William Roberts (Gwilym Glasgoed): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Roedd '''William Roberts''' yn Rheithor plwyf [[Llanaelhaearn]] o 13 Rhagfyr, 1954 hyd 30 Medi, 1974. | Roedd '''William Roberts''' yn Rheithor plwyf [[Llanaelhaearn]] o 13 Rhagfyr, 1954 hyd 30 Medi, 1974. | ||
Brodor o Benisa'rwaun ac yn un o saith o blant. Aeth i Ysgol Ystrad Meurig yng Ngheredigion ac yna graddiodd yn B.A. ym Mhrifysgol Cymru (Bangor) ym 1939, ac yna bu'n fyfyriwr yng Ngholeg Llanbedr Pont Steffan. Fe'i | Brodor o Benisa'rwaun ac yn un o saith o blant. Aeth i Ysgol Ystrad Meurig yng Ngheredigion ac yna graddiodd yn B.A. ym Mhrifysgol Cymru (Bangor) ym 1939, ac yna bu'n fyfyriwr yng Ngholeg Llanbedr Pont Steffan. Fe'i hordeiniwyd yn ddiacon ym 1941 ac yn offeiriad ym 1942. | ||
1941-44 : Curad [[Llanwnda]] gyda Llanfaglan | 1941-44 : Curad [[Llanwnda]] gyda Llanfaglan |
Fersiwn yn ôl 15:03, 2 Ionawr 2022
Roedd William Roberts yn Rheithor plwyf Llanaelhaearn o 13 Rhagfyr, 1954 hyd 30 Medi, 1974.
Brodor o Benisa'rwaun ac yn un o saith o blant. Aeth i Ysgol Ystrad Meurig yng Ngheredigion ac yna graddiodd yn B.A. ym Mhrifysgol Cymru (Bangor) ym 1939, ac yna bu'n fyfyriwr yng Ngholeg Llanbedr Pont Steffan. Fe'i hordeiniwyd yn ddiacon ym 1941 ac yn offeiriad ym 1942.
1941-44 : Curad Llanwnda gyda Llanfaglan
1944-47 : Curad Blaenau Ffestiniog
1947-54 : Rheithor Llanddona gyda Llaniestyn a chapel preifat Wern yr Wylan
1954-74 : Rheithor Llanaelhaearn
Ymddeolodd 30 Medi 1974 ac aeth i fyw i Derlwyn, Trefor. Yno y bu farw yn 75 oed.
Roedd William Roberts hefyd yn barddoni'n gyson a bu'n cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol fwy nag unwaith e.e. Emyn Priodas yn Eisteddfod y Barri 1968.
Ei enw barddol oedd Gwilym Glasgoed. Brawd iddo oedd Canon R.D.Roberts, Ficer Llwyngwril. Meirionnydd.
Ni ddylid ei gymysgu efo'r bardd gwlad William Roberts (Gwilym Ceiri).