Capel Hyfrydle (MC), Tal-y-sarn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Weslabach (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Sefydlwyd cangen-eglwys '''Hyfrydle''' fel cangen o Capel Tal-y-sarn (MC), y Capel Mawr, ym 1866, ar ôl i'r gynulleidfa yno deimlo fod eu capel yn my...'
 
Weslabach (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 7: Llinell 7:
Yn ystod yr 1880au a';r 90au amrywiai'r aelodaeth o 207 i 155. Ym 1900, roedd wedi codi ychydig i 199.<ref>Seiliwyd yr erthygl hon yn bennaf ar W. Hobley, ''Hanes Methodistiaeth Arfon'', Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), tt.<201, 322-7/ref>
Yn ystod yr 1880au a';r 90au amrywiai'r aelodaeth o 207 i 155. Ym 1900, roedd wedi codi ychydig i 199.<ref>Seiliwyd yr erthygl hon yn bennaf ar W. Hobley, ''Hanes Methodistiaeth Arfon'', Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), tt.<201, 322-7/ref>


Mae Hyfrydle, er ei fod wedi cau ers blynyddoedd, yn dal i sefyll.
Mae Hyfrydle, er ei fod wedi cau ers blynyddoedd, yn dal i sefyll. Mae cofnodion yr achos yn Archifdy Caernarfon. (XM6301).<ref>https://discovery.nationalarchives.gov.uk/details/c/F124634</ref>
 
{{eginyn}}
==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Crefydd]]
[[Categori:Crefydd]]
[[Categori:Capeli]]
[[Categori:Capeli]]

Fersiwn yn ôl 10:16, 6 Ebrill 2020

Sefydlwyd cangen-eglwys Hyfrydle fel cangen o Capel Tal-y-sarn (MC), y Capel Mawr, ym 1866, ar ôl i'r gynulleidfa yno deimlo fod eu capel yn mynd yn rhy fach - cofied mai'r ail gapel â seddau i 350 yn unig oedd yna ar y pryd. Hefyd, teimlid yr angen am achos Calfinaidd yn agosach at ben gorllewinol y pentref ger man a elwid y Creigiau mawr lle 'roedd mwy o dai'n cael eu codi ar y pryd. Aeth y Parch. William Hughes, prif ysgogydd y cynllun, a 60 o aelodau Capel Mawr fel aelodaeth gychwynnol - er na phenodwyd William Hughes yn weinidog swyddogol yno tan 1876. Rhoddodd y Capel Mawr hefyd £300 at sefydlu'r capel newydd.

Roedd y capel eisoes wedi ei godi dros y ddwy flynedd flaenorol, ar gost (yn cynnwys y tŷ capel) o £1520. Fe'i agorwyd 4 Tachwedd 1866, gyda seddau ar gyfer 410. Ar y cychwyn nid oedd llofft neu galeri yn y capel a chwynid am adsain - dywedwyd na ellid cael y gair olaf gan bregethwr! O'r dechrau ropedd yno aelodaeth a chynulleidfa deilwng iawn: 81 o aelodau, 51 o blant a 250 o wrandawyr. Yn yr ysgol Sul, roedd 21 o athrawon a 120 o ddisgyblion o bob oed.

Ym 1879, ail wnaed llawr y capel a gosodwyd llofft ynddo, ar gost o oddeutu £100. Erbyn hynny, roedd 167 o aelodau. Cafodd y capel golled trwy farwolaeth y gweinidog, William Hughes ddiwedd y flwyddyn, a rhaid oedd aros tan 1885 i sicrhau gweinidog arall, sef y Parch David Jones, yn wreiddiol o Lanllyfni, a arhosodd hyd 1889. Ym 1893, symudodd H. Menander Jones o gapel Carmel i Hyfrydle fel gweinidog.

Yn ystod yr 1880au a';r 90au amrywiai'r aelodaeth o 207 i 155. Ym 1900, roedd wedi codi ychydig i 199.Gwall cyfeirio: Mae tag clo </ref> ar goll ar gyfer y tag <ref>

Cyfeiriadau