Afon Llyfni: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
B Symudodd Heulfryn y dudalen Afon Llyfnwy i Afon Llyfni
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 16:21, 13 Rhagfyr 2020

Afon Llyfni yw prif afon Dyffryn Nantlle. Mae hi'n llifo mewn gwirionedd o Lyn Bwlch-y-moch uwchben Drws-y-coed ym mhen uchaf y dyffryn trwy Llyn Nantlle Uchaf, heibio pentrefi Tal-y-sarn a Llanllyfni (sydd wedi cael ei enwi ar ôl yr afon yn hytrach na nawddsant y plwyf, Rhedyw Sant, ac ymlaen hyd Pontlyfni gan arllwys i'r môr ym Mae Caernarfon yn y fan honno. Fodd bynnag, yr enw a roddir ar ddarn uchaf yr afon, o'i tharddiad hyd Llyn nantlle Uchaf, yw Afon Drws-y-coed. O ran enw prif ddarn yr afon, enw gwneud ar Afon Llyfni a fabwysiadwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yw "Llyfnwy" mewn gwirionedd, er bod llawer yn ei arddel gan feddwl ei fod yn fwy Cymreigaidd. Noda'r rhestr safonol op enwau, fodd bynnag, mai Afon Llyfni sy'n gywir,[1] ac yr oedd yr arbenigwr Melville Richards y cytuno. Meddai

Terfyniad yn -i sydd yma, nid yn -wy fel y tybid yn y ganrif ddiwethaf (sef y 19fed g.), ac er bod y ffurf Llyfnwy wedi bod yn ffasiwn ar un adeg, nid oes sail iddi o gwbl.[2]

Yr oedd nifer o felinau ar ei glannau, ac er nad yw'r afon yn llifo'n arbennig o gyflym fel arfer (a hynny'n cael ei gyfleu yn enw'r afon), mae digon o ddŵr ynddi i'r melinwyr greu ffosydd a ffrydiau melin i droi'r olwynion cyn ail-gyfeirio'r dwr yn ôl i'r afon fawr.

Mae'n afon sy'n dal i ddenu pysgotwyr i ddal eogiaid a sewiniaid.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Elwyn Davies (gol.), Rhestr o Enwau Lleoedd'Ccaerdydd, 3yddargraffiad, 1967), t.8
  2. Melville Richards, Enwau Tir a Gwlad, (Caernarfon, 1998), t.190