Syr William Glynn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
'''Syr William Glynn''' (1566-1619) oedd penteulu Glynniaid Glynllifon yn niwedd oes y Tuduriaid a dechrau'r 17g. Mab ydoedd i Thomas Glynn, Glynllifon a'i wraig Catherine, merch ac etifeddes John ap Richard ap Morris, Plas yng Nglyn, Llanfwrog, Môn. Roedd ymysg prif dirfeddianwyr Sir Gaernarfon, gyda'i ystad yn bennaf ym mhlwyfi [[Llandwrog]], [[Llanllyfni]] a [[Clynnog Fawr|Chlynnog Fawr]]. Trwy ei fam fe etifeddodd diroedd yn Llanfwrog, Môn, hefyd.
'''Syr William Glynn''' (1566-1619) oedd penteulu Glynniaid Glynllifon yn niwedd oes y Tuduriaid a dechrau'r 17g. Mab ydoedd i Thomas Glynn, Glynllifon (m. tua 1608) a'i wraig Catherine, merch ac etifeddes John ap Richard ap Morris, Plas yng Nglyn, Llanfwrog, Môn. Roedd ymysg prif dirfeddianwyr Sir Gaernarfon, gyda'i ystad yn bennaf ym mhlwyfi [[Llandwrog]], [[Llanllyfni]] a [[Clynnog Fawr|Chlynnog Fawr]]. Trwy ei fam fe etifeddodd diroedd yn Llanfwrog, Môn, hefyd, a dichon iddo fyw ym Mhlasyng Nglyn nes i'w dad farw ac yntau a'i deulu'n symud i Glynllifon. Wedi hynny, aeth ati i foderneiddio a helaethu'r plasty yno.

Bu'n briod ddwywaith, yn gyntaf â Jane merch John Griffith o Blas Mawr, Caernarfon a Threfarthen, Ynys Môn a'i wraig Margaret, merch Rhys Thomas o Goed Alun (Coed Helen)<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families'', (Horncastle, 1914), t.125</ref> Cawsant blant niferus, meibion [[Thomas Glynn]], [[John Glynn]], Richard, William a Threfor Glynn (Na wyddys fawr amdanynt), [[Edmund Glynn]], a merched Grace, a briododd Owen Wynn, Maesoglan; Margaret a briododd Rowland Meredydd, Traphwll; merch anhysbys a briododd un Richard Griffith; a Cordelia a briododd Hugh Meredydd, [[Mynachdy Gwyn]].<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families'', (Horncastle, 1914), tt.172-3</ref>

Alice, gweddw Rowland Bulkeley, Porthamel, Môn a merch John Conway, Bodrhyddan, Sir y Fflint oedd ei ail wraig, ond ni chawsant hwy blant gyda'u gilydd.

Yn ogystal â'i ddiddordebau teuluol ac ystadol, bu'n ddylanwadol ym myd cyhoeddus a gwleidyddol yr ardal, a Môn yn arbennig. Bu'n uchel siryf Môn ym 1597 ac eto ym 1618. Roedd ar feinciau ynadol Môn a Sir Gaernarfon, ac arolygydd coed brenhinol Sir Gaernarfon..Ym 1606, oherwydd ei wasanaeth milwrol yn Iwerddon fe gafodd ei wneud yn farchog yn Nulyn.<ref>‘’Y Bywgraffiadur Cymreig’’ (Llundain, 1953), t.262</ref>

Roedd yn ddyn dysgedig, wedi ei addysgu yn xxx. Fo, mae'n debyg, oedd yr olaf o'i linach i fod yn noddwr o bwys i'r beirdd.
Roedd yn ddyn dysgedig, wedi ei addysgu yng Ngholeg y Brifysgol, Rhydychen 1578 ymlaen; ac wedyn yn Ysbytai'r Frawdlys (''Inns of Court'') yn 1586. Yn wir, fo oedd y cyntaf i gael ei addysg yn Lloegr, a'r cyntaf i gael ei ethol i Senedd San Steffan. Bu'n cefnogi (ac yn derbyn cefnogaeth) ysweiniaid Llŷn ac Eifionydd yn arbennig, er iddo a theulu Cefnamwlch, Tudweiliog fod yn wrthwynebwyr cyson. Fo, mae'n debyg, oedd yr olaf o'i linach i fod yn noddwr o bwys i'r beirdd a chanodd o leiaf 5 bardd farwnad iddo.<ref>P.B. Hasler, ''The History of Parliament: the House of Commons 1558-1603'' (Llundain, 1981), ar gael ar-lein [https://www.historyofparliamentonline.org/volume/1558-1603/member/glynne-william-1566-1620], cyrchwyd 18.10.2019 </ref>
 
Fersiwn yn ôl 17:03, 17 Hydref 2019

Syr William Glynn (1566-1619) oedd penteulu Glynniaid Glynllifon yn niwedd oes y Tuduriaid a dechrau'r 17g. Mab ydoedd i Thomas Glynn, Glynllifon (m. tua 1608) a'i wraig Catherine, merch ac etifeddes John ap Richard ap Morris, Plas yng Nglyn, Llanfwrog, Môn. Roedd ymysg prif dirfeddianwyr Sir Gaernarfon, gyda'i ystad yn bennaf ym mhlwyfi Llandwrog, Llanllyfni a Chlynnog Fawr. Trwy ei fam fe etifeddodd diroedd yn Llanfwrog, Môn, hefyd, a dichon iddo fyw ym Mhlasyng Nglyn nes i'w dad farw ac yntau a'i deulu'n symud i Glynllifon. Wedi hynny, aeth ati i foderneiddio a helaethu'r plasty yno.

Bu'n briod ddwywaith, yn gyntaf â Jane merch John Griffith o Blas Mawr, Caernarfon a Threfarthen, Ynys Môn a'i wraig Margaret, merch Rhys Thomas o Goed Alun (Coed Helen)[1] Cawsant blant niferus, meibion Thomas Glynn, John Glynn, Richard, William a Threfor Glynn (Na wyddys fawr amdanynt), Edmund Glynn, a merched Grace, a briododd Owen Wynn, Maesoglan; Margaret a briododd Rowland Meredydd, Traphwll; merch anhysbys a briododd un Richard Griffith; a Cordelia a briododd Hugh Meredydd, Mynachdy Gwyn.[2]

Alice, gweddw Rowland Bulkeley, Porthamel, Môn a merch John Conway, Bodrhyddan, Sir y Fflint oedd ei ail wraig, ond ni chawsant hwy blant gyda'u gilydd.

Yn ogystal â'i ddiddordebau teuluol ac ystadol, bu'n ddylanwadol ym myd cyhoeddus a gwleidyddol yr ardal, a Môn yn arbennig. Bu'n uchel siryf Môn ym 1597 ac eto ym 1618. Roedd ar feinciau ynadol Môn a Sir Gaernarfon, ac arolygydd coed brenhinol Sir Gaernarfon..Ym 1606, oherwydd ei wasanaeth milwrol yn Iwerddon fe gafodd ei wneud yn farchog yn Nulyn.[3]

Roedd yn ddyn dysgedig, wedi ei addysgu yng Ngholeg y Brifysgol, Rhydychen 1578 ymlaen; ac wedyn yn Ysbytai'r Frawdlys (Inns of Court) yn 1586. Yn wir, fo oedd y cyntaf i gael ei addysg yn Lloegr, a'r cyntaf i gael ei ethol i Senedd San Steffan. Bu'n cefnogi (ac yn derbyn cefnogaeth) ysweiniaid Llŷn ac Eifionydd yn arbennig, er iddo a theulu Cefnamwlch, Tudweiliog fod yn wrthwynebwyr cyson. Fo, mae'n debyg, oedd yr olaf o'i linach i fod yn noddwr o bwys i'r beirdd a chanodd o leiaf 5 bardd farwnad iddo.[4]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families, (Horncastle, 1914), t.125
  2. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families, (Horncastle, 1914), tt.172-3
  3. ‘’Y Bywgraffiadur Cymreig’’ (Llundain, 1953), t.262
  4. P.B. Hasler, The History of Parliament: the House of Commons 1558-1603 (Llundain, 1981), ar gael ar-lein [1], cyrchwyd 18.10.2019