Gorsaf reilffordd Nantlle: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:


'''Gorsaf Nantlle''' oedd unig orsaf ar y gangen fer o [[Gorsaf reilffordd Pen-y-groes|orsaf Pen-y-groes]] i [[Tal-y-sarn|Dal-y-sarn]]. Fe'i hagorwyd ym 1872. Mewn gwirionedd, yn Nhal-y-sarn yr oedd yr orsaf ac mae'r adeilad yn sefyll hyd heddiw fel rhan o'r ganolfan gymunedol. Fe gaeẅyd y lein i deithwyr mor gynnar â 1932, ond parhaodd trenau nwyddau i ddefnyddio'r lein er mwyn cludo llechi oddi yno (a man nwyddau yno
'''Gorsaf Nantlle''' oedd unig orsaf ar y gangen fer o [[Gorsaf reilffordd Pen-y-groes|orsaf Pen-y-groes]] i [[Tal-y-sarn|Dal-y-sarn]]. Fe'i hagorwyd ym 1872. Mewn gwirionedd, yn Nhal-y-sarn yr oedd yr orsaf ac mae'r adeilad yn sefyll hyd heddiw fel rhan o'r ganolfan gymunedol. Fe gaeẅyd y lein i deithwyr mor gynnar â 1932, ond parhaodd trenau nwyddau i ddefnyddio'r lein er mwyn cludo llechi oddi yno (a mân nwyddau yno hefyd) hyd 1963.   
hefyd) hyd 1963.   


Roedd yna seidins helaeth, yn bennaf ar gyfer trosglwyddo llechi a gludid o'r chwareli gan [[Rheilffordd Nantlle|Reilffordd Nantlle]]. Fe ffurfiwyd y rhain ar batrwm glanfeydd, gyda chledrau'r lein fawr ar lefel is na chledrau y dramffordd a ddefnyddid i lusgo llechi o'r chwareli yn uwch i fyny'r dyffryn, a hynny trwy ddefnyddio ceffylau. Y lein fach honno (gweddillion [[Rheilffordd Nantlle]]) oedd y darn olaf o'r rheilffordd wladoledig, sef Rheilffyrdd Prydeinig, i ddefnyddio ceffylau yn lle locomotifau.
Roedd yna seidins helaeth, yn bennaf ar gyfer trosglwyddo llechi a gludid o'r chwareli gan [[Rheilffordd Nantlle|Reilffordd Nantlle]]. Fe ffurfiwyd y rhain ar batrwm glanfeydd, gyda chledrau'r lein fawr ar lefel is na chledrau y dramffordd a ddefnyddid i lusgo llechi o'r chwareli yn uwch i fyny'r dyffryn, a hynny trwy ddefnyddio ceffylau. Y lein fach honno (gweddillion [[Rheilffordd Nantlle]]) oedd y darn olaf o'r rheilffordd wladoledig, sef Rheilffyrdd Prydeinig, i ddefnyddio ceffylau yn lle locomotifau. O'r iard nwyddau hefyd rhedai seidin lled safonol ar draws y ffordd ac i mewn i [[Chwarel lechi Coedmadog]]. Dyna'r unig chwarel oedd â chysylltiad uniongyrchol â'r rheilffordd fawr, a hynny o 1881 ymlaen.<ref>Alun Joihn RIchards, ''The Slate Railways of Wales'', (Llanrwst, 2001), t.91</ref>
 
Ym mhen draw'r platfform roedd trofwrdd lle gellid newid y cyfeiriad yr oedd injans yn ei wynebu.


Tua 550 llath cyn cyrraedd gorsaf Nantlle, roedd [[seidin Tan'rallt]] lle llwythwyd llechi o [[chwarel Tan'rallt]] yr ochr arall i'r dyffryn. Rhedai lein fach o'r chwarel ar draws y dyffryn at y seidin honno.
Tua 550 llath cyn cyrraedd gorsaf Nantlle, roedd [[seidin Tan'rallt]] lle llwythwyd llechi o [[chwarel Tan'rallt]] yr ochr arall i'r dyffryn. Rhedai lein fach o'r chwarel ar draws y dyffryn at y seidin honno.
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}


[[Categori:Rheilffordd Sir Gaernarfon]]
[[Categori:Rheilffordd Sir Gaernarfon]]
[[Categori:Gorsafoedd rheilffordd]]
[[Categori:Gorsafoedd rheilffordd]]

Fersiwn yn ôl 10:52, 1 Medi 2018

Gorsaf Nantlle oedd unig orsaf ar y gangen fer o orsaf Pen-y-groes i Dal-y-sarn. Fe'i hagorwyd ym 1872. Mewn gwirionedd, yn Nhal-y-sarn yr oedd yr orsaf ac mae'r adeilad yn sefyll hyd heddiw fel rhan o'r ganolfan gymunedol. Fe gaeẅyd y lein i deithwyr mor gynnar â 1932, ond parhaodd trenau nwyddau i ddefnyddio'r lein er mwyn cludo llechi oddi yno (a mân nwyddau yno hefyd) hyd 1963.

Roedd yna seidins helaeth, yn bennaf ar gyfer trosglwyddo llechi a gludid o'r chwareli gan Reilffordd Nantlle. Fe ffurfiwyd y rhain ar batrwm glanfeydd, gyda chledrau'r lein fawr ar lefel is na chledrau y dramffordd a ddefnyddid i lusgo llechi o'r chwareli yn uwch i fyny'r dyffryn, a hynny trwy ddefnyddio ceffylau. Y lein fach honno (gweddillion Rheilffordd Nantlle) oedd y darn olaf o'r rheilffordd wladoledig, sef Rheilffyrdd Prydeinig, i ddefnyddio ceffylau yn lle locomotifau. O'r iard nwyddau hefyd rhedai seidin lled safonol ar draws y ffordd ac i mewn i Chwarel lechi Coedmadog. Dyna'r unig chwarel oedd â chysylltiad uniongyrchol â'r rheilffordd fawr, a hynny o 1881 ymlaen.[1]

Ym mhen draw'r platfform roedd trofwrdd lle gellid newid y cyfeiriad yr oedd injans yn ei wynebu.

Tua 550 llath cyn cyrraedd gorsaf Nantlle, roedd seidin Tan'rallt lle llwythwyd llechi o chwarel Tan'rallt yr ochr arall i'r dyffryn. Rhedai lein fach o'r chwarel ar draws y dyffryn at y seidin honno.

Cyfeiriadau

  1. Alun Joihn RIchards, The Slate Railways of Wales, (Llanrwst, 2001), t.91