Augustus Henry Wheeler: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Roedd '''Augustus Henry Wheeler''' (1876-1915) a aned yn Forest Hill, Llundain yn fab i swyddog y Swyddfa'r Bost<ref>Cyfrifiad 1881, Lewisham</ref>, yn reolwr y [[Cwmni Ithfaen Cymreig]] | Roedd '''Augustus Henry Wheeler''' (1876-1915) a aned yn Forest Hill, Llundain yn fab i swyddog y Swyddfa'r Bost<ref>Cyfrifiad 1881, Lewisham</ref>, yn reolwr y [[Cwmni Ithfaen Cymreig]] o 1901, gan ddilyn [[George Farren]] a fu farw. Ei gartref oedd [[Plas yr Eifl]], [[Trefor]]. Cyn hynny, erbyn iddo gyrraedd 25 oed, roedd yn reolwr chwarel ithfaen de Lank<ref>Gwefan Lewisham War Memorials, [http://lewishamwarmemorials.wikidot.com/person:wheeler-augustus-henry], cyrchwyd 19.3.2020</ref> yn St Breward, Cernyw.<ref>Cyfrifiad 1901, St Breward</ref> | ||
Roedd ei frawd iau, Arthur Herbert Wheeler, yn is-reolwr chwarel Trefor. | Roedd ei frawd iau, Arthur Herbert Wheeler, yn is-reolwr chwarel Trefor. | ||
Fersiwn yn ôl 12:07, 19 Mawrth 2020
Roedd Augustus Henry Wheeler (1876-1915) a aned yn Forest Hill, Llundain yn fab i swyddog y Swyddfa'r Bost[1], yn reolwr y Cwmni Ithfaen Cymreig o 1901, gan ddilyn George Farren a fu farw. Ei gartref oedd Plas yr Eifl, Trefor. Cyn hynny, erbyn iddo gyrraedd 25 oed, roedd yn reolwr chwarel ithfaen de Lank[2] yn St Breward, Cernyw.[3]
Roedd ei frawd iau, Arthur Herbert Wheeler, yn is-reolwr chwarel Trefor.
Yn ogystal a'i waith proffesiynol, fe chwaraeodd ran amlwg ym mywyd y sir, gan gynrychioli Trefor ar y Cyngor Sir ymysg pethau eraill. Ym 1909, gyda phartner, (John Hughes, Brynarlais), cychwynnodd gwmni bysiau, Cwmni Moduron Caernarfon, a redai fysiau rhwng Caernarfon a Dinas Dinlle a Chaernarfon a Llanaelhaearn.
Roedd yn uwchgapten yng 6ed gatrawd y Ffiwsilwyr Cymreig, ac felly aeth i ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Fe'i laddwyd 12 Awst 1915 yn y Dardanelles. Gadawodd wraig (Adela Maud, (Liddell gynt), merch argraffydd o Fodmin, Cernyw) a phedwar o blant.[4]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma