Capel Bethel (MC), Pen-y-groes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:https://cof.uwchgwyrfai.cymru/wici/Delwedd:Bethel_Chapel_and_Sunday_School,_Penygroes._-_geograph.org.uk_-_1068295.jpg|bawd|de|350px|Capel a festri Bethel. Llun:Eirian Evans; cc-by-sa 2.0]]
[[Delwedd:Bethel_Chapel_and_Sunday_School,_Penygroes._-_geograph.org.uk_-_1068295.jpg|bawd|de|350px|Capel a festri Bethel. Llun:Eirian Evans; cc-by-sa 2.0]]

Yn gymharol hwyr y daeth '''Bethel''', yr achos y Methodistiaid Calfinaidd i bentref [[Pen-y-groes]]. Nid anodd esbonio hyn, gan fod achosion yn [[Llanllyfni]] a [[Tal-y-sarn|Thal-y-sarn]] eisoes, heb fod onf ryw filltir i ffwrdd, a'r pentref ym Mhen-y-groes yn fach iawn ar ddechrau'r ganrif. Cychwynnodd yr cahos trwy i John Edwards, dyn gweddol gefnog ac yn grefyddol iawn, gychwyn ysgol Sul ar gyfer Methodistiaid ac Annibynwyr yn ei dŷ o gwmpas 1827-1830; ym 1834 adeiladodd yr Annibynwyr eiu capel eu hunain, sef [[Capel Soar (A), Pen-y-groes|Capel Soar]]. Parhaodd ychydig o Fethodistiaid i gwrdd ac erbyn 1844 roedd gŵr o'r enw William Owen, Penbrynmawr, yn erfyn ar y Cyfarfod Misol i sefydlu eglwys ym Mhen-y-groes; ni chafodd lwyddiant ar unwaith, ond maes o law, daeth [[John Jones, Tal-y-sarn]] i'w gefnogi, a chafwyd caniatâd ym 1845, wedi i William Owen rentu hen gapel y Wesleiaid yn Nhreddafydd am £5 y flwyddyn, adeilad a ddefnyddwyd hyd nes i'r achos godi capel Bethel.

Fersiwn yn ôl 10:40, 1 Ebrill 2020

Capel a festri Bethel. Llun:Eirian Evans; cc-by-sa 2.0

Yn gymharol hwyr y daeth Bethel, yr achos y Methodistiaid Calfinaidd i bentref Pen-y-groes. Nid anodd esbonio hyn, gan fod achosion yn Llanllyfni a Thal-y-sarn eisoes, heb fod onf ryw filltir i ffwrdd, a'r pentref ym Mhen-y-groes yn fach iawn ar ddechrau'r ganrif. Cychwynnodd yr cahos trwy i John Edwards, dyn gweddol gefnog ac yn grefyddol iawn, gychwyn ysgol Sul ar gyfer Methodistiaid ac Annibynwyr yn ei dŷ o gwmpas 1827-1830; ym 1834 adeiladodd yr Annibynwyr eiu capel eu hunain, sef Capel Soar. Parhaodd ychydig o Fethodistiaid i gwrdd ac erbyn 1844 roedd gŵr o'r enw William Owen, Penbrynmawr, yn erfyn ar y Cyfarfod Misol i sefydlu eglwys ym Mhen-y-groes; ni chafodd lwyddiant ar unwaith, ond maes o law, daeth John Jones, Tal-y-sarn i'w gefnogi, a chafwyd caniatâd ym 1845, wedi i William Owen rentu hen gapel y Wesleiaid yn Nhreddafydd am £5 y flwyddyn, adeilad a ddefnyddwyd hyd nes i'r achos godi capel Bethel.

Cynyddodd nifer yr aelodau'n raddol; erbyn 1854 roedd 65 aelod, 73 ym 1858 a 127 ym 1860. Roedd yr hen gapel Wesle erbyn hyn yn rhy fach a chodwyd capel ym 1860, gyda 300 o seddi ynddo. Deng mlynedd yn ddiweddarach, ailadeiladwyd a helaethwyd y capel, gan ddarparu 500 o seddi -gyda'r aelodaeth yn 184, er, wrth gwrs, byddai nifer o "wrandawyr" yn cynyddu'r nifer yn yr oedfaon, ac ar achlysuron arbennig. Erbyn 1880, roedd yr aelodaeth wedi codi i 324, ond ym 1883 ffurfiwyd cangen o Bethel, sef Capel Saron, ac aeth 47 o aelodau Bethel yno.

Daliai'r achos i ffynnu, ac ym 1899, codwyd festri wrth ochr y capel, ac atgyweiriwyd y capel ei hun, er nad agorwyd y capoel ar ei newydd wedd tan 1902. Cost yr holl waith oedd £5000, swm sylweddol iawn ar y pryd. Nifer yr aelodau oedd 328 ym 1900.[1]

Caewyd y capel tua 2000, pan unwyd Bethel a Saron i ffurfio Capel y Groes mewn adeilad newydd ar safle Saron. Mae'r adeiladau bellach yn cael eu defnyddio fel llety gwyliau, ond gan fod y capel wedi ei restru oherwydd y nenfwd plastr, pulpud a gwydr "art nouveau", mae'r adeiulad wedi ei gadw'n dda - er bod rhai nodweddion (meddir) y tu ol i baredau er mwyn eu cadw a'u cuddio.[2]

Cyfeiriadau

  1. W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), tt295-311
  2. Gwefan British Listed Buildings [1], cyrchwyd 1.4.2020