Afon Llyfni: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Cudyll (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Cudyll (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 3: Llinell 3:

Fe ddargyfeiriwyd yr afon tua 1891, gan ffurfio cwrs newydd rhwng ceg uchaf y llyn lle rhedai Llyn Nantlle Uchaf iddo a man yn nes at Dal-y-sarn.<ref>''Hen Luniau Dyffryn Nantlle'', (Caernarfon, 1985), llun 34 a'r capsiwn</ref>

[[Delwedd:Dargyfeirio afon llyfni 1891.jpg|bawd|de|350px| Dargyfeirio Afon Llyfni tua 1891. Plas Dorothea yn y cefndir.]]

Yr oedd nifer o [[Melinau Afon Llyfnwy|felinau]] ar ei glannau, ac er nad yw'r afon yn llifo'n arbennig o gyflym fel arfer (a hynny'n cael ei gyfleu yn enw'r afon), mae digon o ddŵr ynddi i'r melinwyr greu ffosydd a ffrydiau melin i droi'r olwynion cyn ail-gyfeirio'r dwr yn ôl i'r afon fawr.

Fersiwn yn ôl 12:42, 28 Rhagfyr 2020

Afon Llyfni yw prif afon Dyffryn Nantlle. Mae hi'n llifo mewn gwirionedd o Lyn Bwlch-y-moch uwchben Drws-y-coed ym mhen uchaf y dyffryn trwy Llyn Nantlle Uchaf, heibio pentrefi Tal-y-sarn a Llanllyfni (sydd wedi cael ei enwi ar ôl yr afon yn hytrach na nawddsant y plwyf, Rhedyw Sant, ac ymlaen hyd Pontlyfni gan arllwys i'r môr ym Mae Caernarfon yn y fan honno. Fodd bynnag, yr enw a roddir ar ddarn uchaf yr afon, o'i tharddiad hyd Llyn nantlle Uchaf, yw Afon Drws-y-coed. O ran enw prif ddarn yr afon, enw gwneud ar Afon Llyfni a fabwysiadwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yw "Llyfnwy" mewn gwirionedd, er bod llawer yn ei arddel gan feddwl ei fod yn fwy Cymreigaidd. Noda'r rhestr safonol op enwau, fodd bynnag, mai Afon Llyfni sy'n gywir,[1] ac yr oedd yr arbenigwr Melville Richards y cytuno. Meddai

Terfyniad yn -i sydd yma, nid yn -wy fel y tybid yn y ganrif ddiwethaf (sef y 19fed g.), ac er bod y ffurf Llyfnwy wedi bod yn ffasiwn ar un adeg, nid oes sail iddi o gwbl.[2]

Fe ddargyfeiriwyd yr afon tua 1891, gan ffurfio cwrs newydd rhwng ceg uchaf y llyn lle rhedai Llyn Nantlle Uchaf iddo a man yn nes at Dal-y-sarn.[3]

Dargyfeirio Afon Llyfni tua 1891. Plas Dorothea yn y cefndir.

Yr oedd nifer o felinau ar ei glannau, ac er nad yw'r afon yn llifo'n arbennig o gyflym fel arfer (a hynny'n cael ei gyfleu yn enw'r afon), mae digon o ddŵr ynddi i'r melinwyr greu ffosydd a ffrydiau melin i droi'r olwynion cyn ail-gyfeirio'r dwr yn ôl i'r afon fawr.

Mae'n afon sy'n dal i ddenu pysgotwyr i ddal eogiaid a sewiniaid.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Elwyn Davies (gol.), Rhestr o Enwau Lleoedd, (Caerdydd, 3ydd argraffiad, 1967), t.8
  2. Melville Richards, Enwau Tir a Gwlad, (Caernarfon, 1998), t.190
  3. Hen Luniau Dyffryn Nantlle, (Caernarfon, 1985), llun 34 a'r capsiwn