Evan Richardson: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 7: Llinell 7:
Chwaraeodd Evan Richardson ran flaenllaw iawn yn natblygiad Methodistiaeth yn nhref Caernarfon. Denodd rai o bregethwyr amlycaf y Methodistiaid i'r dref i gynnal oedfaon, yn eu plith David Jones, Llan-gan, a fu ar daith yno ym 1786. Yn dilyn llwyddiant cyfarfodydd awyr agored i ddechrau, dechreuwyd cynnal cyfarfodydd mewn llofft yn Nhan-yr-allt ar Ffordd Bethel, ac ym 1793 codwyd capel cyntaf y Methodistiaid Calfinaidd yn y dref yn "Mount Pleasant", a hwn oedd rhagflaenydd capel Moreia (1826). Roedd Richardson ymysg y garfan gyntaf a ordeiniwyd i waith y weinidogaeth gan y Methodistiaid yn Y Bala ym 1811. Bu farw 29 Mawrth 1824 yn 65 oed a'i gladdu ym mynwent eglwys Llanbeblig.<ref> ''Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940'', (Llundain 1953), t.804.</ref>
Chwaraeodd Evan Richardson ran flaenllaw iawn yn natblygiad Methodistiaeth yn nhref Caernarfon. Denodd rai o bregethwyr amlycaf y Methodistiaid i'r dref i gynnal oedfaon, yn eu plith David Jones, Llan-gan, a fu ar daith yno ym 1786. Yn dilyn llwyddiant cyfarfodydd awyr agored i ddechrau, dechreuwyd cynnal cyfarfodydd mewn llofft yn Nhan-yr-allt ar Ffordd Bethel, ac ym 1793 codwyd capel cyntaf y Methodistiaid Calfinaidd yn y dref yn "Mount Pleasant", a hwn oedd rhagflaenydd capel Moreia (1826). Roedd Richardson ymysg y garfan gyntaf a ordeiniwyd i waith y weinidogaeth gan y Methodistiaid yn Y Bala ym 1811. Bu farw 29 Mawrth 1824 yn 65 oed a'i gladdu ym mynwent eglwys Llanbeblig.<ref> ''Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940'', (Llundain 1953), t.804.</ref>


Ar yr olwg cyntaf, gellid honni mai ychydig o gysylltiad oedd gan Richardson ag [[Uwchgwyrfai]] ond eto wrth graffu'n fanylach, mae'n amlwg fod ganddo gryn ddylanwad ar ddatblygiad cynnar Methodistiaeth Galfinaidd yn y cwmwd. Gwasanaethai fel un o ymddiriedolwyr sawl capel Methodist, a bu'n pregethu'n gyson yn y fro. Fe oedd y pregethwr cyntaf yn agoriad swyddogol [[Capel Bryn'rodyn (MC)]].<ref>W. Hobley, ''Hanes Methodistiaeth Arfon'', Cyf. 1, (Caernarfon, 19xx), t.</ref>
Ar yr olwg gyntaf, gellid honni mai ychydig o gysylltiad oedd gan Richardson ag [[Uwchgwyrfai]] ond eto wrth graffu'n fanylach, mae'n amlwg fod ganddo gryn ddylanwad ar ddatblygiad cynnar Methodistiaeth Galfinaidd yn y cwmwd. Gwasanaethai fel un o ymddiriedolwyr sawl capel Methodist, a bu'n pregethu'n gyson yn y fro. Fe oedd y pregethwr cyntaf yn agoriad swyddogol [[Capel Bryn'rodyn (MC)]].<ref>W. Hobley, ''Hanes Methodistiaeth Arfon'', Cyf. 1, (Caernarfon, 19xx), t.</ref>


Cysylltiad llai disgwyliedig efallai yw'r ffaith ei fod yn un o brydleswyr [[Melin y Bont Newydd|Melin Bontnewydd]] ac mae'n amlwg ei fod wedi buddsoddi llawer o'i arian yn y fenter honno. Pan farwodd gwnaed rhestr o'i eiddo, yn cynnwys ei ddillad (gwerth £5); ei lyfrgell o lyfrau (gwerth £20); ei ddodrefn ac ati (gwerth £30); dyledion a buddsoddiadau amrywiol (gwerth £40), fe nodwyd yn y ddogfen honno fod ganddo bumed siâr ym mhrydles Melin Bontnewydd, cyfran werth £100.<ref>Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Dogfennau Profiant, B/1825/104?I</ref>  
Cysylltiad llai disgwyliedig efallai yw'r ffaith ei fod yn un o brydleswyr [[Melin y Bont Newydd|Melin Bontnewydd]] ac mae'n amlwg ei fod wedi buddsoddi llawer o'i arian yn y fenter honno. Pan fu farw gwnaed rhestr o'i eiddo, yn cynnwys ei ddillad (gwerth £5); ei lyfrgell o lyfrau (gwerth £20); ei ddodrefn ac ati (gwerth £30); dyledion a buddsoddiadau amrywiol (gwerth £40), fe nodwyd yn y ddogfen honno fod ganddo bumed siâr ym mhrydles Melin Bontnewydd, cyfran werth £100.<ref>Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Dogfennau Profiant, B/1825/104?I</ref>  


== Cyfeiriadau ==
== Cyfeiriadau ==

Fersiwn yn ôl 22:45, 9 Rhagfyr 2020

Roedd Evan Richardson (1759-1824) yn weinidog amlwg gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a bu'n cadw ysgol bwysig yng Nghaernarfon am flynyddoedd.

Un o ogledd Sir Aberteifi oedd Evan Richardson, yn fab i saer maen o'r enw Rhisiart Morys Huw o'r Bryngwyn Bach yn Llanfihangel-genau'r-glyn. Roedd ganddo gysylltiadau teuluol hefyd â Lewis Edwards, a ddywedodd fod Richardson yn "ewythr" iddo. Bwriedid yn wreiddiol i Evan Richardson fynd i weinidogaeth yr Eglwys Anglicaniadd ac i'r perwyl hwnnw aeth yn ddisgybl i'r ysgol enwog a gedwid yn Ystrad Meurig gan Edward Richard. Fodd bynnag, daeth dan ddylanwad y clerigwr Methodistaidd, Daniel Rowland o Langeithio, a chefnodd ar yr Eglwys a bwrw ei goelbren gyda'r Methodistiaid.

Daeth i Ogledd Cymru i ddechrau fel "cyfaill" i bregethwr teithiol, ond dechreuodd bregethu ei hun oddeutu 1781 ac ar anogaeth Robert Jones, Rhos-lan, agorodd ysgol ym Mrynengan ym 1782 - roedd un o achosion cynharaf y Methodistiaid yn yr ardal eisoes wedi ei sefydlu ym Mrynengan. Yn dilyn cyfnodau pellach yn cadw ysgol ym Mhwllheli ac yn Llangybi yn Eifionydd, symudodd Richardson i gadw ysgol yng Nghaernarfon ym 1787. Bu'r ysgol hon yn un bwysig iawn o ran meithrin pregethwyr Methodistaidd ei dydd a cheir llawer o gyfeiriadau ati yn eu cofiannau. Ymysg ei disgyblion bu John Elias a (Syr) Hugh Owen. Rhoddodd Richardson y gorau i'r ysgol tua 1817 pan ddechreuodd ei iechyd dorri ac fe'i cymrwyd drosodd gan Fethodist amlwg arall, William Lloyd.

Chwaraeodd Evan Richardson ran flaenllaw iawn yn natblygiad Methodistiaeth yn nhref Caernarfon. Denodd rai o bregethwyr amlycaf y Methodistiaid i'r dref i gynnal oedfaon, yn eu plith David Jones, Llan-gan, a fu ar daith yno ym 1786. Yn dilyn llwyddiant cyfarfodydd awyr agored i ddechrau, dechreuwyd cynnal cyfarfodydd mewn llofft yn Nhan-yr-allt ar Ffordd Bethel, ac ym 1793 codwyd capel cyntaf y Methodistiaid Calfinaidd yn y dref yn "Mount Pleasant", a hwn oedd rhagflaenydd capel Moreia (1826). Roedd Richardson ymysg y garfan gyntaf a ordeiniwyd i waith y weinidogaeth gan y Methodistiaid yn Y Bala ym 1811. Bu farw 29 Mawrth 1824 yn 65 oed a'i gladdu ym mynwent eglwys Llanbeblig.[1]

Ar yr olwg gyntaf, gellid honni mai ychydig o gysylltiad oedd gan Richardson ag Uwchgwyrfai ond eto wrth graffu'n fanylach, mae'n amlwg fod ganddo gryn ddylanwad ar ddatblygiad cynnar Methodistiaeth Galfinaidd yn y cwmwd. Gwasanaethai fel un o ymddiriedolwyr sawl capel Methodist, a bu'n pregethu'n gyson yn y fro. Fe oedd y pregethwr cyntaf yn agoriad swyddogol Capel Bryn'rodyn (MC).[2]

Cysylltiad llai disgwyliedig efallai yw'r ffaith ei fod yn un o brydleswyr Melin Bontnewydd ac mae'n amlwg ei fod wedi buddsoddi llawer o'i arian yn y fenter honno. Pan fu farw gwnaed rhestr o'i eiddo, yn cynnwys ei ddillad (gwerth £5); ei lyfrgell o lyfrau (gwerth £20); ei ddodrefn ac ati (gwerth £30); dyledion a buddsoddiadau amrywiol (gwerth £40), fe nodwyd yn y ddogfen honno fod ganddo bumed siâr ym mhrydles Melin Bontnewydd, cyfran werth £100.[3]

Cyfeiriadau

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940, (Llundain 1953), t.804.
  2. W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf. 1, (Caernarfon, 19xx), t.
  3. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Dogfennau Profiant, B/1825/104?I