William Pleming: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Cudyll (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
'''William Francis Pleming''' (1909 - 1989) neu Wil i'w gyfeillion, oedd rheolwr olaf [[Chwarel Dorothea]]. Brodor o Lan Ffestiniog ond dreuliodd y rhan helaethaf o'i oes ym [[Pen-y-groes|Mhenygroes]] ac yn gweithio yn y chwarel. Dechreuodd ei yrfa fel chwarelwr Graig Ddu ym Manod, ond pan ddaeth dirwasgiad yn y diwydiant llechi yn y tri degau, ymfudodd ef a'i deulu i Slough. Yno, yn ystod blynyddoedd y rhyfel, bu'n gweithio yn High Duty Alloys. Ond fel yr âi'r rhyfel rhagddi fe gyrhaeddodd y 'doodle bugs' -  y flying bombs, nad oedd unrhyw sicrwydd ble y ffrwydrent, ac o'r herwydd gyrrodd William ei wraig (Luned) a'i blant Alwyn a Helen i ddiogelwch Pen-y-groes a dilynodd yntau hwy ar ddiwedd y rhyfel ac yn ôl i'r chwarel.

Roedd ei dad yng nghyfraith (Efan John  Morris) yn stiward yn Dorothea, a bu'n gefn i William yn ei flynyddoedd cynnar yn Dorothea. Dros y blynyddoedd cafodd ddyrchafiad i fod yn stiward ei hun ac yna ymhen amser yn rheolwr, yn dilyn [[Huw Jones]]. Erbyn hyn roedd oes aur y galw am lechi yn dechrau prinhau wedi'r prysurdeb yn ailadeiladu ar ôl y bomio mawr wedi'r rhyfel. Ar ben hyn roedd y cerrig rhywiog yn prinhau. Yn ôl yr hen chwarelwyr roedd digonedd o lechi i gyfeiriad [[Nantlle]] ond yn anffodus roedd y tomenydd ar eu pennau nhw a byddai'n llawer rhy gostus i'w clirio.
Roedd ei dad yng nghyfraith (Efan John  Morris) yn stiward yn Dorothea, a bu'n gefn i William yn ei flynyddoedd cynnar yn Dorothea. Dros y blynyddoedd cafodd ddyrchafiad i fod yn stiward ei hun ac yna ymhen amser yn rheolwr, yn dilyn [[Huw Jones, rheolwr Dorothea|Huw Jones]]. Erbyn hyn roedd oes aur y galw am lechi yn dechrau prinhau wedi'r prysurdeb yn ailadeiladu ar ôl y bomio mawr wedi'r rhyfel. Ar ben hyn roedd y cerrig rhywiog yn prinhau. Yn ôl yr hen chwarelwyr roedd digonedd o lechi i gyfeiriad [[Nantlle]] ond yn anffodus roedd y tomenydd ar eu pennau nhw a byddai'n llawer rhy gostus i'w clirio.

Daeth perchennog newydd i'r chwarel tua'r adeg yma, yn llawn o syniadau ar sut i ehangu ffiniau gweithgareddau'r chwarel, rhai'n llwyddiannus ac eraill heb fod cystal. Cafwyd contract i greu cegin o fyrddau llechi i Diana Rigg ("Emma Peel") oedd yn boblogaidd iawn yn y rhaglen deledu yr ''Avengers'' yn y chwe degau; a chafwyd contract gofiadwy arall i osod llechi ar furiau eglwys nobl yn Iwerddon a chyfrifoldeb William oedd goruchwylio'r gwaith. Doedd y cwmni adeiladu a sefydlwyd ddim mor llwyddiannus  a chafwyd cryn golledion, ond yr hyn a boenai William oedd gorfod atal gweithwyr da pan fyddai'n ddistaw a'u hail gyflogi pan fyddai pethau'n gwella.  Fe gollodd William oriau o gwsg oherwydd hyn.

Fersiwn yn ôl 09:42, 2 Chwefror 2021

William Francis Pleming (1909 - 1989) neu Wil i'w gyfeillion, oedd rheolwr olaf Chwarel Dorothea. Brodor o Lan Ffestiniog ond dreuliodd y rhan helaethaf o'i oes ym Mhenygroes ac yn gweithio yn y chwarel. Dechreuodd ei yrfa fel chwarelwr Graig Ddu ym Manod, ond pan ddaeth dirwasgiad yn y diwydiant llechi yn y tri degau, ymfudodd ef a'i deulu i Slough. Yno, yn ystod blynyddoedd y rhyfel, bu'n gweithio yn High Duty Alloys. Ond fel yr âi'r rhyfel rhagddi fe gyrhaeddodd y 'doodle bugs' - y flying bombs, nad oedd unrhyw sicrwydd ble y ffrwydrent, ac o'r herwydd gyrrodd William ei wraig (Luned) a'i blant Alwyn a Helen i ddiogelwch Pen-y-groes a dilynodd yntau hwy ar ddiwedd y rhyfel ac yn ôl i'r chwarel.

Roedd ei dad yng nghyfraith (Efan John Morris) yn stiward yn Dorothea, a bu'n gefn i William yn ei flynyddoedd cynnar yn Dorothea. Dros y blynyddoedd cafodd ddyrchafiad i fod yn stiward ei hun ac yna ymhen amser yn rheolwr, yn dilyn Huw Jones. Erbyn hyn roedd oes aur y galw am lechi yn dechrau prinhau wedi'r prysurdeb yn ailadeiladu ar ôl y bomio mawr wedi'r rhyfel. Ar ben hyn roedd y cerrig rhywiog yn prinhau. Yn ôl yr hen chwarelwyr roedd digonedd o lechi i gyfeiriad Nantlle ond yn anffodus roedd y tomenydd ar eu pennau nhw a byddai'n llawer rhy gostus i'w clirio.

Daeth perchennog newydd i'r chwarel tua'r adeg yma, yn llawn o syniadau ar sut i ehangu ffiniau gweithgareddau'r chwarel, rhai'n llwyddiannus ac eraill heb fod cystal. Cafwyd contract i greu cegin o fyrddau llechi i Diana Rigg ("Emma Peel") oedd yn boblogaidd iawn yn y rhaglen deledu yr Avengers yn y chwe degau; a chafwyd contract gofiadwy arall i osod llechi ar furiau eglwys nobl yn Iwerddon a chyfrifoldeb William oedd goruchwylio'r gwaith. Doedd y cwmni adeiladu a sefydlwyd ddim mor llwyddiannus a chafwyd cryn golledion, ond yr hyn a boenai William oedd gorfod atal gweithwyr da pan fyddai'n ddistaw a'u hail gyflogi pan fyddai pethau'n gwella. Fe gollodd William oriau o gwsg oherwydd hyn.

"Does ond un llyn ym Maladeulyn mwy" meddai Robert Williams Parry a thomenydd Dorothea sy'n gyfrifol am hyn. Dros y blynyddoedd fel y cynyddai'r tomenydd, lleihau a wnai'r llyn, nes iddo ddiflannu. Nid am byth chwaith ond mynd yn danddaearol, a chreu trafferth ar waelod twll Dorothea. Un o ddyletswyddau William fyddai mynd i bwmpio'r dwr allan o'r gwaelodion. Roedd Cornish Beam Engine fawr yn Dorothea ond doedd hi ddim ar waith ers blynyddoedd ac roedd pwmp trydan wedi cymryd ei lle ers blynyddoedd. Mi fyddai'r dŵr wedi codi troedfeddi dros benwythnos, ac fe gafwyd enghreifftiau dros y blynyddoedd o'r dŵr yn torri trwodd gan ysgubo popeth o'i flaen,ac os ewch i gyffiniau Dorothea heddiw fe welwch mai'r dŵr gurodd. Mae'r twll mawr a fu ar un adeg yn dwll mwya yn y byd, bellach yn llawn hyd yr ymylon ac mae ail lyn Baladeulyn yn ei ôl ond ei fod wedi symud ei le.

Roedd William yn gymysgwr rhwydd ac yn gwmnïwr diddan, yn llawn o hanesion am y chwarel a'r chwarelwyr. Un o'i hoff straeon oedd honno am win Ann Dafis. Hen wraig oedd Ann Dafis a'i chartref fwy neu lai yn y chwarel. Un prynhawn llethol o boeth roedd hi wedi mynd am dro i Gaernarfon ac wrth gwrs, byth yn cloi'r drysau. Beth bynnag, roedd dau o chwarelwyr yn y sied yn tagu o syched ac yn gwybod fod Ann Dafis yn arbenigwraig ar wneud gwin cartref a bod peth wmbreth o boteli wedi eu casglu yn y pasej tywyll ger y drws ac nad oedd gan yr hen wraig ddim syniad faint oedd yno. Felly i mewn â nhw am botelaid yr un! Llawn o win melys oeddynt, a diwedd y gân oedd i'r ddau gael eu cario i'r bws i fynd gartref yn feddw gaib.

Ond yr oedd ochr arall i'r chwarel hefyd - ochr silicosis ac afiechyd a chyflogau isel. Y llwch llechi oedd yn bennaf gyfrifol am afiechydon y frest. Mae gan ei fab gof o fynd i'r chwarel ar ddiwrnod braf o haf a mynd i sied lle gweithiai'r dynion a'r llwch mor drwchus fel na fedrech weld o un pen i'r adeilad i'r llall. Pan fyddai fy nhaid yn pesychu byddai tameidiau bach o lechen i'w gweld ar ei hances - sef llwch llechi wedi cymysgu â phoer gan ffurfio haen y tu mewn i'r ysgyfaint ac yn achosi'r byrder anadl.

Yn raddol roedd pwysau'r gwaith yn dechrau dweud ar William a chanlyniad hyn oedd trawiad ar y galon a dyna ddiwedd ei berthynas â Dorothea. Treuliodd weddill ei oes yn hamddena - yn garddio, yn chwarae golff a gwyddbwyll (a draffts). Pan ai am dro i Uwchmynydd i ymweld â pherthnasau ei wraig, byddai criw yn ei ddisgwyl am gem o ddraffts. Ac fel llawer i daid arall, byddai wrth ei fodd yn difetha ei wyrion.[1]

Cyfeiriadau

  1. Awdur yr erthygl wreiddiol yw Alwyn Pleming, ei fab