Llyn Nantlle Isaf: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cudyll (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Cudyll (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[ | |||
Safai '''Llyn Nantlle Isaf''' ar lawr [[Dyffryn Nantlle]] gyferbyn â [[Plas Tal-y-sarn|Phlas Tal-y-sarn]] i'r gogledd a [[Gwernor]] i'r de. Roedd wedi ei gysylltu â [[Llyn Nantlle Uchaf]] gan hyd byr o'r [[Afon Llyfni]] a redai trwy'r llyn. Ar y dechrau, roedd bron cymaint â'r llyn uchaf. Rhedai Afon Llyfni allan o'r llyn ger [[Pont Sarn Wyth-dŵr]]. | Safai '''Llyn Nantlle Isaf''' ar lawr [[Dyffryn Nantlle]] gyferbyn â [[Plas Tal-y-sarn|Phlas Tal-y-sarn]] i'r gogledd a [[Gwernor]] i'r de. Roedd wedi ei gysylltu â [[Llyn Nantlle Uchaf]] gan hyd byr o'r [[Afon Llyfni]] a redai trwy'r llyn. Ar y dechrau, roedd bron cymaint â'r llyn uchaf. Rhedai Afon Llyfni allan o'r llyn ger [[Pont Sarn Wyth-dŵr]]. | ||
Fersiwn yn ôl 12:48, 28 Rhagfyr 2020
[[
Safai Llyn Nantlle Isaf ar lawr Dyffryn Nantlle gyferbyn â Phlas Tal-y-sarn i'r gogledd a Gwernor i'r de. Roedd wedi ei gysylltu â Llyn Nantlle Uchaf gan hyd byr o'r Afon Llyfni a redai trwy'r llyn. Ar y dechrau, roedd bron cymaint â'r llyn uchaf. Rhedai Afon Llyfni allan o'r llyn ger Pont Sarn Wyth-dŵr.
Roedd Chwarel Pen-y-bryn a Chwarel Dorothea ar y glannau gogleddol a Chwarel Gwernor i'r de ac o dipyn i beth fe gyfyngwyd ar faint y llyn trwy i'r chwareli ollwng gwastraff i'r dŵr. Roedd cryn dipyn o'r llyn wedi diflannu dan y tipiau erbyn arolwg Ordnans 1888 ac erbyn 1901 roedd y llyn wedi colli tri chwarter yr arwynebedd oedd wedi bod ar ôl 13 mlynedd ynghynt. Roedd cwrs Afon Llyfni wedi ei wyro at ochr Gwernor i'r dyffryn tua 1891,[1] gan adael llawer o dir corsiog gyferbyn â Chwarel Dorothea. Erbyn 1913, dim ond pwll corsiog oedd ar ôl yn llawn brwyn, ac erbyn map 1949 roedd y map yn dangos nad oedd llyn yno o gwbl, a hyd yn oed enw'r llyn wedi'i ddileu - er i'r llyn uchaf yn dal i gael ei alw'n Llyn Nantlle Uchaf ar y mapiau.[2]
Erbyn hyn nid oes dim byd o'r llyn ar ôl eithr tir gweddol gorsiog ar waelod y rhan honno o'r dyffryn.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma