R. Alun Roberts: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Categori
BDim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Athro llysieueg ac amaethyddiaeth, a naturiaethwr oedd R. Alun Roberts.  
Athro llysieueg ac amaethyddiaeth, a naturiaethwr oedd '''R. Alun Roberts'''.  


Ganwyd yn Glan Gors, Tan-yr-allt, Dyffryn Nantlle i Robert Roberts (brawd Owen, tad i Kate Roberts) a Jane Thomas ei wraig.  
Ganwyd yn Glan Gors, Tan-yr-allt, Dyffryn Nantlle i Robert Roberts (brawd Owen, tad i Kate Roberts) a Jane Thomas ei wraig.  

Fersiwn yn ôl 17:35, 18 Tachwedd 2017

Athro llysieueg ac amaethyddiaeth, a naturiaethwr oedd R. Alun Roberts.

Ganwyd yn Glan Gors, Tan-yr-allt, Dyffryn Nantlle i Robert Roberts (brawd Owen, tad i Kate Roberts) a Jane Thomas ei wraig.

Graddiodd a BSc anrhydedd yn 1915, a chwblhaodd PhD yn 1927. Roedd yn athro gwyddoniaeth am gyfnod yn Ysgol Botwnnog (1915-1917), ac roedd yn gweithio i’r Weinyddiaeth Amaeth o 1917-1919. Roedd yn ymgynghori ar lysieueg ac amaeth iddynt hyd nes 1921. Cafodd swydd fel darlithydd, ac yna fel pennaeth adran yn adran amaeth Prifysgol Bangor. Aeth ymlaen wedyn i fod yn Arolygydd ei Mawrhydi dros ysgolion gwledig.

Roedd hefyd yn uchel-siryf Caernarfon rhwng 1955 a 1956. Derbyniodd CBE yn 1962 am ei gyfraniad at amaethyddiaeth. Cyhoeddodd hefyd ‘Y Tir a’i gynyrch’ a ‘Hafodydd Brithion’.

Ffynhonellau

  • Williams, Melfyn R. Doctor Alun, Bywyd a gwaith yr Athro R. Alun Roberts (Lolfa, 1977)