Michael Vaughan Wynn, 7fed Arglwydd Newborough: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd '''Robert Charles Michael Vaughan Wynn''' yn 7fed Arglwydd Newborough. Fe arddelai'r enw "Michael" - neu i'w ffrindiau, "Micky Wynn".'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''Robert Charles Michael Vaughan Wynn''' yn 7fed Arglwydd Newborough. Fe arddelai'r enw "Michael" - neu i'w ffrindiau, "Micky Wynn".
Roedd '''Robert Charles Michael Vaughan Wynn''' (1917-1998) yn 7fed Arglwydd Newborough. Fe arddelai'r enw "Michael" - neu i'w ffrindiau, "Micky Wynn". Roedd yn fab i [[Robert Vaughan Wynn, 6ed Arglwydd Newborough]]. Ymunodd â'r fyddin yn syth o'r ysgol (Coleg Oundle) ond cafodd ei ryddhau oherwydd anaf ym 1940. Mi helpodd achub milwyr o Dunkirk ym 1940, fodd bynnag, gan ei fod wedi cael gwaith fel dinesydd cyffredin yn gapten iot a weithredai fel cwch ar gyfer gwasanaeth achub-o'r-môr y llynges. Cafodd ei gomisiynu'n is-liwtenant yn y Llu Morwrol Wrth Gefn (RNVR), a chael swyddogaeth fel capten cwch modur tanio torpedos. Yn y swyddogaeth honno, bu'n allweddol i lwyddiant yr ymosodiad ar harbwr yr Almaenwyr yn St. Nazaire, lle cafodd ei gydnabod gyda medal y DSC. Fodd bynnag, fe suddiwyd ei gwch a chollodd un lygaid yn yr ymrafael; cafodd ei ddal gan yr Almaenwyr a'i anfon i garchar rhyfel. Fe ddihangodd ond o ail-gael ei ddal, fe'i anfonwyd i garchar Castell Colditz, o ble cafodd ei drosglwyddo'n ôl i Brydain gan yr Almaenwyr ym 1945, wedi iddo ffugio salwch difrifol.
 
Wedi'r rhyfel trodd at ffermio, ac etifeddodd y teitl o Arglwydd Newborough ar farwolaeth ei dad, ynghyd â'i ystadau ym 1965.Bu farw yn Istanbwl ym 1998, a'i ddilynwyd gan ei fab Robert.<ref>Erthygl Wikipedia, [https://en.wikipedia.org/wiki/Michael_Wynn,_7th_Baron_Newborough], cyrchwyd, 21.5.2020</ref> Yn ystod ei ddaliaeth o'r ystad, fe werthwyd llawer o diroedd [[Ystad Glynllifon]], wrth i'r ffermydd ddod yn rhydd neu oherwydd nad oeddynt yn dod ag incwm sylweddol. Rhaid oedd iddo werthu ynysoedd Enlli er mwyn codi arian i dalu trethi. Gwir yw dweud, mae'n debyg, nad oedd yn cael ei hoffi gan bawb o'i denantiaid oherwydd ei agwedd at fusnes, lle mynnodd mai'r ochr galed ariannol oedd uchaf bob tro wrth ymwneud â'i denantiaid yn ôl yr hanes. Iddo fo, fodd bynnag, mai'r diolch fod holl gyfoeth cofnodion yr ystad wedi cyrraedd Archifdy Caernarfon, sydd yn rhoi darlun llawn o fywyd [[Uwchgwyrfai]] dros y tair canrif ddiwethaf - casgliad ymysg y goreuon yng Nghymru, a werthwyd gan ei fab i Gyngor Gwynedd (lle roedd y casgliad eisoes ar gael ar fenthyg) er mwyn codi pres i dalu treth farwolaeth.
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Tirfeddianwyr]]
[[Categori:Milwyr]]
[[Categori:Morwyr]]

Fersiwn yn ôl 09:46, 21 Mai 2020

Roedd Robert Charles Michael Vaughan Wynn (1917-1998) yn 7fed Arglwydd Newborough. Fe arddelai'r enw "Michael" - neu i'w ffrindiau, "Micky Wynn". Roedd yn fab i Robert Vaughan Wynn, 6ed Arglwydd Newborough. Ymunodd â'r fyddin yn syth o'r ysgol (Coleg Oundle) ond cafodd ei ryddhau oherwydd anaf ym 1940. Mi helpodd achub milwyr o Dunkirk ym 1940, fodd bynnag, gan ei fod wedi cael gwaith fel dinesydd cyffredin yn gapten iot a weithredai fel cwch ar gyfer gwasanaeth achub-o'r-môr y llynges. Cafodd ei gomisiynu'n is-liwtenant yn y Llu Morwrol Wrth Gefn (RNVR), a chael swyddogaeth fel capten cwch modur tanio torpedos. Yn y swyddogaeth honno, bu'n allweddol i lwyddiant yr ymosodiad ar harbwr yr Almaenwyr yn St. Nazaire, lle cafodd ei gydnabod gyda medal y DSC. Fodd bynnag, fe suddiwyd ei gwch a chollodd un lygaid yn yr ymrafael; cafodd ei ddal gan yr Almaenwyr a'i anfon i garchar rhyfel. Fe ddihangodd ond o ail-gael ei ddal, fe'i anfonwyd i garchar Castell Colditz, o ble cafodd ei drosglwyddo'n ôl i Brydain gan yr Almaenwyr ym 1945, wedi iddo ffugio salwch difrifol.

Wedi'r rhyfel trodd at ffermio, ac etifeddodd y teitl o Arglwydd Newborough ar farwolaeth ei dad, ynghyd â'i ystadau ym 1965.Bu farw yn Istanbwl ym 1998, a'i ddilynwyd gan ei fab Robert.[1] Yn ystod ei ddaliaeth o'r ystad, fe werthwyd llawer o diroedd Ystad Glynllifon, wrth i'r ffermydd ddod yn rhydd neu oherwydd nad oeddynt yn dod ag incwm sylweddol. Rhaid oedd iddo werthu ynysoedd Enlli er mwyn codi arian i dalu trethi. Gwir yw dweud, mae'n debyg, nad oedd yn cael ei hoffi gan bawb o'i denantiaid oherwydd ei agwedd at fusnes, lle mynnodd mai'r ochr galed ariannol oedd uchaf bob tro wrth ymwneud â'i denantiaid yn ôl yr hanes. Iddo fo, fodd bynnag, mai'r diolch fod holl gyfoeth cofnodion yr ystad wedi cyrraedd Archifdy Caernarfon, sydd yn rhoi darlun llawn o fywyd Uwchgwyrfai dros y tair canrif ddiwethaf - casgliad ymysg y goreuon yng Nghymru, a werthwyd gan ei fab i Gyngor Gwynedd (lle roedd y casgliad eisoes ar gael ar fenthyg) er mwyn codi pres i dalu treth farwolaeth.

Cyfeiriadau

  1. Erthygl Wikipedia, [1], cyrchwyd, 21.5.2020