Gorsaf reilffordd Betws Garmon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
BDim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 7: Llinell 7:


[[Categori:Gorsafoedd rheilffordd]]
[[Categori:Gorsafoedd rheilffordd]]
[[Categori:Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru]]

Fersiwn yn ôl 18:34, 23 Tachwedd 2017

Safai gorsaf Betws Garmon ar lan orllewinol yr Afon Gwyrfai, ac felly ym mhlwyf Llanwnda hyd 1888, er nad oedd eglwys plwyf Betws Garmon ond tafliad carreg yr ochr arall i'r afon yn blwyf yng nghwmwd Isgwyrfai. Ym 1888 trosglwyddwyd yr ardal i Fetws Garmon. Safai ychydig lai na 5 milltir o ben y lein yng ngorsaf Dinas.

Codwyd yr orsaf gan gwmni Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru ac fe'i hagorwyd ym 1877. Roedd lŵp yma ar gyfer wagenni nwyddau y tu ôl i'r adeilad (y mae ei furddun yn dal yno heddiw). Daeth gwasanaethau i deithwyr i ben ym 1937. Yma hefyd gychwynnodd seidin neu dramffordd i Chwarel Hafod-y-wern, a gaeodd tua 1885.

Ffynonellau

  • J.I.C. Boyd, Narrow Gauge Railways in South Caernarvonshire, Cyf. 1, (Oakwood Press) 1988, t.194