Plas Nantlle: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Hebog (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae '''Plas Mawr''', Plas yn Nantlle, neu Tŷ Mawr Nantlle yn un o'r plastaihynaf a mwyaf diddorol yn Uwchgwyrfai er nad yw'n gyfarwydd i lawer, gan e...'
 
Hebog (sgwrs | cyfraniadau)
B Symudodd Hebog y dudalen '''Plas Nantlle''' i Plas Nantlle
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 15:50, 7 Ionawr 2021

Mae Plas Mawr, Plas yn Nantlle, neu Tŷ Mawr Nantlle yn un o'r plastaihynaf a mwyaf diddorol yn Uwchgwyrfai er nad yw'n gyfarwydd i lawer, gan ei fod yn parhau'n dŷ preifat ac yn gymharol ddi-nod o'r ffordd. Saif i'r chwith o'r ffordd B4418 wrth i honno droi i'r dde i gyfeiriad Drws-y-coed ar ddechrau pentref Nantlle. Y Plas, yn wir, sydd wedi rhoi'r enw i'r pentref, gan mai terasau o dai ar dir oedd yn eiddo i'r Plas yw'r rhan fwyaf o dai'r pentref, na ddaeth i fodolaeth tan ail hanner y 19g. Mae enw Nantlle ei hun yn debygol o fod yn hŷn na'r tŷ cyntaf ar y safle, fel disgrifiad o'r ardal, sef Nant = Dyffryn (fel yn enw Nant Gwytheyrn) ac wedyn Lleu, y ffigwr mytholegol - er mod rhai wedi ceisio ei ddehongli fel Nantllynnau, gan fod dau lyn yno.[1]

 Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Glenda Carr, ‘’Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd’’ (Caernarfon, 2011), tt.205-7