John Huws (Bardd y Gwrych): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 6: | Llinell 6: | ||
''Milgi main bolwyn brith'' | ''Milgi main bolwyn brith'' | ||
''Hir ei gefn a main ei wrych.'' | ''Hir ei gefn a main ei wrych.'' | ||
Dyma fel y dywed y bardd Cybi amdano yn ei lyfr ''Beirdd Gwerin Eifionydd'' : | Dyma fel y dywed y bardd Cybi amdano yn ei lyfr ''Beirdd Gwerin Eifionydd'' : | ||
Llinell 15: | Llinell 15: | ||
''Ym Mhenllechog mae hwsmon rhyfadd,'' | ''Ym Mhenllechog mae hwsmon rhyfadd,'' | ||
''Ac ar ei 'sgidia mae gwall ymgeladd...'' | |||
Yn ystod etholiadau byddai'n colli arno'i hun yn llwyr, ac yn ymroi i gyfansoddi penillion dilornus am ei elynion gwleidyddol (y Toriaid, wrth gwrs): | Yn ystod etholiadau byddai'n colli arno'i hun yn llwyr, ac yn ymroi i gyfansoddi penillion dilornus am ei elynion gwleidyddol (y Toriaid, wrth gwrs): | ||
''Pe cawn i wn dau faril'' | ''Pe cawn i wn dau faril'' | ||
''A bwledi mawr o swêj,'' | ''A bwledi mawr o swêj,'' | ||
''Mi saethwn Ellis Nanney'' | ''Mi saethwn Ellis Nanney'' | ||
''I lawr o ben y stêj!'' | ''I lawr o ben y stêj!'' | ||
Bu farw Bardd y Gwrych ym 1904 yn 96 mlwydd oed ac fe'i claddwyd ym mynwent [[Eglwys Aelhaearn | Bu farw Bardd y Gwrych ym 1904 yn 96 mlwydd oed ac fe'i claddwyd ym mynwent [[Eglwys Sant Aelhaearn, Llanaelhaearn]]. | ||
[[Categori:Pobl]] | [[Categori:Pobl]] | ||
[[Categori:Crefftwyr]] | [[Categori:Crefftwyr]] | ||
[[Categori:Beirdd]] | [[Categori:Beirdd]] |
Fersiwn yn ôl 13:41, 10 Chwefror 2020
Fel yr awgryma "Bardd y Gwyrch", enw barddol John (Siôn) Hughes (1808-1904), bardd talcen slip, neu fardd tîn clawdd, ydoedd. Yn Llanaelhaearn y trigai.
Fe'i ganwyd ym 1808. Crydd ydoedd wrth ei alwedigaeth, ac yn dad i deulu o gryddion yn y fro. Un o'r rheini oedd ei fab, y cerddor a'r cyfansoddwr dawnus, William John Hughes, Siop Goch, Trefor (Manchester House wedi hynny) (1846-93).
Pan na fyddai esgidiau ganddo i'w gwneud neu eu trwsio, byddai'n ymroi i 'farddoni' h.y. rhigymu, gyda rhai o'i gerddi yn ddigon doniol a diniwed, ond eraill yn bur gas a mileinig. Dyma enghraifft, sef 'cwpled' o ran o'i ymgais mewn cyfarfod o Gymdeithas Lenyddol Capel y Babell, Llanaelhaearn.
Milgi main bolwyn brith Hir ei gefn a main ei wrych.
Dyma fel y dywed y bardd Cybi amdano yn ei lyfr Beirdd Gwerin Eifionydd :
Os am weled Siôn yn ei ogoniant, [yna] mewn Cwrdd Cystadleuol neu ar y llwyfan gwleidyddol amdani. Mae ei ymfflamychiadau yn y naill a'r llall yn anfarwol, ac yn lleng ar dafod yr oror hyd y dydd hwn.
Gwas ffarm yn dod ag esgidiau i Siôn i'w trwsio, gan ei siarsio i wneud y peth rhataf posib iddynt. Roedd yr esgidiau yn drybola o faw. Meddai'r crydd :
Ym Mhenllechog mae hwsmon rhyfadd, Ac ar ei 'sgidia mae gwall ymgeladd...
Yn ystod etholiadau byddai'n colli arno'i hun yn llwyr, ac yn ymroi i gyfansoddi penillion dilornus am ei elynion gwleidyddol (y Toriaid, wrth gwrs):
Pe cawn i wn dau faril A bwledi mawr o swêj, Mi saethwn Ellis Nanney I lawr o ben y stêj!
Bu farw Bardd y Gwrych ym 1904 yn 96 mlwydd oed ac fe'i claddwyd ym mynwent Eglwys Sant Aelhaearn, Llanaelhaearn.