Cyngor Dosbarth Dwyfor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 7: Llinell 7:
Daeth Dwyfor i ben fel awdurdod lleol ddiwedd Mawrth 1996, pan grëwyd siroedd gyda chynghorau unedol (sef, yn fras, holl bwerau'r cynghorau sir a'r cynghorau dosbarth).
Daeth Dwyfor i ben fel awdurdod lleol ddiwedd Mawrth 1996, pan grëwyd siroedd gyda chynghorau unedol (sef, yn fras, holl bwerau'r cynghorau sir a'r cynghorau dosbarth).


Fe erys enw Dwyfor fel un o dair ardal weinyddol Gwynedd, gyda phwyllgor lle trafodir materion lleol, a swyddfa ranbarthol ym Mhwllheli.
Fe erys enw Dwyfor fel un o dair ardal weinyddol Gwynedd, gyda phwyllgor lle trafodir materion lleol, a swyddfa ranbarthol ym Mhwllheli. Gwelir arwyddion ffin Dwyfor ger waelod yr Allt Goch ar yr A499 nid nepell o'r [[Swan]] ac ar yr A487 ger y drofa am [[Chwarel Cefn Graeanog]].
 
[[Categori: Israniadau gwladol]]
[[Categori:Llywodraeth leol]]
 
 


[[Categori:Israniadau gwladol]]
[[Categori:Israniadau gwladol]]
[[Categori:Llywodraeth leol]]
[[Categori:Llywodraeth leol]]

Fersiwn yn ôl 18:54, 25 Chwefror 2020

Ffurfiwyd Cyngor Dosbarth Dwyfor ym 1974 pan ad-drefnwyd llywodraeth leol yng Nghymru am y tro cyntaf ers 1888-94, pan ffurfiwyd cynghorau dosbarth dinesig a gwledig ar sail hen fwrdeistrefi, trefi modern a ffiniau'r hen undebau'r tlodion.

Ymestynnai Dwyfor (a enwyd ar ôl yr afon) o gwmwd Eifionydd a chantref Llŷn, yn ogystal â plwyfi Llanaelhaearn a Chlynnog Fawr ogwmwd Uwchgwyrfai.

Prif swyddogaethau'r Cyngor Dosbarth oedd yn ymwneud â materion dinesig (megis casglu sbwriel a palmentydd), tai cymdeithasol ("tai cyngor"), cynllunio tref a gwlad manwl (roedd y sir yn edrych ar ôl cynllunio ar lefel strategol), meysydd chwarae, mynwentydd, canolfannau hamdden a phethau cyffelyb.

Daeth Dwyfor i ben fel awdurdod lleol ddiwedd Mawrth 1996, pan grëwyd siroedd gyda chynghorau unedol (sef, yn fras, holl bwerau'r cynghorau sir a'r cynghorau dosbarth).

Fe erys enw Dwyfor fel un o dair ardal weinyddol Gwynedd, gyda phwyllgor lle trafodir materion lleol, a swyddfa ranbarthol ym Mhwllheli. Gwelir arwyddion ffin Dwyfor ger waelod yr Allt Goch ar yr A499 nid nepell o'r Swan ac ar yr A487 ger y drofa am Chwarel Cefn Graeanog.