Rheilffordd Chwarel Trefor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Tramffordd breifat oedd '''Rheilffordd Chwarel Trefor''' a wasanaethai [[Chwarel yr Eifl]], neu [[Chwarel Trefor]], i gludo cynnyrch y chwarel at y cei. Daeth tryciau i lawr yr inléin o'r chwarel ac o'r fan honno fe'u tynnwyd gan injan stêm o 1872-3 ymlaen (mor bell â'r cei, ond nid ar y cei ei hun), nes i injans llai petrol a disel gymryd drosodd. Cludai ychydig o fwyn hefyd o gloddfa mwyn haearn dan ddŵr. Roedd yna gangen i bentref [[Trefor]] a gludai nwyddau a ddaeth gyda'r llongau i nôl y gwenithfaen, (er i hon gau cyn 1920).  
Tramffordd breifat oedd '''Rheilffordd Chwarel Trefor''' a wasanaethai [[Chwarel yr Eifl]], neu [[Chwarel Trefor]], i gludo cynnyrch y chwarel at [[Cei Trefor|Gei Trefor]]. Daeth tryciau i lawr yr inléin o'r chwarel ac o'r fan honno fe'u tynnwyd gan injan stêm o 1872-3 ymlaen (mor bell â'r cei, ond nid ar y cei ei hun), nes i injans llai petrol a disel gymryd drosodd. Cludai ychydig o fwyn hefyd o gloddfa mwyn haearn dan ddŵr. Roedd yna gangen i bentref [[Trefor]] a gludai nwyddau a ddaeth gyda'r llongau i nôl y gwenithfaen, (er i hon gau cyn 1920).  

Lled y lein oedd 1'11 1/2", sef y lled cyffredin ar gyfer rheilffyrdd a thramffyrdd chwareli Sir Gaernarfon - ond yn wahanol i led y trac a ddefnyddid yn chwarel Penmaenmawr a ddaeth yn rhan o'r un cwmni.  

Fersiwn yn ôl 11:20, 29 Ionawr 2018

Tramffordd breifat oedd Rheilffordd Chwarel Trefor a wasanaethai Chwarel yr Eifl, neu Chwarel Trefor, i gludo cynnyrch y chwarel at Gei Trefor. Daeth tryciau i lawr yr inléin o'r chwarel ac o'r fan honno fe'u tynnwyd gan injan stêm o 1872-3 ymlaen (mor bell â'r cei, ond nid ar y cei ei hun), nes i injans llai petrol a disel gymryd drosodd. Cludai ychydig o fwyn hefyd o gloddfa mwyn haearn dan ddŵr. Roedd yna gangen i bentref Trefor a gludai nwyddau a ddaeth gyda'r llongau i nôl y gwenithfaen, (er i hon gau cyn 1920).

Lled y lein oedd 1'11 1/2", sef y lled cyffredin ar gyfer rheilffyrdd a thramffyrdd chwareli Sir Gaernarfon - ond yn wahanol i led y trac a ddefnyddid yn chwarel Penmaenmawr a ddaeth yn rhan o'r un cwmni.

O dipyn i beth, disodlwyd yr angen am y dramffordd gan lorïau, a hynny rhwng 1951 a 1962.

Ffynonellau

J I C Boyd, Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire Cyf. 1: West, (1980), tt.268-73.