Cefin Roberts: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Magwyd '''Cefin Roberts''' yn Llanllyfni. Astudiodd yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin a Choleg Cerdd a Drama Caerdydd. Bu’n gweithio i Gwmni Theatr...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Magwyd '''Cefin Roberts''' yn [[Llanllyfni]]. Astudiodd yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin a Choleg Cerdd a Drama Caerdydd. Bu’n gweithio i Gwmni Theatr Cymru ym Mangor gan weithio o dan ofal Wilbert Lloyd Roberts yn ysgrifennu a chyfarwyddo.<ref>[http://www.literaturewales.org/rhestr-o-awduron/i/129976/desc/roberts-cefin/ Rhestr Awduron - Llenyddiaeth Cymru]; Adalwyd 2015-12-16</ref><ref name=":1">[http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_3120000/newsid_3129700/3129769.stm Y Fedal Ryddiaith i Cefin Roberts], Newyddion BBC; Adalwyd 2015-12-17</ref>
Magwyd '''Cefin Roberts''' (ganwyd 1953) yn [[Llanllyfni]]. Astudiodd yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin a Choleg Cerdd a Drama Caerdydd. Bu’n gweithio i Gwmni Theatr Cymru ym Mangor gan weithio o dan ofal Wilbert Lloyd Roberts yn ysgrifennu a chyfarwyddo.<ref>[http://www.literaturewales.org/rhestr-o-awduron/i/129976/desc/roberts-cefin/ Rhestr Awduron - Llenyddiaeth Cymru]; Adalwyd 2015-12-16</ref><ref name=":1">[http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_3120000/newsid_3129700/3129769.stm Y Fedal Ryddiaith i Cefin Roberts], Newyddion BBC; Adalwyd 2015-12-17</ref>


Fe sefydlodd Cefin y grwp poblogaidd '''Hapnod''' gyda'i wraig Rhian yn yr wythdegau cynnar. Fe ddarlledwyd tair cyfres o "Hapnod" - rhaglen adloniant ysgafn ar [[S4C]] yn yr 1980au.<ref name=":0">[http://www.glanaethwy.com/cefinarhian/ Ysgol Glanaethwy - Cefin & Rhian Roberts]; Adalwyd 2015-12-16</ref>
Fe sefydlodd Cefin y grwp poblogaidd '''Hapnod''' gyda'i wraig Rhian yn yr wythdegau cynnar. Fe ddarlledwyd tair cyfres o "Hapnod" - rhaglen adloniant ysgafn ar [[S4C]] yn yr 1980au.<ref name=":0">[http://www.glanaethwy.com/cefinarhian/ Ysgol Glanaethwy - Cefin & Rhian Roberts]; Adalwyd 2015-12-16</ref>

Fersiwn yn ôl 10:29, 18 Chwefror 2020

Magwyd Cefin Roberts (ganwyd 1953) yn Llanllyfni. Astudiodd yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin a Choleg Cerdd a Drama Caerdydd. Bu’n gweithio i Gwmni Theatr Cymru ym Mangor gan weithio o dan ofal Wilbert Lloyd Roberts yn ysgrifennu a chyfarwyddo.[1][2]

Fe sefydlodd Cefin y grwp poblogaidd Hapnod gyda'i wraig Rhian yn yr wythdegau cynnar. Fe ddarlledwyd tair cyfres o "Hapnod" - rhaglen adloniant ysgafn ar S4C yn yr 1980au.[3]

Sefydlodd Ysgol Glanaethwy ym 1990 ym Mharc Menai, Bangor, yr ysgol berfformio cyntaf o'i fath yng Nghymru. Mae o wedi cyhoeddi llyfr o hanes yr ysgol hon. Aeth â'r côr o'r ysgol mor bell â rownd derfynnol y sioe deledu Britain's Got Talent", a cholli yn y rownd derfynnol o "Last Choir Standing" i gôr "Only Men Alloud". Mae wedi ennill gyda chorau o'r ysgol lawer tro yng nghystadleuaethau eisteddfodau cenedlaethol, eisteddfodau cenedlaethol yr Urdd ac Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.

Ymunodd â chriw cynhyrchu Rownd a Rownd ym 1995 ac roedd yn bennaf gyfrifol am fraslunio straeon i'r gyfres. Derbyniodd Gymrodoriaeth gan y Coleg Cerdd a Drama ym 1997 a Chymrodoriaeth gan Brifysgol Bangor yn 2001 am ei wasanaeth i fyd y theatr ac ym maes hyfforddi ieuenctid.[2] Bu'n Gyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru rhwng 2003 a 2010.[4]

Yn 2003, enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau]] am ei nofel Brwydr y Bradwr.[2]


Cyfeiriadau

  1. Rhestr Awduron - Llenyddiaeth Cymru; Adalwyd 2015-12-16
  2. 2.0 2.1 2.2 Y Fedal Ryddiaith i Cefin Roberts, Newyddion BBC; Adalwyd 2015-12-17
  3. Ysgol Glanaethwy - Cefin & Rhian Roberts; Adalwyd 2015-12-16
  4. Cefin Roberts yn gadael y Theatr Genedlaethol, Golwg360; Adalwyd 2015-12-16