Cyngor Dosbarth Dwyfor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Ffurfiwyd '''Cyngor Dosbarth Dwyfor''' ym 1974 pan ad-drefnwyd llywodraeth leol yng Nghymru am y tro cyntaf ers 1888-94, pan ffurfiwyd cynghorau dosbarth dinesig a gwledig ar sail hen fwrdeistrefi, trefi modern a ffiniau'r hen undebau'r tlodion. Yn groes i [[Cyngor Bwrdeistref Arfon|Gyngor Bwrdeistref Arfon]], penderfynodd Dwyfor beidio â mabwysiadu statws bwreistref - er bod yr hawl ganddynt gan fod Pwllheli fel bwrdeistref siartredig wedi bod â maer. Cadeirydd felly oedd prif gynghorydd Dwyfor. | Ffurfiwyd '''Cyngor Dosbarth Dwyfor''' ym 1974 pan ad-drefnwyd llywodraeth leol yng Nghymru am y tro cyntaf ers 1888-94, pan ffurfiwyd cynghorau dosbarth dinesig a gwledig ar sail hen fwrdeistrefi, trefi modern a ffiniau'r hen undebau'r tlodion. Yn groes i [[Cyngor Bwrdeistref Arfon|Gyngor Bwrdeistref Arfon]], penderfynodd Dwyfor beidio â mabwysiadu statws bwreistref - er bod yr hawl ganddynt gan fod Pwllheli fel bwrdeistref siartredig wedi bod â maer. Cadeirydd felly oedd prif gynghorydd Dwyfor. | ||
Roedd Dwyfor (a enwyd ar ôl yr afon) yn cynnwys cwmwd Eifionydd a chantref Llŷn, yn ogystal â plwyfi [[Llanaelhaearn]] a [[Clynnog Fawr|Chlynnog Fawr]] o gwmwd [[Uwchgwyrfai]]. | |||
Roedd prif swyddogaethau'r Cyngor Dosbarth yn ymwneud â materion dinesig (megis casglu sbwriel a phalmentydd), tai cymdeithasol ("tai cyngor"), cynllunio gwlad a thref manwl (roedd y sir yn edrych ar ôl cynllunio ar lefel strategol), meysydd chwarae, mynwentydd, canolfannau hamdden a phethau cyffelyb. | |||
Daeth Dwyfor i ben fel awdurdod lleol ddiwedd Mawrth 1996, pan grëwyd siroedd gyda chynghorau unedol (sef, yn fras, holl bwerau'r cynghorau sir a'r cynghorau dosbarth). | Daeth Dwyfor i ben fel awdurdod lleol ddiwedd Mawrth 1996, pan grëwyd siroedd gyda chynghorau unedol (sef, yn fras, holl bwerau'r cynghorau sir a'r cynghorau dosbarth). |
Golygiad diweddaraf yn ôl 16:05, 27 Ionawr 2022
Ffurfiwyd Cyngor Dosbarth Dwyfor ym 1974 pan ad-drefnwyd llywodraeth leol yng Nghymru am y tro cyntaf ers 1888-94, pan ffurfiwyd cynghorau dosbarth dinesig a gwledig ar sail hen fwrdeistrefi, trefi modern a ffiniau'r hen undebau'r tlodion. Yn groes i Gyngor Bwrdeistref Arfon, penderfynodd Dwyfor beidio â mabwysiadu statws bwreistref - er bod yr hawl ganddynt gan fod Pwllheli fel bwrdeistref siartredig wedi bod â maer. Cadeirydd felly oedd prif gynghorydd Dwyfor.
Roedd Dwyfor (a enwyd ar ôl yr afon) yn cynnwys cwmwd Eifionydd a chantref Llŷn, yn ogystal â plwyfi Llanaelhaearn a Chlynnog Fawr o gwmwd Uwchgwyrfai.
Roedd prif swyddogaethau'r Cyngor Dosbarth yn ymwneud â materion dinesig (megis casglu sbwriel a phalmentydd), tai cymdeithasol ("tai cyngor"), cynllunio gwlad a thref manwl (roedd y sir yn edrych ar ôl cynllunio ar lefel strategol), meysydd chwarae, mynwentydd, canolfannau hamdden a phethau cyffelyb.
Daeth Dwyfor i ben fel awdurdod lleol ddiwedd Mawrth 1996, pan grëwyd siroedd gyda chynghorau unedol (sef, yn fras, holl bwerau'r cynghorau sir a'r cynghorau dosbarth).
Fe erys enw Dwyfor fel un o dair ardal weinyddol Gwynedd, gyda phwyllgor lle trafodir materion lleol, a swyddfa ranbarthol ym Mhwllheli. Gwelir arwyddion ffin Dwyfor ger waelod yr Allt Goch ar yr A499 nid nepell o'r Swan ac ar yr A487 ger y drofa am Chwarel Cefn Graeanog.