Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 9: Llinell 9:
{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Daearyddiaeth ffisegol]]
[[Categori:Daearyddiaeth ffisegol]]
Categori:Daearyddiaeth ddynol]]
[[Categori:Daearyddiaeth ddynol]]
[[Categori:Ffiniau]]
[[Categori:Ffiniau]]

Fersiwn yn ôl 08:14, 30 Ebrill 2020

Mae Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn yn cynnwys y rhan fwyaf o arfordir Penrhyn Llŷn ar wahân i leoedd poblog megis Nefyn. Yn ei chwr ogleddol yn Uwchgwyrfai, mae'r ffin yn cychwyn yn Aberdesach, gan ymestyn i'r tir i gynnwys pentrefi Capel Uchaf aThai'nlôn a mynyddoedd Bwlch Mawr a'r Gurn ddu, cyn rhedeg i lawr Cwm Coryn i bentref Llanaelhaearn ac ymlaen dros y wlad i gyfeiriad Pistyll, gan gynnwys felly, mynyddoedd Yr Eifl.

Sefydlwyd yr AHNE ym 1956, ac mae'n cael ei gweinyddu gan adran cefn gwlad Cyngor Gwynedd. Roedd yn un o'r AoeddHNE cyntaf i gael eu dynodi - y cyntaf ym Mhrydain oedd Penrhyn Gŵyr, hefyd ym 1856. Dynodir AHNE oherwydd ei werth o ran dirwedd nodedig, er mwyn gwarchod y tirwedd hwnnw. Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r corff sydd yn gyfrifol am ddynodi ardaloedd o'r fath. Maent yn cael yr un faint o warchodaeth rhag cael eu datblygu â'r parciau cenedlaethol, ac o'r un pwysigrwydd â nhw o ran tiwedd, treftadaeth a natur, er nad oes corff ar wahân i ofalu am faterion cynllunio o fewn eu ffiniau, gan ddibynnu am hynny ar y cyngor sir perthnasol. Hefyd nid oes rhaid cael yr un faint o gyfleon ar gyfer hamdden awyr agored sylweddol.[1]

Mae'r ardal i gyd yn cynnwys 15,500 hectâr.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru, [1], cyrchwyd 29.4.2020
  2. Gwefan AHNE Llŷn, [2], cyrchwyd 28.4.2020