William Turner, Caernarfon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 11: Llinell 11:
{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Perchnogion chwareli]]
[[Categori:Diwydianwyr a chyfalafwyr]]

Fersiwn yn ôl 14:22, 28 Ionawr 2020

Roedd William Turner (1766-1853) yn Sais a hanai o Broughton-in-Furness, gogledd swydd Caerhirfryn lle roedd ei deulu â diddordebau mewn chwareli llechi. Symudodd i Ogledd Cymru, i Lanrwst yn wreiddiol, i fanteisio ar y cyfle yno am agor a gweithio chwareli llechi. Bu'n weithgar yn ardal Ffestiniog lle bu'n bartner efo teulu Casson (ffrindiau i'w deulu) ac wedyn wrth symud i Blas Brereton, Caernarfon, yn un o'r rhai a reolai chwarel Dinorwig mewn partneriaeth efo'r perchennog y chwarel, Thomas Assheton Smith.

Yng nghyd-destun Uwchgwyrfai, agorwyd Chwarel Pen-yr-orsedd ym 1816. Tua 1829 cymerodd Turner a'i fab-yng-nghyfraith John Morgan ddiddordeb yn un o chwareli Dyffryn Nantlle ar dir Pant Du, chwarel a elwid ar y dechrau yn Cloddfa Turner ond a ddaeth ymhen amser yn Chwarel Dorothea.

Chwareuodd ei ran ym materion y Sir, gan waasanaethu fel Uchel Siryf Sir Gaernarfon, 1823-4, a Sir feirionnydd 1832-3.

Mab iddo oedd Syr Llewelyn Turner a chwareuodd ran helaeth yn natblygiad a gwelliant tref Caernarfon yn ail hanner y 19g.[1]


Cyfeiriadau

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig, (Llundain, 1953), tt.929-30