Capel Bethel (MC), Pen-y-groes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Yn gymharol hwyr y daeth '''Bethel''', yr achos y Methodistiaid Calfinaidd i bentref Pen-y-groes. Nid anodd esbonio hyn, gan fod achosion yn Llanlly...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 5: Llinell 5:
Daliai'r achos i ffynnu, ac ym 1899, codwyd festri wrth ochr y capel, ac atgyweiriwyd y capel ei hun, er nad agorwyd y capoel ar ei newydd wedd tan 1902. Cost yr holl waith oedd £5000, swm sylweddol iawn ar y pryd. Nifer yr aelodau oedd 328 ym 1900.<ref>W. Hobley, ''Hanes Methodistiaeth Arfon'', Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), tt295-311</ref>
Daliai'r achos i ffynnu, ac ym 1899, codwyd festri wrth ochr y capel, ac atgyweiriwyd y capel ei hun, er nad agorwyd y capoel ar ei newydd wedd tan 1902. Cost yr holl waith oedd £5000, swm sylweddol iawn ar y pryd. Nifer yr aelodau oedd 328 ym 1900.<ref>W. Hobley, ''Hanes Methodistiaeth Arfon'', Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), tt295-311</ref>


{{eginyn}}
Caewyd y capel tua 2000, pan unwyd Bethel a Saron i ffurfio [[Capel y Groes (MC), Pen-y-groes|Capel y Groes]] mewn adeilad newydd ar safle Saron. Mae'r adeiladau bellach yn cael eu defnyddio fel llety gwyliau, ond gan fod y capel wedi ei restru oherwydd y nenfwd plastr, pulpud a gwydr "art nouveau", mae'r adeiulad wedi ei gadw'n dda - er bod rhai nodweddion (meddir) y tu ol i baredau er mwyn eu cadw a'u cuddio.<ref>Gwefan British Listed Buildings [https://britishlistedbuildings.co.uk/300023705-bethel-chapel-railed-enclosure-and-gates-llanllyfni#.XoRdi3J7ncs], cyrchwyd 1.4.2020</ref>
 
 
==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Crefydd]]
[[Categori:Crefydd]]
[[Categori:Capeli]]
[[Categori:Capeli]]

Fersiwn yn ôl 09:28, 1 Ebrill 2020

Yn gymharol hwyr y daeth Bethel, yr achos y Methodistiaid Calfinaidd i bentref Pen-y-groes. Nid anodd esbonio hyn, gan fod achosion yn Llanllyfni a Thal-y-sarn eisoes, heb fod onf ryw filltir i ffwrdd, a'r pentref ym Mhen-y-groes yn fach iawn ar ddechrau'r ganrif. Cychwynnodd yr cahos trwy i John Edwards, dyn gweddol gefnog ac yn grefyddol iawn, gychwyn ysgol Sul ar gyfer Methodistiaid ac Annibynwyr yn ei dŷ o gwmpas 1827-1830; ym 1834 adeiladodd yr Annibynwyr eiu capel eu hunain, sef Capel Soar. Parhaodd ychydig o Fethodistiaid i gwrdd ac erbyn 1844 roedd gŵr o'r enw William Owen, Penbrynmawr, yn erfyn ar y Cyfarfod Misol i sefydlu eglwys ym Mhen-y-groes; ni chafodd lwyddiant ar unwaith, ond maes o law, daeth John Jones, Tal-y-sarn i'w gefnogi, a chafwyd caniatâd ym 1845, wedi i William Owen rentu hen gapel y Wesleiaid yn Nhreddafydd am £5 y flwyddyn, adeilad a ddefnyddwyd hyd nes i'r achos godi capel Bethel.

Cynyddodd nifer yr aelodau'n raddol; erbyn 1854 roedd 65 aelod, 73 ym 1858 a 127 ym 1860. Roedd yr hen gapel Wesle erbyn hyn yn rhy fach a chodwyd capel ym 1860, gyda 300 o seddi ynddo. Deng mlynedd yn ddiweddarach, ailadeiladwyd a helaethwyd y capel, gan ddarparu 500 o seddi -gyda'r aelodaeth yn 184, er, wrth gwrs, byddai nifer o "wrandawyr" yn cynyddu'r nifer yn yr oedfaon, ac ar achlysuron arbennig. Erbyn 1880, roedd yr aelodaeth wedi codi i 324, ond ym 1883 ffurfiwyd cangen o Bethel, sef Capel Saron, ac aeth 47 o aelodau Bethel yno.

Daliai'r achos i ffynnu, ac ym 1899, codwyd festri wrth ochr y capel, ac atgyweiriwyd y capel ei hun, er nad agorwyd y capoel ar ei newydd wedd tan 1902. Cost yr holl waith oedd £5000, swm sylweddol iawn ar y pryd. Nifer yr aelodau oedd 328 ym 1900.[1]

Caewyd y capel tua 2000, pan unwyd Bethel a Saron i ffurfio Capel y Groes mewn adeilad newydd ar safle Saron. Mae'r adeiladau bellach yn cael eu defnyddio fel llety gwyliau, ond gan fod y capel wedi ei restru oherwydd y nenfwd plastr, pulpud a gwydr "art nouveau", mae'r adeiulad wedi ei gadw'n dda - er bod rhai nodweddion (meddir) y tu ol i baredau er mwyn eu cadw a'u cuddio.[2]


Cyfeiriadau

  1. W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), tt295-311
  2. Gwefan British Listed Buildings [1], cyrchwyd 1.4.2020