Brynaerau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 5: Llinell 5:
Ymddengys yr enw gwreiddiol, Bryn  Arien,  ym [[Pedwaredd Gainc y Mabinogi|Mhedwaredd Gainc y Mabinogi]] (Math fab Mathonwy) pan oedd Arianrhod wedi tynghedu na fyddai ei mab, Lleu Llaw Gyffes, yn cael arfau heb iddi hi ei hun eu gwisgo amdano. Ond, yn groes i hynny, hyfforddwyd ef  gan Gwydion i farchogaeth ceffylau ac i drin arfau. Aethant i weld Ariarhod am yr eildro, y tro hwn yn rhith dau was ifanc.  ‘’Ac yn ieuenctid y dydd drannoeth, cyfodi a wnaethant, a chymryd yr arfordir i fyny parth â Bryn Arien.’’<ref>Pedair Cainc y Mabinogi wedi eu diweddaru gan T.H. Parry-Williams, Gwasg Prifysgol Cymru, 1959, t. 95.</ref>  Roedd Syr Ifor Williams o’r farn nad y Brynaerau presennol oedd hwn:  “Ar y traeth, gyferbyn â Bryn Aerau, ymgyfyd penrhyn go uchel, a elwir bellach Bryn Beddau.  Cynigiaf mai hwn yw’r hen Fryn Arien...”  <ref>’’Pedeir Keinc y Mabinogi’’ gan Syr Ifor Williams, D.Litt. Ail Argraffiad Gwasg Prifysgol Cymru 1951.</ref>

Enw cae yn Llyn Gela,<ref>’’delid gelod mewn llyn oedd gynt ar y tir’’ Allan o ‘’Enwau Lleoedd’’ gan Syr Ifor Williams, MA, D.Litt, FAA, FSA, Gwasg y Brython, Lerpwl, Argraffiad Newydd,  1962, tud. 57</ref> Pontlyfni, yw Bryn Beddau bellach.<ref> gwybodaeth gan W. Vaughan Jones, Llyn-y-Gele, ar gyfer casgliad Canolfan Hanes Uwchgwyrfai o enwau caeau. </ref>   
Enw cae ar fferm [[Llyn y Gele]],<ref>’’delid gelod mewn llyn oedd gynt ar y tir’’ Allan o ‘’Enwau Lleoedd’’ gan Syr Ifor Williams, MA, D.Litt, FAA, FSA, Gwasg y Brython, Lerpwl, Argraffiad Newydd,  1962, tud. 57</ref> Pontlyfni, yw Bryn Beddau bellach.<ref> gwybodaeth gan W. Vaughan Jones, Llyn-y-Gele, ar gyfer casgliad Canolfan Hanes Uwchgwyrfai o enwau caeau. </ref>   

Fersiwn yn ôl 13:33, 18 Awst 2020

Mae Brynaerau yn dreflan ac yn ardal ym mhlwyf Clynnog Fawr, nid nepell o bentref Pontlyfni. Ceir yno gapel ynghyd â mynwent yr ardal, Ysgol Brynaerau sydd yn gwasanaethu'r ardal i gyd gan gynnwys, bellach, pentref Clynnog Fawr, a fferm Brynaerau. Nid yw'n bell o Bont-y-Cim, lle cafwyd Efail-y-Cim.

Mae plasty gerllaw, Bron Dirion, a godwyd yn 1842, a helaethwyd yn 1872 ac a fu'n gartref dros dro i'r anturiaethwr ifanc Edgar Christian.

Ymddengys yr enw gwreiddiol, Bryn Arien, ym Mhedwaredd Gainc y Mabinogi (Math fab Mathonwy) pan oedd Arianrhod wedi tynghedu na fyddai ei mab, Lleu Llaw Gyffes, yn cael arfau heb iddi hi ei hun eu gwisgo amdano. Ond, yn groes i hynny, hyfforddwyd ef gan Gwydion i farchogaeth ceffylau ac i drin arfau. Aethant i weld Ariarhod am yr eildro, y tro hwn yn rhith dau was ifanc. ‘’Ac yn ieuenctid y dydd drannoeth, cyfodi a wnaethant, a chymryd yr arfordir i fyny parth â Bryn Arien.’’[1] Roedd Syr Ifor Williams o’r farn nad y Brynaerau presennol oedd hwn: “Ar y traeth, gyferbyn â Bryn Aerau, ymgyfyd penrhyn go uchel, a elwir bellach Bryn Beddau. Cynigiaf mai hwn yw’r hen Fryn Arien...” [2]

Enw cae ar fferm Llyn y Gele,[3] Pontlyfni, yw Bryn Beddau bellach.[4]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Pedair Cainc y Mabinogi wedi eu diweddaru gan T.H. Parry-Williams, Gwasg Prifysgol Cymru, 1959, t. 95.
  2. ’’Pedeir Keinc y Mabinogi’’ gan Syr Ifor Williams, D.Litt. Ail Argraffiad Gwasg Prifysgol Cymru 1951.
  3. ’’delid gelod mewn llyn oedd gynt ar y tir’’ Allan o ‘’Enwau Lleoedd’’ gan Syr Ifor Williams, MA, D.Litt, FAA, FSA, Gwasg y Brython, Lerpwl, Argraffiad Newydd, 1962, tud. 57
  4. gwybodaeth gan W. Vaughan Jones, Llyn-y-Gele, ar gyfer casgliad Canolfan Hanes Uwchgwyrfai o enwau caeau.