R. Hughes Williams (Dic Tryfan): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
1878-1919
Roedd '''Richard Hughes Williams'''  (1878-1919) yn awdur. Hyfrydle, [[Rhosgadfan]] oedd ei gartref. Yn fab i chwarelwr, bu yntau yn y chwarel am ychydig. Wedyn bu yn ysgol breifat J. Lewis Jones yng Nghaernarfon ac ar ôl hynny yn glerc yn swyddfa’r ''Genedl''. Bu yn Lloegr am rai blynyddoedd yn dilyn gwahanol orchwylion. Dychwelodd i Gaernarfon tua dechrau’r 20fed ganrif i fod yn is-olygydd yn swyddfa’r ''Herald Cymraeg''. Yn 1913 aeth i Aberystwyth i olygu’r ''Aberystwyth Observer'' ac oddi yno, ymhen dwy flynedd, i olygu papur lleol.  Bu’n gweithio mewn ffatri cad-ddarpar yn Burry Port adeg y rhyfel mawr; amharwyd ar ei iechyd a dychwelodd i Aberystwyth, y tro hwn yn aelod o staff y ''Cambrian News''.  Gwaethygodd ei iechyd a bu farw ac yntau tua 44 mlwydd oed, yn ysbyty Tregaron, 26 Gorffennaf 1919.
Hyfrydle, Rhosgadfan oedd ei gartref. Yn fab i chwarelwr,bu yntau yn y chwarel am ychydig. Wedyn bu yn ysgol breifat J. Lewis Jones yng Nghaernarfon ac ar ôl hynny yn glerc yn swyddfa’r ''Genedl''. Bu yn Lloegr am rai blynyddoedd yn dilyn gwahanol orchwylion. Dychwelodd i Gaernarfon tua dechrau’r 20fed ganrif i fod yn is-olygydd yn swyddfa’r ''Herald Cymraeg''. Yn 1913 aeth i Aberystwyth i olygu’r ''Aberystwyth Observer'' ac oddi yno, ymhen dwy flynedd, i olygu papur lleol.  Bu’n gweithio mewn ffatri cad-ddarpar yn Burry Port adeg y rhyfel mawr; amharwyd ar ei iechyd a dychwelodd i Aberystwyth, y tro hwn yn aelod o staff y ''Cambrian News''.  Gwaethygodd ei iechyd a bu farw ac yntau tua 44 mlwydd oed, yn ysbyty Tregaron, 26 Gorffennaf 1919.


Fe’i hystyrir yn arloeswr y stori fer yn Gymraeg a chyhoeddwyd dau lyfr o’i storïau yn ystod ei fywyd:  ''Straeon y Chwarel'', a ''Tair Stori Fer'' (buddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bangor 1915). Yn 1932 cyhoeddwyd detholiad, ''Storïau Richard Hughes Williams'', gan Hughes a’i Fab, gyda rhagymadrodd gan E. Morgan Humphreys a ddywedodd amdano: “Ni bu’r stori fer Gymraeg yr un fath wedi iddo ef weithio arni.... rhoddodd ei feddwl ar ei berffeithio ei hun ynddi.”
Fe’i hystyrir yn arloeswr y stori fer yn Gymraeg a chyhoeddwyd dau lyfr o’i storïau yn ystod ei fywyd:  ''Straeon y Chwarel'', a ''Tair Stori Fer'' (buddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bangor 1915). Yn 1932 cyhoeddwyd detholiad, ''Storïau Richard Hughes Williams'', gan Hughes a’i Fab, gyda rhagymadrodd gan E. Morgan Humphreys a ddywedodd amdano: “Ni bu’r stori fer Gymraeg yr un fath wedi iddo ef weithio arni.... rhoddodd ei feddwl ar ei berffeithio ei hun ynddi.”

Fersiwn yn ôl 12:37, 30 Medi 2019

Roedd Richard Hughes Williams (1878-1919) yn awdur. Hyfrydle, Rhosgadfan oedd ei gartref. Yn fab i chwarelwr, bu yntau yn y chwarel am ychydig. Wedyn bu yn ysgol breifat J. Lewis Jones yng Nghaernarfon ac ar ôl hynny yn glerc yn swyddfa’r Genedl. Bu yn Lloegr am rai blynyddoedd yn dilyn gwahanol orchwylion. Dychwelodd i Gaernarfon tua dechrau’r 20fed ganrif i fod yn is-olygydd yn swyddfa’r Herald Cymraeg. Yn 1913 aeth i Aberystwyth i olygu’r Aberystwyth Observer ac oddi yno, ymhen dwy flynedd, i olygu papur lleol. Bu’n gweithio mewn ffatri cad-ddarpar yn Burry Port adeg y rhyfel mawr; amharwyd ar ei iechyd a dychwelodd i Aberystwyth, y tro hwn yn aelod o staff y Cambrian News. Gwaethygodd ei iechyd a bu farw ac yntau tua 44 mlwydd oed, yn ysbyty Tregaron, 26 Gorffennaf 1919.

Fe’i hystyrir yn arloeswr y stori fer yn Gymraeg a chyhoeddwyd dau lyfr o’i storïau yn ystod ei fywyd: Straeon y Chwarel, a Tair Stori Fer (buddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bangor 1915). Yn 1932 cyhoeddwyd detholiad, Storïau Richard Hughes Williams, gan Hughes a’i Fab, gyda rhagymadrodd gan E. Morgan Humphreys a ddywedodd amdano: “Ni bu’r stori fer Gymraeg yr un fath wedi iddo ef weithio arni.... rhoddodd ei feddwl ar ei berffeithio ei hun ynddi.”