Tre'r Ceiri: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Bryngaer sy’n dyddio o’r oes haearn yw '''Tre’r Ceiri'''. Fe'i lleolir ar un o gopaon [[Yr Eifl]], ac mae'n edrych dros arfordir cwmwd [[Uwchgwyrfai]], tua’r gogledd am Gaernarfon. | Bryngaer sy’n dyddio o’r oes haearn yw '''Tre’r Ceiri'''. Fe'i lleolir ar gopa Mynydd y Ceiri, un o gopaon [[Yr Eifl]], ac mae'n edrych dros arfordir cwmwd [[Uwchgwyrfai]], tua’r gogledd am Gaernarfon. | ||
Hon yw un o’r bryngeyrydd gorau ei chyflwr drwy wledydd Prydain. Hefyd mae’n un o’r rhai uchaf, tua 480m. O amgylch y safle helaeth o tua 2.5 hectar ar gopa’r mynydd ceir rhagfur cerrig tua 9 troedfedd o drwch ac 11 troedfedd o uchder. Mae wal arall i’r gogledd-orllewin yn cryfhau’r amddiffynfeydd ymhellach. Adeiladwyd y muriau hyn o gerrig rhydd a oedd ar gael ar lethrau'r mynydd. Roedd lle i wylwyr ac amddiffynwyr gerdded ar ben y muriau ac mae'r porth cadarn i'r gaer yn amlwg o hyd. O fewn y muriau ceir nifer helaeth iawn o gytiau crynion a hirgrwn – tua 150 i gyd. Roedd y tai cynharaf ar y safle yn dai crwn o gerrig, tra bod y rhai mwy diweddar yn betryal o ran eu siâp, gyda rhai ohonynt wedi eu rhannu â muriau croes i greu dwy neu dair o ystafelloedd llai. Gwnaed peth gwaith trwsio ar y rhagfuriau a rhai o'r cytiau yn ystod y blynyddoedd diwethaf. O fewn y gaer hefyd ceir gweddillion Carnedd gynharach o'r Oes Efydd, lle gwnaed gwaith cloddio archeolegol yn ddiweddar. Y tu allan i furiau'r gaer gwelir gweddillion llociau bychain ac mae'n debygol i'r rhain gael eu defnyddio fel corlannau i anifeiliaid ac fel lleiniau bychain i dyfu cnydau. Y tu allan i'r fynedfa i'r gaer gwelir ffynnon o hyd ac mae'n debyg ei bod yn darparu dŵr i'r trigolion a'u hanifeiliaid. | |||
Credir i Dre’r Ceiri gael ei adeiladu at ddiwedd y cyfnod cynhanesyddol ac i’r safle gael ei ddefnyddio drwy’r cyfnod Rhufeinig ac am beth amser wedi hynny. Yn ystod ei gyfnod cynnar yn yr Oes Haearn mae'n debyg mai tua 100 oedd nifer y boblogaeth yn byw mewn rhyw 20 o dai. Fodd bynnag, wrth i'r gaer gynyddu datblygodd erbyn y cyfnod Rhufeinig i fod yn bentref sylweddol o tua 400 o drigolion. Er bod gan y Rhufeiniaid gaer gref yn Segontium (Caernarfon), nid oes tystiolaeth iddynt ymosod ar Dre'r Ceiri, er ei bod yn debygol iawn fod y trigolion yno yn talu rhyw fath o drethi iddynt. | |||
Gwnaed gwaith cloddio archeolegol ar y safle i ddechrau yn 1904 a 1906. Un o'r cloddwyr cynnar yno oedd Y Parch. Sabine Baring-Gould, awdur a hynafiaethydd amlwg a gyhoeddodd, ymysg llu o lyfrau eraill, ''The Lives of the British Saints'' (1907). Pan oedd yn cloddio yn Nhre'r Ceiri bu'n lletya a gyfnod yn nhafarn y Rivals Inn (y "Ring") yn Llanaelhaearn. Gwnaed gwaith archaeolegol pellach yn Nhre'r Ceiri yn y 1950au a ddatgelodd wybodaeth newydd am amddiffynfeydd y gaer a'r gwahanol arddulliau o adeiladu'r tai yno. | |||
Mae'r rhan fwyaf o'r creiriau a ddarganfuwyd yn y fryngaer, yn cynnwys crochenwaith, celfi haearn, sidelli gwerthyd (''spindle-whorls'') carreg a gleiniau gwydr, yn perthyn i'r cyfnod Rhufeinig-Frythonig (OC50-400), sy'n tystio i'r gaer barhau i gael ei defnyddio'n helaeth yn ystod y cyfnod pan oedd y fyddin Brydeinig wedi goresgyn yr hyn sydd erbyn hyn yn ogledd-orllewin Cymru. Yn un o'r tai, darganfuwyd broits hardd oreurog. Mae'r gwaith cywrain arni yn perthyn i gyfnod arddull ddiweddar La Téne, ac mae'n debyg iddi gael ei gwneud tua chanol y ganrif gyntaf Oed Crist. Gellir ei gweld yn yr Oriel Archaeoleg Rufeinig yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd. | |||
==Ffynonellau== | ==Ffynonellau== | ||
Llinell 8: | Llinell 18: | ||
[http://www.coflein.gov.uk/cy/site/95292/details/trer-ceiri-hillfort-llanaelhaearn - Cofnod o'r lle hwn ar wefan y Comisiwn Brenhinol] | [http://www.coflein.gov.uk/cy/site/95292/details/trer-ceiri-hillfort-llanaelhaearn - Cofnod o'r lle hwn ar wefan y Comisiwn Brenhinol] | ||
Gwefan Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru | |||
[[Categori: Safleoedd nodedig]] | [[Categori: Safleoedd nodedig]] |
Fersiwn yn ôl 15:29, 7 Ionawr 2021
Bryngaer sy’n dyddio o’r oes haearn yw Tre’r Ceiri. Fe'i lleolir ar gopa Mynydd y Ceiri, un o gopaon Yr Eifl, ac mae'n edrych dros arfordir cwmwd Uwchgwyrfai, tua’r gogledd am Gaernarfon.
Hon yw un o’r bryngeyrydd gorau ei chyflwr drwy wledydd Prydain. Hefyd mae’n un o’r rhai uchaf, tua 480m. O amgylch y safle helaeth o tua 2.5 hectar ar gopa’r mynydd ceir rhagfur cerrig tua 9 troedfedd o drwch ac 11 troedfedd o uchder. Mae wal arall i’r gogledd-orllewin yn cryfhau’r amddiffynfeydd ymhellach. Adeiladwyd y muriau hyn o gerrig rhydd a oedd ar gael ar lethrau'r mynydd. Roedd lle i wylwyr ac amddiffynwyr gerdded ar ben y muriau ac mae'r porth cadarn i'r gaer yn amlwg o hyd. O fewn y muriau ceir nifer helaeth iawn o gytiau crynion a hirgrwn – tua 150 i gyd. Roedd y tai cynharaf ar y safle yn dai crwn o gerrig, tra bod y rhai mwy diweddar yn betryal o ran eu siâp, gyda rhai ohonynt wedi eu rhannu â muriau croes i greu dwy neu dair o ystafelloedd llai. Gwnaed peth gwaith trwsio ar y rhagfuriau a rhai o'r cytiau yn ystod y blynyddoedd diwethaf. O fewn y gaer hefyd ceir gweddillion Carnedd gynharach o'r Oes Efydd, lle gwnaed gwaith cloddio archeolegol yn ddiweddar. Y tu allan i furiau'r gaer gwelir gweddillion llociau bychain ac mae'n debygol i'r rhain gael eu defnyddio fel corlannau i anifeiliaid ac fel lleiniau bychain i dyfu cnydau. Y tu allan i'r fynedfa i'r gaer gwelir ffynnon o hyd ac mae'n debyg ei bod yn darparu dŵr i'r trigolion a'u hanifeiliaid.
Credir i Dre’r Ceiri gael ei adeiladu at ddiwedd y cyfnod cynhanesyddol ac i’r safle gael ei ddefnyddio drwy’r cyfnod Rhufeinig ac am beth amser wedi hynny. Yn ystod ei gyfnod cynnar yn yr Oes Haearn mae'n debyg mai tua 100 oedd nifer y boblogaeth yn byw mewn rhyw 20 o dai. Fodd bynnag, wrth i'r gaer gynyddu datblygodd erbyn y cyfnod Rhufeinig i fod yn bentref sylweddol o tua 400 o drigolion. Er bod gan y Rhufeiniaid gaer gref yn Segontium (Caernarfon), nid oes tystiolaeth iddynt ymosod ar Dre'r Ceiri, er ei bod yn debygol iawn fod y trigolion yno yn talu rhyw fath o drethi iddynt.
Gwnaed gwaith cloddio archeolegol ar y safle i ddechrau yn 1904 a 1906. Un o'r cloddwyr cynnar yno oedd Y Parch. Sabine Baring-Gould, awdur a hynafiaethydd amlwg a gyhoeddodd, ymysg llu o lyfrau eraill, The Lives of the British Saints (1907). Pan oedd yn cloddio yn Nhre'r Ceiri bu'n lletya a gyfnod yn nhafarn y Rivals Inn (y "Ring") yn Llanaelhaearn. Gwnaed gwaith archaeolegol pellach yn Nhre'r Ceiri yn y 1950au a ddatgelodd wybodaeth newydd am amddiffynfeydd y gaer a'r gwahanol arddulliau o adeiladu'r tai yno.
Mae'r rhan fwyaf o'r creiriau a ddarganfuwyd yn y fryngaer, yn cynnwys crochenwaith, celfi haearn, sidelli gwerthyd (spindle-whorls) carreg a gleiniau gwydr, yn perthyn i'r cyfnod Rhufeinig-Frythonig (OC50-400), sy'n tystio i'r gaer barhau i gael ei defnyddio'n helaeth yn ystod y cyfnod pan oedd y fyddin Brydeinig wedi goresgyn yr hyn sydd erbyn hyn yn ogledd-orllewin Cymru. Yn un o'r tai, darganfuwyd broits hardd oreurog. Mae'r gwaith cywrain arni yn perthyn i gyfnod arddull ddiweddar La Téne, ac mae'n debyg iddi gael ei gwneud tua chanol y ganrif gyntaf Oed Crist. Gellir ei gweld yn yr Oriel Archaeoleg Rufeinig yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd.
Ffynonellau
Wheeler, R. E. Mortimer Roman and Native in Wales: An Imperial Frontier Problem Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion 1920-1921
- Cofnod o'r lle hwn ar wefan y Comisiwn Brenhinol
Gwefan Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru