Elinor Bennett: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ''''Elinor Bennett''' (Y Fonesig Elinor Bennett Wigley) (g.1943) yw gwraig y gwleidydd Dafydd Wigley. Yn enedigol o Lanidloes, ac yn ferch i'r arwerthw...' |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 13: | Llinell 13: | ||
[[Categori:Cerddorion]] | [[Categori:Cerddorion]] | ||
[[Categori:Pobl]] |
Fersiwn yn ôl 10:32, 7 Ionawr 2020
Elinor Bennett (Y Fonesig Elinor Bennett Wigley) (g.1943) yw gwraig y gwleidydd Dafydd Wigley. Yn enedigol o Lanidloes, ac yn ferch i'r arwerthwr a cherddor Emrys Bennett Owen, fe symudodd gyda'i theulu i Lanuwchlyn pan yn blentyn. Ar ôl graddio yn y gyfraith yn Aberystwyth, bu'n gweithio mewn swydd ym maes y gyfraith yn Llundain am rai blynyddoedd cyn benderfynu mynd i'r Academi Gerdd Frenhinol, gan astudio'r delyn o dan Osian Ellis.
Am flynyddoedd lawer mae hi wedi perfformio'n broffesiynol ar draws y byd yn ogystal â dysgu llawer o'n telynorion mwyaf disglair.
Mae hi a'i gŵr wedi ymgartrefu mewn tŷ a godwyd ganddynt yn Llanwnda ers y 1970au pan etholwyd ei gŵr i San Steffan.
Mae hi wedi cyhoeddi deuddeg albwm o gerddoriaeth i'r delyn, yn ogystal â'i hunangofiant, Tannau Tynion (Gwasg Gwynedd, 2012).[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma