.uk/cy/site/16740/details/plas-dinas Cofnod o’r lle hwn ar wefan y Comisiwn Brenhinol] | [http://www.coflein.gov.uk/cy/site/16740/details/plas-dinas Cofnod o’r lle hwn ar wefan y Comisiwn Brenhinol] | ||
[[Categori: Safleoedd nodedig]] |
Fersiwn yn ôl 22:08, 7 Rhagfyr 2017
Plasty sy’n dyddio o’r unfed ganrif ar bymtheg yw Plas Dinas, sydd yn hen blwyf Llanwnda.
Credir i diroedd Dinas fod yn gysylltiedig a hen drefgordd Bodellog, a gelwir ar un adeg yn Dinas Dinoethwy. Cafodd ei hadeiladu yn 1653 gan Thomas Williams, un o feibion ystâd y Faenol. Rhoddodd garreg ar un o furiau’r plasty, ac wedi naddu arni ceir ‘1653 TW, JW’. Mae’n debyg mai ei llythrennau enw Thomas Williams a’i wraig yw rhain. Ni chafodd y gwr hwn fyw yn ei annedd newydd am yn hir ar ei adeiladu oherwydd buodd iddo farw yn 1656.
Ail-briododd ei wraig Jane, a oedd yn ferch i deulu Castellmarch, gyda Thomas Bulkeley – mab Arglwydd Bulkeley o’r Baron Hill ym Miwmares. Trwy ei briodas a Jane, gwnaethpwyd ei ystâd yn llawer mwy a manteisiodd ar ei gysylltiadau newydd yn ardal Llanwnda.
Ar farwolaeth Thomas Bulkeley yn 1708, etifeddodd ei nai, Thomas Bulkeley Plas Dinas a buodd fyw yno ei hyn am rhai blynyddoedd. Erbyn 1741, roedd y Parch. Richard Farrington, M.A., ficer ym mhlwyfi Llanwnda a Llanfaglan yn byw yno. Yn ei gyfnod ef, nid oedd y tiroedd ynghlwm a’r plasty, ac roedd rheiny yn nwylo Morris Williams, tirfeddiannwr uchel ei barch yn ardal Llanwnda.
Symudodd y plasty wedyn o feddiant Farrington i Gapten Richard Jones, gŵr i un o ferched y Morris Williams a nodir uchod. Daeth yna Owen Roberts o Dŷ Mawr, Clynnog yno i fyw ynghyd a’i briod Catherine o’r Castell, Llanddeiniolen. Roedd Roberts wedi addasu llawer ar y tŷ, ac wedi adeiladu estyniadau arni. O ganlyniad hyn, cadwodd y tŷ ei statws fel plasty, yn hytrach na’i throi yn ffermdy fel llawer o anheddau hynafol eraill yn ardal Uwchgwyrfai.
Cysylltir llawer o bobl leol y plasty fel cartref i’r diweddaf Anthony Armstrong-Jones, a briododd a’r Dywysoges Margaret yn 1960. Mae’r plasty bellach yn westy pum seren moethus.
Ffynonellau
Williams, W. Gilbert Moel Tryfan i’r Traeth (Cyhoeddiadau Mei, Penygroes, 1983)