Wal Glynllifon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
BDim crynodeb golygu
Paragraff ychwanegol
Llinell 1: Llinell 1:
Mae Wal Glynllifon yn adeilad rhestredig (gradd II) a adeiladwyd o gwmpas 1836, tua’r ‘run adeg a ail-adeiladwyd plasty [[Glynllifon]]. Gellir gweld y wal ar hyd yr A499 ac y A487. Mae’n wal rwbel sydd tua 10 kilometr mewn hyd, ac i fyny i  4 medr o uchder ar ei phwynt uchaf.  
Mae Wal Glynllifon yn adeilad rhestredig (gradd II) a adeiladwyd o gwmpas 1836, tua’r ‘run adeg ag ail-adeiladu plasty [[Glynllifon]]. Gellir gweld y wal ar hyd yr A499 a'r A487. Mae’n wal rwbel sydd tua 10 kilometr mewn hyd, ac i fyny i  4 medr o uchder ar ei phwynt uchaf.
 
Dywedir iddi gymryd 7 mlynedd i'w chodi, ac roedd sicrhau ffiniau rhesymegol i'r parc a gafodd ei amgáu yn golygu cryn dipyn o ffeirio a phwrcasu tir. Mae pedwar porth yn y wal yn ogystal â dau neu dri o ddrysau (nad ydynt yn cael eu hagor mwyach). Mae pedwar o'r pum porthdy yn dal i gael eu defnyddio: y prif borthdy, porthdy ar waelod Allt Cefn Glyn ger [[Groeslon Ffrwd]], porthdy ar waelod Allt Goch (y tri hyn ar brif lôn Pwllheli; a phorthdy'r dde.  Mae'r porthdy a safai ger ochr ddwyrain y wal wedi ei chwalu ers rnai blynyddoedd er i'r porth ei hun ddal i sefyll ger lôn Porthmadog, nid nepell o [[Croesfan Glynllifon|Groesfan Glynllifon]] a [[Gwaith llechi Inigo Jones]]. Gwnaed dau fwlch yn y wal yn ystod y blynyddoedd diwethaf - un ar gyfer perchnogion Plas Newydd wedi i'r tŷ hwnnw gael ei werthu yn y 1980au, ac un arall tua 2012 ar gyfer creu mynediad i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Mae darn o'r wal rhwng cylchfan Y Groeslon a gwaith llechi Inigo Jones wedi ei ail-adeiladu ar linell newydd er mwyn gwneud lle i'r ffordd osgoi newydd.  


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==


[https://www.britishlistedbuildings.co.uk/300005924-boundary-wall-to-glynllifon-park-llandwrog#.Wf3K-dO0NPY Cofnod o'r wal ar wefan British Listed Buildings]
* [https://www.britishlistedbuildings.co.uk/300005924-boundary-wall-to-glynllifon-park-llandwrog#.Wf3K-dO0NPY Cofnod o'r wal ar wefan British Listed Buildings]
* Archifdy Caernarfon, Casgliad Newborough, ''passim''.
 


[[Categori:Safleoedd Nodedig]]
[[Categori:Safleoedd Nodedig]]
[[Categori:Daearyddiaeth ddynol]]
[[Categori:Daearyddiaeth ddynol]]

Fersiwn yn ôl 12:24, 14 Tachwedd 2017

Mae Wal Glynllifon yn adeilad rhestredig (gradd II) a adeiladwyd o gwmpas 1836, tua’r ‘run adeg ag ail-adeiladu plasty Glynllifon. Gellir gweld y wal ar hyd yr A499 a'r A487. Mae’n wal rwbel sydd tua 10 kilometr mewn hyd, ac i fyny i 4 medr o uchder ar ei phwynt uchaf.

Dywedir iddi gymryd 7 mlynedd i'w chodi, ac roedd sicrhau ffiniau rhesymegol i'r parc a gafodd ei amgáu yn golygu cryn dipyn o ffeirio a phwrcasu tir. Mae pedwar porth yn y wal yn ogystal â dau neu dri o ddrysau (nad ydynt yn cael eu hagor mwyach). Mae pedwar o'r pum porthdy yn dal i gael eu defnyddio: y prif borthdy, porthdy ar waelod Allt Cefn Glyn ger Groeslon Ffrwd, porthdy ar waelod Allt Goch (y tri hyn ar brif lôn Pwllheli; a phorthdy'r dde. Mae'r porthdy a safai ger ochr ddwyrain y wal wedi ei chwalu ers rnai blynyddoedd er i'r porth ei hun ddal i sefyll ger lôn Porthmadog, nid nepell o Groesfan Glynllifon a Gwaith llechi Inigo Jones. Gwnaed dau fwlch yn y wal yn ystod y blynyddoedd diwethaf - un ar gyfer perchnogion Plas Newydd wedi i'r tŷ hwnnw gael ei werthu yn y 1980au, ac un arall tua 2012 ar gyfer creu mynediad i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Mae darn o'r wal rhwng cylchfan Y Groeslon a gwaith llechi Inigo Jones wedi ei ail-adeiladu ar linell newydd er mwyn gwneud lle i'r ffordd osgoi newydd.

Cyfeiriadau