John William Jones, 'Y Drych': Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 9: Llinell 9:
Rhywbryd yn ystod 1846 cyrhaeddodd dalaith Efrog Newydd gyda'r bwriad o ddychwelyd i Gymru. Roedd ei hiraeth mor llethol. Gweithiodd dymor mewn gwaith brics yn Rochester ac yno y cyfarfu â Benjamin Lewis o Utica. Dylanwadodd hwnnw arno i symud i Utica yn hytrach nag i'r henwlad, a hynny a wnaeth gan gael gwaith fel saer dodrefn yno. Maes o law, daeth yn ohebydd Utica i bapur ''Y Drych'', papur a gychwynwyd yn Efrog Newydd gan J.M.Jones ar 2 Ionawr 1851.
Rhywbryd yn ystod 1846 cyrhaeddodd dalaith Efrog Newydd gyda'r bwriad o ddychwelyd i Gymru. Roedd ei hiraeth mor llethol. Gweithiodd dymor mewn gwaith brics yn Rochester ac yno y cyfarfu â Benjamin Lewis o Utica. Dylanwadodd hwnnw arno i symud i Utica yn hytrach nag i'r henwlad, a hynny a wnaeth gan gael gwaith fel saer dodrefn yno. Maes o law, daeth yn ohebydd Utica i bapur ''Y Drych'', papur a gychwynwyd yn Efrog Newydd gan J.M.Jones ar 2 Ionawr 1851.


Yng ngwanwyn 1853 daeth JWJ i Efrog Newydd i ofalu am ''Y Drych'' gan roi cychwyn i gysylltiad (fel golygydd) a barhaodd hyd ddydd ei farwolaeth 32 o flynyddoedd yn ddiweddarach. Yn ogystal, bu'n cynorthwyo i olygu'r ''Cylchgrawn Cenedlaethol'' y gwelwyd ei rifyn cynta'n ymddangos o swyddfa'r Drych yng Ngorffennaf 1853. Fodd bynnag, doedd dim llawer o drefn ar Y Drych druan. Ym 1855 unwyd y papur â'r ''Gwyliedydd'' a gyhoeddid yn Utica dan olygyddiaeth y Parchedig Morgan A. Ellis. Ei enw bellach oedd ''Y Drych a'r Gwyliedydd''. gyda Morgan Ellis a Gwilym ab Ioan yn olygyddion cynorthwyol i J.W.Jones. Ysywaeth, pur aflwyddiannus oedd y papur hwn hefyd.
Yng ngwanwyn 1853 daeth JWJ i Efrog Newydd i ofalu am ''Y Drych'' gan roi cychwyn i gysylltiad (fel golygydd) a barhaodd hyd ddydd ei farwolaeth 32 o flynyddoedd yn ddiweddarach. Yn ogystal, bu'n cynorthwyo i olygu'r ''Cylchgrawn Cenedlaethol'' y gwelwyd ei rifyn cynta'n ymddangos o swyddfa'r Drych yng Ngorffennaf 1853. Fodd bynnag, doedd dim llawer o drefn ar Y Drych druan. Ym 1855 unwyd y papur â'r ''Gwyliedydd'' a gyhoeddid yn Utica dan olygyddiaeth y Parchedig Morgan A. Ellis. Ei enw bellach oedd ''Y Drych a'r Gwyliedydd'', gyda Morgan Ellis a Gwilym ab Ioan yn olygyddion cynorthwyol i J.W.Jones. Ysywaeth, pur aflwyddiannus oedd y papur hwn hefyd.


Ddiwedd 1858 daeth y papur i feddiant personol J.W.Jones, ac fe'i ailenwyd yn ''Y Drych''. Yn Chwefror 1859 daeth T.B.Morris 'Gwyneddfardd) i lawr o Prospect i Efrog Newydd i gydolygu'r Drych â J.W.Jones. Ym Mehefin 1860 penderfynodd JWJ symud y papur i Utica, ac yno y bu tan 1864 pan aeth JWJ i ffwrdd i Ewrop. Dyna pryd yr ymunodd J.Mather Jones â Gwyneddfardd, ac yn Awst 1865 gwerthwyd ''Y Drych'' i J.Mather Jones, yr hwn a'i cyhoeddodd hyd ei farwolaeth yn Rhagfyr 1874. Yna aeth y papur i ddwylo T.J.Griffith.
Ddiwedd 1858 daeth y papur i feddiant personol J.W.Jones, ac fe'i ailenwyd yn ''Y Drych''. Yn Chwefror 1859 daeth T.B.Morris (Gwyneddfardd) i lawr o Prospect i Efrog Newydd i gydolygu'r Drych â J.W.Jones. Ym Mehefin 1860 penderfynodd JWJ symud y papur i Utica, ac yno y bu tan 1864 pan aeth JWJ i ffwrdd i Ewrop. Dyna pryd yr ymunodd J.Mather Jones â Gwyneddfardd, ac yn Awst 1865 gwerthwyd ''Y Drych'' i J.Mather Jones, yr hwn a'i cyhoeddodd hyd ei farwolaeth yn Rhagfyr 1874. Yna aeth y papur i ddwylo T.J.Griffith.


Priododd J.W.Jones ddwywaith :
Priododd J.W.Jones ddwywaith :

Golygiad diweddaraf yn ôl 11:48, 23 Ebrill 2020

Ganwyd John William Jones ym Mryn Bychan, Llanaelhaearn ar 11 Ionawr, 1827, ac yn ifanc iawn bu'n was bach ar fferm Hendrefeinws, Y Ffôr. Yn fuan symudodd y teulu o Lanaelhaearn i Dy'n Llwyn, Llanllyfni. Cadwai William Jones, tad John, ysgol yn Llanllyfni am gyfnod.

Ym mis Mai 1845, yn ddeunaw oed, ymfudodd JWJ i America gyda chriw o Gymry siroedd Caernarfon a Meirionnydd. Cychwynasant mewn 'agerfad' o Borth yr Aur, Caernarfon, i Lerpwl, a llong wedyn o Lerpwl i Quebec. Cafodd John gwmni gwraig weddw o Lanaelhaearn a'i theulu ar y fordaith. Buont chwe wythnos ar y môr, ac yna treulio wythnos gyfan yn y quarantine yn Afon St. Lawrence. Pen y daith oedd Racine, talaith Wisconsin, ar lan Llyn Michigan - rhyw 10 wythnos o Gaernarfon.

Daeth yn gyfaill i un William Evans (Lockport, Illinois, yn ddiweddarach), a bu'r ddau ohonynt yn gweithio ar ffermydd yr ardal tan fis Hydref pryd y bu iddynt symud i le o'r enw Sag yn Illinois, rhyw 22 milltir i'r de-orllewin o Chicago. Cawsant waith ar y gamlas yno.

Ddeufis yn ddiweddarach, dychwelodd John i Wisconsin (heb William Evans) gan gerdded dros 80 milltir yno. Yn fuan bu'n crwydro i lawr Afon Mississippi gan ymweld ag Orleans Newydd a Vicksburg a lleoedd eraill.

Rhywbryd yn ystod 1846 cyrhaeddodd dalaith Efrog Newydd gyda'r bwriad o ddychwelyd i Gymru. Roedd ei hiraeth mor llethol. Gweithiodd dymor mewn gwaith brics yn Rochester ac yno y cyfarfu â Benjamin Lewis o Utica. Dylanwadodd hwnnw arno i symud i Utica yn hytrach nag i'r henwlad, a hynny a wnaeth gan gael gwaith fel saer dodrefn yno. Maes o law, daeth yn ohebydd Utica i bapur Y Drych, papur a gychwynwyd yn Efrog Newydd gan J.M.Jones ar 2 Ionawr 1851.

Yng ngwanwyn 1853 daeth JWJ i Efrog Newydd i ofalu am Y Drych gan roi cychwyn i gysylltiad (fel golygydd) a barhaodd hyd ddydd ei farwolaeth 32 o flynyddoedd yn ddiweddarach. Yn ogystal, bu'n cynorthwyo i olygu'r Cylchgrawn Cenedlaethol y gwelwyd ei rifyn cynta'n ymddangos o swyddfa'r Drych yng Ngorffennaf 1853. Fodd bynnag, doedd dim llawer o drefn ar Y Drych druan. Ym 1855 unwyd y papur â'r Gwyliedydd a gyhoeddid yn Utica dan olygyddiaeth y Parchedig Morgan A. Ellis. Ei enw bellach oedd Y Drych a'r Gwyliedydd, gyda Morgan Ellis a Gwilym ab Ioan yn olygyddion cynorthwyol i J.W.Jones. Ysywaeth, pur aflwyddiannus oedd y papur hwn hefyd.

Ddiwedd 1858 daeth y papur i feddiant personol J.W.Jones, ac fe'i ailenwyd yn Y Drych. Yn Chwefror 1859 daeth T.B.Morris (Gwyneddfardd) i lawr o Prospect i Efrog Newydd i gydolygu'r Drych â J.W.Jones. Ym Mehefin 1860 penderfynodd JWJ symud y papur i Utica, ac yno y bu tan 1864 pan aeth JWJ i ffwrdd i Ewrop. Dyna pryd yr ymunodd J.Mather Jones â Gwyneddfardd, ac yn Awst 1865 gwerthwyd Y Drych i J.Mather Jones, yr hwn a'i cyhoeddodd hyd ei farwolaeth yn Rhagfyr 1874. Yna aeth y papur i ddwylo T.J.Griffith.

Priododd J.W.Jones ddwywaith :

1. Mary Evans o Trenton, Efrog Newydd, ar 2 Ionawr 1850. Cawsant un mab, Palmer H.Jones. Bu farw Mary ar yr ail o Orffennaf 1874. Bu farw o drawiad ar y galon.

2. Catherine, merch y Parchedig Humphrey Humphreys, yn Nhachwedd 1880.

Bu farw John William Jones yn 58 oed ar 8 Hydref 1884 o drawiad ar y galon, a hynny am 6.15 y bore yng nghwt ei ardd. Fe'i claddwyd ym Mynwent Forest Hill, Utica. Tanysgrifiodd chwe chant o bobl tuag at godi cofgolofn fawr ar ei fedd, yn 10 troedfedd o uchder ac yn pwyso bron i bum tunnell.

Cyfeiriadau