Y Mabinogi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 5: Llinell 5:
Am fwy o fanylion gweler yr erthygl ar [[Mabinogion]].
Am fwy o fanylion gweler yr erthygl ar [[Mabinogion]].


{{eginyn}}
 
==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Chwedloniaeth]]
[[Categori:Chwedloniaeth]]
[[Categori:Llenyddiaeth gynnar]]
[[Categori:Llenyddiaeth gynnar]]

Fersiwn yn ôl 13:05, 14 Rhagfyr 2020

"Y Mabinogi" yw'r enw a roddir yn benodol i bedair o chwedlau llafar Cymreig neu Geltaidd sydd yn mynd yn ôl i ddyddiau cynharaf ein hunaniaeth fel cenedl o bobl. Cyfeirir at y rhain y aml fel Pedair Cainc y Mabinogi. Mae'r term Y Mabinogion yn derm nas ceir yn y llenyddiaeth gynnar ond unwaith (ar ddiwedd hanes Pwyll) ond fe'i fabwysiadwyd gan Charlotte Guest, cyfieithydd y testunau hyn a rhai straeon cynnar eraill fel teitl i'w gwaith.[1]

Er bod yr hanesion yn sôn am lawer i ran o Gymru, mae rhan helaeth o gynnwys Pedwaredd Gainc y Mabinogi yn cyfeirio at Môn, Arfon a Meirionnydd, ac mae Uwchgwyrfai yn frith o enwau lleoedd sydd yn cyfeirio at gymeriadau a lleoedd sydd yn ymddangos yn yr hanesion: enwau megis Caer Arianrhod, Dolbebin, Maen Dylan ac ati.

Am fwy o fanylion gweler yr erthygl ar Mabinogion.


Cyfeiriadau

  1. Meic Stephens (gol.), ‘’Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru’’, (Caerdydd, 1986), t.385