Capel Tal-y-sarn (MC): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Weslabach (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Addoldy Methodistaidd ym mhentref Tal-y-sarn yw '''Capel Tal-y-sarn (MC)'''. Fe elwir yn gyffredinol yr adeilad presennol yn "Capel Mawr", gan ei fod yn cynnwys eisteddleoedd i 700. Erbyn hyn mae wedi cau, er yn dal i sefyll.
Addoldy Methodistaidd ym mhentref Tal-y-sarn yw '''Capel Tal-y-sarn (MC)'''. Fe elwir yn gyffredinol yr adeilad presennol yn "Capel Mawr", gan ei fod yn cynnwys eisteddleoedd i 700. Erbyn hyn mae wedi cau, er yn dal i sefyll.


===Agoriad===
===Agoriad a'r capel cyntaf===


Agorwyd y Capel ym mis Awst 1821<ref>Hobley, W. ''Hanes Methodistiaeth Arfon, Dosbarth Clynnog'' (Cyfarfod Misol Arfon, 1921) t. 187</ref>.
Agorwyd y Capel ei hun ym mis Awst 1821. Dyma oedd ail gangen i gael ei ffurfio allan o [[Capel Salem (MC), Llanllyfni|gapel Llanllyfni]]. Cyn sefydlu'r capel mewn adeilad, roedd pregethu wedi bod ar aelwyd Gelliffrydiau ac yn y Ffridd. Ar ôl peth drafferth, cafwyd tir y gellid adeiladu arno mewn llecyn braf o fewn golwg yr holl ddyffryn - er, ers cant a hanner o flynyddoedd, mae'r safle dan domen rwbel anferth.
 
Erbyn 1826, roedd yr adeilad angen ei helaethu a gosodwyd llofft neu galeri yno. Aeth yr achos o nerth i nerth, gan ddenu rhai o lethrau [[Dyffryn Nantlle]]. Arferid cynnal gwasanaethau ar fore Sul mewn tai yma ac acw, gyda'r gynulleidfa'n dod at ei gilydd yn y capel bob nos Sul. Aeth yr achos o nerth i nerth, gyda chyfarfodydd dirwest llywyddiannus iawn, a sefydlu Cymdeithas y Rechabiaid yno yn 1841. YM 1840, profwyd diwygiad ymysg merched y capel.
 
===Yr ail gapel===
 
Teimlid fod rhaid codi capel mwy, a dewiswyd safle yn bellach i'r gorllewin ar ochr y dyffryn (yn groes i ddymuniadau'r aelodau oedd yn ffermio mannau megis [[Tal-y-mignedd]], ond y ddadl a orfu oedd honno o eiddo'r enwog [[John Jones, Tal-y-sarn]] a Hugh Jones, Coedmadog, sef bod y safle newydd ger [[Gloddfa'r Coed]] yn fwy diogel ac yn llai debygol o gael ei gladdu gan domenydd rwbel. Dyma safle'r capel hyd heddiw (er bod capel newydd eto wedi ei godi ar y safle -gweler isod). Fe'i agorwyd 23 Fehefin 1852, gyda lle i 350 eistedd, ar gost o £700. Maint y capel oedd 42' wrth 42'.
 
Noda [[William Hobley]] fod cyfarfod cystadleuol wedi ei gynnal yn yr ardal ar y pryd, gyda'r capel newydd yn destun. Teimlai'r beirniad, [[Eben Fardd]], nad oedd neb yn deilwng o'r wobr, ond ymysg y goreuon caed y canlynol:
 
===Canghennau===
 
Erbyn 1837, roedd digon o aelodau o ardal [[Y Fron]] i gychwyn cangen-eglwys, gyda'r enw [[Capel Cesarea (MC), Y Fron|Cesarea]], ac aeth 12 o aelodau Capel Tal-y-sarn yno. Ym 1849, gwnaed yr un peth yn y [[Cilgwyn]] trwy sefydlu ysgol yno, er i honno yn y man fynd yn [[Capel Cilgwyn (A)]] gapel i'r Annibynwyr. <ref>Hobley, W. ''Hanes Methodistiaeth Arfon, Dosbarth Clynnog'' (Cyfarfod Misol Arfon, 1921) t. 187</ref>.




===Blaenoriaid===
===Blaenoriaid===
Penodwyd Robert Griffith, blaenor yn [[Llanllyfni]] yn y lle cyntaf, ond ym 1830 codwyd un Robert Dafydd, aelod o'r capel yn Nhal-y-sarn, i fod yn flaenor.




===John Jones Talysarn===
===John Jones Talysarn===


Mae'r capel yn gysylltiedig â hanes [[John Jones, Tal-y-sarn]], gan mai yma y sefydlodd y pregethwr enwog enw iddo'i hun fel un o weinidogion pwysicaf ei gyfnod.  
Mae'r capel yn gysylltiedig â hanes [[John Jones, Tal-y-sarn]], gan mai yma y sefydlodd y pregethwr enwog enw iddo'i hun fel un o weinidogion pwysicaf ei gyfnod. Daeth yn y lle cyntaf i'r capel ar ddiwedd 1822, gan bregethu yno 31 Rhagfyr.





Fersiwn yn ôl 12:03, 5 Ebrill 2020

Addoldy Methodistaidd ym mhentref Tal-y-sarn yw Capel Tal-y-sarn (MC). Fe elwir yn gyffredinol yr adeilad presennol yn "Capel Mawr", gan ei fod yn cynnwys eisteddleoedd i 700. Erbyn hyn mae wedi cau, er yn dal i sefyll.

Agoriad a'r capel cyntaf

Agorwyd y Capel ei hun ym mis Awst 1821. Dyma oedd ail gangen i gael ei ffurfio allan o gapel Llanllyfni. Cyn sefydlu'r capel mewn adeilad, roedd pregethu wedi bod ar aelwyd Gelliffrydiau ac yn y Ffridd. Ar ôl peth drafferth, cafwyd tir y gellid adeiladu arno mewn llecyn braf o fewn golwg yr holl ddyffryn - er, ers cant a hanner o flynyddoedd, mae'r safle dan domen rwbel anferth.

Erbyn 1826, roedd yr adeilad angen ei helaethu a gosodwyd llofft neu galeri yno. Aeth yr achos o nerth i nerth, gan ddenu rhai o lethrau Dyffryn Nantlle. Arferid cynnal gwasanaethau ar fore Sul mewn tai yma ac acw, gyda'r gynulleidfa'n dod at ei gilydd yn y capel bob nos Sul. Aeth yr achos o nerth i nerth, gyda chyfarfodydd dirwest llywyddiannus iawn, a sefydlu Cymdeithas y Rechabiaid yno yn 1841. YM 1840, profwyd diwygiad ymysg merched y capel.

Yr ail gapel

Teimlid fod rhaid codi capel mwy, a dewiswyd safle yn bellach i'r gorllewin ar ochr y dyffryn (yn groes i ddymuniadau'r aelodau oedd yn ffermio mannau megis Tal-y-mignedd, ond y ddadl a orfu oedd honno o eiddo'r enwog John Jones, Tal-y-sarn a Hugh Jones, Coedmadog, sef bod y safle newydd ger Gloddfa'r Coed yn fwy diogel ac yn llai debygol o gael ei gladdu gan domenydd rwbel. Dyma safle'r capel hyd heddiw (er bod capel newydd eto wedi ei godi ar y safle -gweler isod). Fe'i agorwyd 23 Fehefin 1852, gyda lle i 350 eistedd, ar gost o £700. Maint y capel oedd 42' wrth 42'.

Noda William Hobley fod cyfarfod cystadleuol wedi ei gynnal yn yr ardal ar y pryd, gyda'r capel newydd yn destun. Teimlai'r beirniad, Eben Fardd, nad oedd neb yn deilwng o'r wobr, ond ymysg y goreuon caed y canlynol:

Canghennau

Erbyn 1837, roedd digon o aelodau o ardal Y Fron i gychwyn cangen-eglwys, gyda'r enw Cesarea, ac aeth 12 o aelodau Capel Tal-y-sarn yno. Ym 1849, gwnaed yr un peth yn y Cilgwyn trwy sefydlu ysgol yno, er i honno yn y man fynd yn Capel Cilgwyn (A) gapel i'r Annibynwyr. [1].


Blaenoriaid

Penodwyd Robert Griffith, blaenor yn Llanllyfni yn y lle cyntaf, ond ym 1830 codwyd un Robert Dafydd, aelod o'r capel yn Nhal-y-sarn, i fod yn flaenor.


John Jones Talysarn

Mae'r capel yn gysylltiedig â hanes John Jones, Tal-y-sarn, gan mai yma y sefydlodd y pregethwr enwog enw iddo'i hun fel un o weinidogion pwysicaf ei gyfnod. Daeth yn y lle cyntaf i'r capel ar ddiwedd 1822, gan bregethu yno 31 Rhagfyr.


Cyfeiriadau

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

  1. Hobley, W. Hanes Methodistiaeth Arfon, Dosbarth Clynnog (Cyfarfod Misol Arfon, 1921) t. 187