Mast Nebo: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Un cromfach sgwar y naill ben a'r llall ar gyfer dolen allano; dwy ar gyfer dolen mewnol
yn well byth, i greu dolen ychydig hirach - rhowch yr enw / nod / targed o fewn y cromfachau sgwar.
Llinell 4: Llinell 4:


==Ffynnonellau==
==Ffynnonellau==
* Wikipedia. [https://en.wikipedia.org/wiki/Arfon_transmitting_station]. Cyrchwyd 15.11.2017
* [https://en.wikipedia.org/wiki/Arfon_transmitting_station Wikipedia]. Cyrchwyd 15.11.2017
* Cymdeithas yr Iaith, ''S4C - Pwy dalodd amdani?'' (1985)
* Cymdeithas yr Iaith, ''S4C - Pwy dalodd amdani?'' (1985)


[[Categori: Daearyddiaeth ddynol]]
[[Categori: Daearyddiaeth ddynol]]
[[Categori:Diwylliant]]
[[Categori:Diwylliant]]

Fersiwn yn ôl 17:10, 16 Tachwedd 2017

Adeiladwyd Mast Nebo ym 1962 i wella derbyniad teledu annibynnol yng Ngogledd-Orllewin Cymru. Saif ar ben bryn i'r de o bentrefi Nebo a Nasareth ym mhlwyf Llanllyfni. Erbyn hyn mae'n trosglwyddo rhaglenni teledu a radio digidol a radio FM i nifer helaeth o ddarparwyr; hefyd mae'n rhan o rwydwaith trosglwyddo'r gwasanaethau brys ac mae sawl gwmni ffonau symudol yn defnyddio'r mast hefyd. Mae'r mast yn 317.4 m (1,041 troedfedd) o uchder, sy'n golygu mai dyma'r strwythur dynol uchaf yng Nghymru (a'r chweched uchaf trwy Brydain).

Bu'r safle'n ffocws ar gyfer nifer o brotestiadau gan Gymdeithas yr Iaith - yn 1972 a 1973 pan ddringodd nifer o'i haelodau'r mast ei hun fel rhan o'r ymgyrch hir a chwerw i sicrhau sianel deledu Gymraeg; ac yn fwy diweddar yn 2011 pan ddringodd Bethan Williams a Robin Crag i ben yr orsaf ei hun fel rhan o ymgyrch am well ddarpariaeth ddarlledu yn y Gymraeg.

Ffynnonellau

  • Wikipedia. Cyrchwyd 15.11.2017
  • Cymdeithas yr Iaith, S4C - Pwy dalodd amdani? (1985)